07 Rhagfyr 2023

 

Mae dull o reoli glaswelltir sy’n cael ei ddisgrifio fel “trawsnewidiol” yn galluogi fferm bîff yn Sir Benfro i dyfu a phesgi gwartheg heb unrhyw ddwysfwyd.

Dechreuodd Paul Evans a Risca Solomon ffermio ar Fferm Campbell ym mis Ebrill 2022, ar ddaliad 120 erw ger Cas-wis a oedd wedi’i ffermio gan rieni Risca.

Aeth y cwpl ati i'w stocio â buches bedigri o wartheg bîff Charolais a gwartheg llaeth croes bîff, a oedd wedi’u prynu fel lloi wedi'u magu â bwced o farchnadoedd da byw lleol i'w magu a'u pesgi.

Roedd y system a sefydlwyd ganddynt yn dibynnu ar fwydo dwysfwyd a brynwyd i mewn, ac yn ystod gaeaf 2022, roeddent yn gwario £2,000 - £3,000 y mis ar draws 75 o wartheg masnachol a lloeau’r fuches bedigri 14 buwch.

“Doedd yr hyn roedden ni’n ei ennill ddim hyd yn oed yn talu’r bil porthiant, heb sôn am y deunydd gorwedd, dŵr a’r holl gostau eraill,” yn ôl Risca.

Roedd hi’n bryd ailfeddwl, ac ar gyngor eu cyfrifydd, fe’u hanogwyd i wneud gwell ddefnydd o’r glaswellt ar Fferm Campbell.  

“Soniodd ein cyfrifydd am raglen Rhagori ar Bori Cyswllt Ffermio,” meddai Risca.  

Nod y rhaglen hon yw helpu ffermwyr i ddod yn rheolwyr gwell ar laswelltir.  

Cysylltodd Risca a Paul â’u swyddog datblygu Cyswllt Ffermio lleol, Susie Morgan, cawsant gymhorthfa un i un gyda’r ymgynghorydd pori, Rhys Williams o Precision Grazing.

“Roedd yn wych,’’ meddai Risca. “Yn fy mhrif swydd fel dadansoddwr ymddygiad, rwyf wedi arfer gweithio gyda graffiau a siartiau, felly roedd cymhwyso hynny i reoli glaswelltir i gyd yn gwneud synnwyr i fi, sef na allwch chi reoli’r hyn nad ydych chi’n ei fesur.”

Gwnaeth y cwpl gais am gyllid o 80% trwy’r Gwasanaeth Cynghori i Agriplan Cymru gynhyrchu adroddiad technegol, ‘canllaw cam wrth gam’ ynghylch sut i sefydlu’r isadeiledd pori a rheoli’r glaswelltir.

Aethant ati i isrannu caeau â ffensys trydan, i greu padogau llai, a dilyn cyngor Agriplan Cymru ar sefydlu isadeiledd dŵr.

Rhoddwyd cyngor iddynt ar bryd i brynu a gwerthu gwartheg er mwyn gwneud y defnydd gorau o’r borfa ac i osgoi prynu porthiant.

Risca sy’n gyfrifol am fesur yn wythnosol yn ystod y tymor pori a llwytho’r wybodaeth i ap i greu cynllun pori.

Dywed nad oes gwyddoniaeth gymhleth y tu ôl i’r system maent yn ei dilyn. “Rydym ni wedi dysgu bod glaswellt yn tyfu glaswellt; mae mor syml â hynny,” meddai.  

“Po fwyaf y panel solar, sef dail, sydd gan blanhigyn glaswellt, y gorau fydd yr aildyfiant, ond yn flaenorol, bydden ni’n ei bori i’r gwaelod, bron.’’

Mae pori cylchdro hefyd yn golygu bod llai o bori’n ddewisol, felly mae’r defnydd o’r glaswellt yn well.  

Fel arfer, câi gwartheg eu rhoi dan do ar 14 Hydref, ond 7 Tachwedd oedd hi eleni, a hynny dim ond oherwydd bod y tywydd yn wlyb iawn. “Roedden ni’n gallu pori’n hwyrach oherwydd roedd gennym ni’r glaswellt a hyd yn oed pan oedd hi’n wlyb, ychydig iawn o sathru a gafwyd oherwydd y pori cylchdro,’’ meddai Paul, a oedd yn symud gwartheg bob dydd yn ystod y cyfnod hwnnw.

Yn ystod blynyddoedd blaenorol, byddai defaid sy’n gaeafu’n pori’r fferm yn y gaeaf, ond mae hynny wedi dod i ben. “Rydym ni am i’r glaswellt fod yno er mwyn gallu troi’r gwartheg allan ganol mis Mawrth,’’ meddai Paul.

Mae llunio cyllideb porthiant yn ei helpu i gyfrifo faint o fyrnau silwair sydd eu hangen ar y gwartheg drwy gydol y gaeaf.

Mae pwyso gwartheg yn rheolaidd, ers i’r busnes fuddsoddi mewn celloedd gwasgu a phwyso, wedi bod yn ddefnyddiol hefyd, ac mae’n debygol o olygu defnydd mwy targedig o driniaethau llyngyr. “Pan fydd un neu ddwy yn y grŵp a allai fod yn deneuach na’r lleill, byddwn ni’n dosio’r rheini yn hytrach na thrin y grŵp cyfan,’’ meddai Paul.

Trwy Grŵp Trafod Rhagori ar Bori Cyswllt Ffermio, mae Paul a Risca hefyd yn dysgu mwy am ddyfnderoedd gwreiddio gwahanol fathau o laswellt ac iechyd y pridd. 

“Mae wedi ein helpu ni i feddwl mwy am ddull adfywiol, yn hytrach na chael ateb cyflym tymor byr trwy daflu ychydig o wrtaith ar y tir, efallai. Rydym ni'n meddwl yn fwy hirdymor.''

Maent wedi manteisio ar wasanaeth samplu pridd Cyswllt Ffermio, sydd wedi’i ariannu,  ac mae hwnnw wedi eu helpu i nodi un cae â statws maetholion sydd angen ei wella, ac eraill nad oes angen unrhyw fewnbynnau arnynt.  

Er y bu cost i osod yr isadeiledd pori, mae Paul a Risca yn cyfrifo y gallai’r arbedion ar borthiant a gwrtaith yn y flwyddyn gyntaf yn unig dalu am hyn.

Dywed Risca fod yr arweiniad maent wedi’i gael trwy Cyswllt Ffermio wedi newid eu ffordd o ffermio. “Mae wedi bod yn drawsnewidiol,” meddai.  

Am ragor o wybodaeth ynghylch sut y gallwch gyrchu cyngor arbenigol trwy’r Gwasanaeth Cynghori, ewch i http://www.llyw.cymru/cyswlltffermio neu cysylltwch â’ch Swyddog Datblygu Lleol https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/cysylltwch-ni/eich-sw…
 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint