24 Awst 2018

 

Mae gwneud penderfyniadau’n gynnar yn allweddol er mwyn cau’r bwlch sylweddol mewn porthiant sy’n bresennol ar nifer o ffermydd da byw a ffermydd godro ledled Cymru.

Mae’r arbenigwr glaswelltir, Chris Duller, yn amcangyfrif bod y cyfnod sych parhaus wedi gadael ffermydd gyda dwy ran o dair o’r porthiant sydd arnynt ei angen ar gyfer y gaeaf ar gyfartaledd – ond mae’n dweud y gallai gweithredu nawr gau’r bwlch hwnnw.

Cyn penderfynu ar ba strategaeth i’w fabwysiadu, mae’n rhaid i ni gyfrifo stoc porthiant a galw dros y gaeaf, meddai wrth ffermwyr a fynychodd ddigwyddiad ‘Cau’r bwlch porthiant’ a gynhaliwyd gan Cyswllt Ffermio yn Llanfair ym Muallt.

Cyfrwch a phwyswch fyrnau silwair, ac ar gyfer silwair clamp, lluoswch yr uchder, lled a dyfnder i gyfrifo’r cyfaint.

“Bydd gan y contractwr gofnod o faint o fyrnau a gynhyrchwyd – mae hynny’n amlach yn gynt na cheisio cyfrif byrnau mewn pentyrrau,” meddai Mr Duller. “Mae’n bosibl gweld amrywiaeth mawr yn nwysedd byrnau, felly pwyswch nhw – ewch â phump neu chwech i’r bont bwyso agosaf neu pwyswch nhw yn eich wagen borthiant.’’

Mae canfod cynnwys deunydd sych silwair yn bwysig. “Gallwch naill ai trefnu dadansoddiad neu wneud eich asesiad deunydd sych eich hunan yn y microdon,” awgrymodd Mr Duller.

Unwaith y byddwch yn gwybod y ffigyrau ar gyfer cyfaint a deunydd sych, bydd hi’n bosibl cyfrifo’r galw.

Yn ystod y gaeaf hwn, , dylai buwch 650kg mewn buches sy’n lloia yn y gwanwyn fwyta tua 1.5% o’i phwysau byw mewn deunydd sych, sy’n gyfwerth â 9kgDM y dydd.

“Bydd bwydo 20 o wartheg am 150 diwrnod yn gofyn am 27,000kgDM,’’ meddai Mr Duller. “Os mae’r silwair yn cynnwys 40% deunydd sych, mae hynny’n 67,500kg o silwair ffres, er y dylid ffactora 10% ar gyfer gwastraff, sy’n golygu bod y silwair sy’n angenrheidiol ar gyfer yr 20 o wartheg hynny ar gyfer y gaeaf yn 74,250kg. Os mae’r byrnau’n 550kg ar gyfartaledd, mae hynny’n 135 o fyrnau.

“Mae gwartheg pawb yn amrywio o ran maint, gwahanol gyfnodau dan do a gwahanol gyfanswm deunydd sych – a gwahanol lefelau gwastraff – ond mae gwneud y cyfrifiad yn hanfodol.’’

Pan fyddwch yn gwybod beth yw’r cyflenwad presennol a’r galw ar gyfer y gaeaf, ystyriwch opsiynau ar gyfer cau unrhyw fwlch mewn porthiant.

Nid yw’n rhy hwyr i ail-hadu, naill ai gyda rhywogaethau hirdymor neu rygwellt Eidalaidd neu Westerwold tymor byr.

“Mae potensial i gaeau sydd wedi’u hail hadu dyfu dwywaith cymaint â’r hen wyndonnydd dros yr hydref, ond mae angen cymryd gofal wrth bori i osgoi difrod ac i gadw’r defnydd yn uchel,’’ rhybuddiodd Mr Duller.

“Mae gwyndonnydd tymor byr yn cynnig llawer o borthiant, gellir pori rhywogaethau Westerwold a rhygwellt Eidalaidd o fewn 10 wythnos, ac erbyn y Nadolig, gallant fod wedi tyfu cymaint â 4tDM/ha yn rhwydd, ond maen nhw’n fwy addas ar gyfer tiroedd sychach a bydd angen eu rheoli’n ofalus y gwanwyn nesaf.’’

Mae maip sofl a rêp porthiant yn opsiynau eraill, sy’n darparu 3.5-4tDM/ha o borfa erbyn mis Tachwedd. “Bwydwch nhw’n dda er mwyn iddynt sefydlu’n sydyn a sicrhau bod yr isadeiledd mewn lle i wneud y defnydd gorau ohonynt,” meddai Mr Duller.

Bydd mewnbynnau gwrtaith yn sylfaen i gynhyrchiant yn ystod yr hydref.

Ychwanegwch 30kgN i’r caeau unwaith y bydd lefelau lleithder wedi dychwelyd i’r pridd, argymhellodd Mr Duller. Bydd cnydau silwair angen sylffwr hefyd.

Er mwyn cadw cynhyrchiant i fynd, anelwch at dargedu 30-40kgN/ha ym mis Medi ar gyfer rhygwellt a gwyndonnydd ifanc.

“Bwydwch eich caeau da a bydd yr ymateb yn 15:1 o leiaf, gan eich galluogi i gael o leiaf 600kgDM/ha yn ychwanegol o ganlyniad i ychwanegu nitrogen ym mis Medi,’’ meddai Mr Duller.

Ar rai ffermydd, dylid ystyried lleihau niferoedd stoc, y cyfnod cadw dan do a gwastraff, meddai Mr Duller.

“Gallwch ddifa ynghynt, gwerthu stoc wedi’u pesgi, sgorio cyflwr a nodi grwpiau a allai dderbyn porthiant cyfyngedig. Peidiwch â bod ofn defnyddio dwysfwyd i symud stoc ymlaen ond targedwch y dwysfwyd at yr anifeiliaid gyda’r trosiant bwyd gorau.

“Cymerwch gamau i leihau gwastraff gydag arferion rheoli clamp da - ystyriwch ddefnyddio ychwanegion ar silwair, hogi llafnau’r grafanc, a rhowch ddau orchudd ar fyrnau silwair.’’

Mae’n rhaid rheoli pori. “Cadwch mewn cof y bydd pob blewyn o laswellt sy’n tyfu rhwng nawr a diwedd mis Tachwedd yn cael ei ddefnyddio,” meddai Mr Duller.

Ystyriwch gadw glaswellt wrth gefn ar gyfer pori yn ystod y gaeaf drwy neilltuo glaswellt sy’n tyfu rhwng nawr a mis Rhagfyr. Dewiswch gaeau sych. “Mae angen buddsoddi mewn ffensys trydan ond mae’n costio dwywaith cymaint i wneud silwair o’i gymharu â’i bori,”eglurodd Mr Duller.

Neu ystyriwch brynu porthiant. “Mae costau yn uchel ond mae’r ansawdd yn dda. Prynwch nawr gan na fydd yn mynd yn rhatach erbyn mis Rhagfyr.’’

Dywedodd Nerys Hammond, swyddog datblygu Cyswllt Ffermio ar gyfer Brycheiniog, a hwylusodd y cyfarfod, mai’r brif neges oedd na ddylai ffermwyr sy’n wynebu prinder bwyd adael popeth yn nwylo ffawd.

“Mae’r sefyllfa ar draws Cymru yn amrywiol ond bydd strategaethau sy’n cael eu cyflwyno nawr yn helpu i atal prinder bwyd yn y gaeaf,’’ meddai.

Ariennir y prosiect gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cymorth i Dyfwyr a Ffermwyr yng Ngŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad
13 Mai 2024 Mae Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad ar Faes Sioe Frenhinol
Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o