Ni fu adeg well erioed i gael mynediad at yr amrediad o gefnogaeth sydd ar gael fel rhan o Cyswllt Ffermio. Gyda chyrsiau hyfforddiant achrededig, grwpiau trafod, mentora, gwasanaeth cynghori a llawer iawn mwy… sicrhewch eich bod yn ymweld â’n stondin yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru eleni a gadewch i ni eich cynorthwyo i ddatblygu eich busnes.

“Byddem yn annog pob ffermwr a choedwigwr sy’n ymweld â’r Ffair Aeaf eleni i alw heibio i’n stondin ar y balconi uwchben y prif gylch i siarad gyda’n staff a fydd yn hapus i’w cyfeirio at gefnogaeth sy'n berthnasol i anghenion eu busnes. Mae amrediad eang o wasanaethau busnes a thechnegol bellach ar gael; yn ogystal â chyfleoedd hyfforddiant a mentora newydd ac mae nifer o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal yn eu rhanbarthau lleol eu hunain," meddai Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig Menter a Busnes, sy'n darparu Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygiad Gwledig.

Bydd Cyswllt Ffermio yn arddangos eu hadnodd 'Mesur i Reoli' ar-lein newydd a bydd nifer o gyhoeddiadau newydd ar gael gan gynnwys cyfeiriadur newydd o fentoriaid Cyswllt Ffermio, sef unigolion profiadol sy'n gallu darparu cefnogaeth ac arweiniad diduedd ar sail un-i-un am hyd at 22.5 awr.

“P’un ai ydych yn newydd ddyfodiaid neu’n berson busnes sydd eisoes wedi sefydlu, os oes angen i chi arwain eich busnes i gyfeiriad gwahanol neu'n dymuno ystyried menter busnes newydd neu ffordd wahanol o weithio, gallai'r gwasanaeth hwn ddarparu'r arweiniad, anogaeth a'r gefnogaeth sydd arnoch ei angen," meddai Mrs. Williams. 

Gallwch weld sut mae’r treialon a’r prosiectau sy’n rhan o rwydwaith arddangos Cyswllt Ffermio yn dechrau dangos canlyniadau yn rhifyn diweddaraf cyhoeddiad technegol Cyswllt Ffermio, a gallwch un ai gasglu copi ar y stondin neu ymuno â'r rhestr i dderbyn copi'n electroneg. 

“Mae’r wyth safle arloesedd, 12 fferm arddangos a nifer o safleoedd ffocws sy’n rhan o raglen trosglwyddo gwybodaeth Cyswllt Ffermio eisoes yn darparu tystiolaeth glir sy’n dangos bod rhoi cyngor gan arbenigwyr ar waith a chael yr hyder i roi cynnig ar systemau newydd yn talu ar ei ganfed ar draws pob agwedd o fusnes y fferm," meddai Mrs. Williams.

Mae'r ffermwr arddangos, Irwel Jones, Aberbranddu, Pumsaint, Sir Gâr yn treialu pum system pesgi gwahanol fel rhan o brosiect i werthuso perfformiad ŵyn ac effeithiolrwydd costau ar ei fferm fynydd 850 erw sy'n gwerthu 800 o ŵyn y flwyddyn i gyfanwerthwr.

“Rydym ni eisiau pesgi ŵyn ynghynt ar bwysau trymach. Bydd y prosiect hwn yn cymharu cymysgedd o rêp porthiant a chymysgedd rhygwellt Eidalaidd; hen wndwn yn unig; hen wndwn gydag ychwanegion dwysfwyd a bwydo dwysfwyd dan do. Byddaf yn gallu cymharu’r gwahanol opsiynau a gweld beth sy’n helpu’r ŵyn berfformio ar eu gorau.

“Mae angen cyfiawnhau costau pesgi ac un o’n prif amcanion yw bod yn llai dibynnol ar fwyd a brynir i mewn," meddai Irwel. Bydd y canlyniadau’n cael eu rhannu yn ystod diwrnod agored Cyswllt Ffermio yn Aberbranddu rhwng 1yp - 3yp, 14 Rhagfyr.

irwel jones with sheep 3
 Ffermwr Arddangos, Irwel Jones o Aberbranddu

Eglurodd Mrs Williams mai nid y ffermwyr arddangos eu hunain yn unig sy’n elwa o'r profiad o gynnal treialon a phrosiectau ochr yn ochr ag arbenigwyr penodol i’r sector sydd wedi dod yno i’w cynorthwyo, ond gall pob ffermwr yng Nghymru hefyd elwa, gan fod y prosiectau’n gweithredu fel llwyfan i dreialu technegau a thechnolegau rheolaeth newydd ac arloesol.

“Mae rhai o’r ffermydd yn treialu coleri electronig i ganfod gwartheg sy'n gofyn tarw yn y fuches sugno ac yn croesawu technoleg genomeg ar gyfer gwartheg bîff a llaeth, ac ar ffermydd eraill, dylai pori cylchdro a chynhyrchu cnydau amgen ar gyfer pesgi da byw a lleihau cloffni mewn defaid wneud gwahaniaeth mawr i'r elw. 

Mae gwella rheolaeth glaswelltir, iechyd a lles anifeiliaid a rheolaeth amgylcheddol yn rai o'r materion sy'n cael eu trafod. Mae pob un ohonynt yn feysydd a fyddai'n gallu gwella cynaliadwyedd a lleihau costau cynhyrchiant, sy'n hanfodol ar gyfer busnesau fferm sydd eisiau cynyddu elw.

Bydd stondin Cyswllt Ffermio wedi’i leoli yn y man arferol ar falconi llawr cyntaf yr adeilad da byw (stondin EXP284) lle bydd croeso i bawb glywed mwy am yr hyn sydd ar gael ac i fwynhau diod cynnes a mins pei.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y