16 Awst 2018

 

Mae ffermwyr ledled Cymru’n cael eu hannog i fanteisio ar y gefnogaeth a allai helpu i hybu eu perfformiad economaidd ac amgylcheddol trwy fynychu un o ddigwyddiadau ‘Sioe Deithiol Ffermio Cynaliadwy’ Cyswllt Ffermio’r mis nesaf.

Bydd pob un o’r digwyddiadau gyda’r nos yn cael eu cynnal mewn lleoliadau ledled Cymru o’r wythnos gyntaf ym mis Medi ymlaen. Bydd y digwyddiadau’n helpu ffermwyr i ddeall sut i reoli eu tir a’u hadnoddau’n effeithiol a gwybod pa gefnogaeth sydd ar gael i’w cynorthwyo i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl, gan hefyd leihau’r perygl o lygredd amgylcheddol a gwella ansawdd dŵr, pridd ac aer ar yr un pryd.

Bydd y digwyddiadau’n cael eu cadeirio naill ai gan Dr Prysor Williams, uwch ddarlithydd mewn rheolaeth amgylcheddol ym Mhrifysgol Bangor, neu Aled Jones, syrfëwr siartredig a’r ysgolhaig Nuffield o Gaerfyrddin. Bydd pob digwyddiad yn cynnwys cyflwyniadau gan arbenigwyr amgylcheddol a ffermwyr o Gymru sydd wedi gwneud newidiadau cadarnhaol i’w harferion storio a rheoli slyri ar ôl derbyn cefnogaeth ac arweiniad cyfrinachol, annibynnol trwy raglen Cyswllt Ffermio.

Mae Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig gyda Menter a Busnes, sy’n darparu Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru, yn annog ffermwyr o bob cwr o Gymru i fynychu.

“Bydd mynychu Sioe Deithiol Ffermio Cynaliadwy yn sicrhau eich bod yn ymwybodol o’r hyn sydd ei angen gan eich busnes, a byddwch yn clywed drosto eich hun sut mae’r cyngor a’r gefnogaeth sydd ar gael wedi galluogi nifer o ffermwyr yng Nghymru i reoli ansawdd dŵr, pridd ac aer mewn modd mwy effeithlon, gan sicrhau cydymffurfiaeth gyda’r rheoliadau presennol ac arbed arian ar yr un pryd,” meddai Mrs Williams.

Gall Gwasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio ddarparu cyllid 80% ar gyfer cyngor arbenigol, annibynnol, cyfrinachol wedi’i deilwra ynglŷn â chynllunio rheoli maetholion, rheoli a storio slyri a thail buarth ac isadeiledd fferm. Mae’r gwasanaeth wedi’i ariannu’n llawn ar gyfer ceisiadau ar sail grŵp o dri neu fwy.   

Yn ogystal, ceir hefyd gwasanaethau Cyswllt Ffermio sydd wedi’u hariannu’n llawn i helpu ffermwyr leihau’r perygl o lygredd amaethyddol, gan gynnwys ymgynghoriad un i un mewn cymhorthfa gynllunio i sicrhau eich bod yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf a’ch bod wedi paratoi’n ddigonol cyn mynd at eich awdurdod cynllunio lleol; mentora un i un gan ffermwr cymeradwy sydd wedi mynd i’r afael â heriau tebyg ac wedi darganfod ffyrdd o’u datrys, ac EIP Wales, sy’n cynnig cymorth ariannol i gefnogi ceisiadau grŵp i ddatblygu syniadau arloesol i drechu llygredd amaethyddol.

“Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig amrediad eang o gefnogaeth ymarferol a gwasanaethau cynghori, a bydd y gyfres hon o ddigwyddiadau Ffermio Cynaliadwy yn cynnig y cyfle delfrydol i sicrhau bod ffermwyr yn ymwybodol o’r hyn sydd ar gael iddyn nhw,” meddai Mrs Williams.  

Bydd Keith Owen, uwch ymgynghorydd adeiladau a materion amgylcheddol gydag ADAS, yn un o’r prif siaradwyr ym mhob digwyddiad.

“Gall gwelliannau bychain sy’n aml yn gymharol isel o ran cost arwain at fanteision economaidd ac amgylcheddol sylweddol, felly mae’n hanfodol bod ffermwyr ledled Cymru yn ymwybodol o beryglon llygredd dŵr a allai, heb sylw angenrheidiol, ddifrodi eu tir ac arwain at leihad mewn elw,” meddai Mr Owen.

Hefyd ar frig yr agenda fydd hybu’r cyfnod ymgeisio diweddaraf ar gyfer cynllun Grant Cynhyrchu Cynaliadwy (SPG) £6miliwn Llywodraeth Cymru, a fydd yn agor ar 3 Medi ac yn cau ar 26 Hydref. Bydd y cyfnod ymgeisio diweddaraf yn canolbwyntio ar ddefnyddio adnoddau mewn modd effeithlon i leihau nifer yr achosion o lygredd sy’n digwydd yng Nghymru.

Bydd y cynllun yn darparu grant o rhwng £12,000 a £50,000 i ffermwyr cymwys sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio. Gellir defnyddio’r cyllid tuag ar eitemau gan gynnwys storfeydd slyri wedi’u gorchuddio ac offer rheoli, ynghyd ag ystod o eitemau eraill a fydd yn cefnogi ffermwyr i fod yn fwy cynaliadwy yn economaidd ac yn amgylcheddol.

Mae’n rhaid i bob ffermwr cymwys ymgeisio ar gyfer y grant drwy wasanaeth Taliadau Gwledig Cymru (RPW) ar lein, sef porth ar lein Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau fferm.  Bydd manylion am y cynllun, meini prawf cymhwysedd a’r broses ymgeisio ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru’n fuan. Mae’n rhaid i unrhyw unigolyn sy’n ymgeisio am y grant fod wedi cofrestru fel partner busnes gyda Cyswllt Ffermio a Thaliadau Gwledig Cymru ac mae’n rhaid iddyn nhw fod wedi mynychu un o ddigwyddiadau Ffermio Cynaliadwy Cyswllt Ffermio. 

“Bydd mynychu un o’r digwyddiadau Ffermio Cynaliadwy yn eich galluogi i ymgeisio ar gyfer yr SPG, fodd bynnag, byddem yn eich cynghori i fanteisio ar yr arweiniad cyfrinachol a diduedd y mae Cyswllt Ffermio yn gallu ei ddarparu er mwyn sicrhau eich bod yn gwneud y defnydd gorau o’r buddsoddiad,” meddai Mrs Williams.

Bydd drysau’n agor ar gyfer pob un digwyddiad yn y sioe deithiol er mwyn arwyddo i mewn am 7yh, a bydd y digwyddiadau’n dechrau am 7:30yh. Mae archebu lle ymlaen llaw yn hanfodol. 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cymorth i Dyfwyr a Ffermwyr yng Ngŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad
13 Mai 2024 Mae Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad ar Faes Sioe Frenhinol
Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o