Ymunwch â Menter Moch Cymru a Cyswllt Ffermio i ddysgu mwy gan arbenigwyr fydd yn trafod cyfleoedd a’r hyn sydd   angen ei ystyried wrth gadw moch yn fasnachol fel ffynhonnell arall o incwm.

 

Bydd y digwyddiad yn cynnwys:

Gofynion o ran siediau a lle, Bioddiogelwch, Prynu moch, Cost cynhyrchu, Bwyd a Canfod marchnad.

 

Dewch i ddarganfod y ffactorau sy'n gysylltiedig i allu gwneud penderfyniad ar arallgyfeirio i foch ar eich fferm.

Yn ogystal, bydd cyfle i ddarganfod a dysgu am elfennau o'r busnes a fydd yn allweddol i lwyddiant:

  • gwneud cysylltiadau Newydd, mynediad at gyngor arbenigol
  • darganfod beth sydd ar gael a cyfle i fynychu diwrnodiau hyfforddi.

 

Yn ogystal â throsolwg o weithgareddau Menter Moch Cymru a Cyswllt Ffermio, mi i fydd cyn-gyfarwyddwr strategol porc yr AHDB, sydd bellach yn ymgynghorydd annibynnol, Mick Sloyan yn rhoi trosolwg o’r sector â’r cyfleoedd sydd ar gael. Yn ogystal â hyn, mi fydd y ffermwr moch Luke Starkey yn siarad am ei fusnes a’i daith ers ymuno â'r sector foch yn 2017. Mae mynychu un o’r digwyddiadau hyn yn gyfle euraidd i ddysgu a holi arbenigwyr ynghyn ag arallgyfeirio i foch.

 

Mae dyddiad, asmer a lleoliad y digwyddiad fel a ganlyn:

27/11/2019

19:00 – 21:00

Nantyffin Motel, Llansissilio, Sir Benfro, SA66 7SU

 

 

28/11/2019

19:00 – 21:00

Three Salmons Hotel, Usk, Sir Fynwy, NP15 1RY

 

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Astudiaeth Cyswllt Ffermio yn taflu goleuni newydd ar statws iechyd y pridd mewn caeau tir âr
03 Mawrth 2026 Mae nifer o gaeau sy'n cael eu ffermio mewn
Mae profion genomig yn datgloi potensial llawn buches groesfrid yng Nghymru
26 Chwefror 2026 Mae profi heffrod croesfrid a buchod sy’n
Da i’r blaned, i’r da byw ac i’r busnes
Mae’r ffermwr pedwaredd genhedlaeth, Dylan Jones, yn glir nad oes