19 Awst 2021

 

Gall mathau o rawn hynafol gynnig opsiwn amgen da i gnydau grawn modern ar ffermydd mewnbwn isel, ond gall sefydlu’r cnwd fod yn her, fel y gwelwyd mewn arbrofion cnydau yn Sir Benfro.

Dim ond 9% o dir fferm yng Nghymru sy’n cael ei ddefnyddio i gynhyrchu cnydau âr ar hyn o bryd, ac mae’r mwyafrif o’r tir hwnnw’n cael ei ddefnyddio ar gyfer tyfu grawn modern.

Ond mae grawn daro gan gynnwys Emmer ac Einkorn ac amrywiaethau eraill sy’n cael eu categoreiddio fel grawn hynafol a threftadaeth bellach yn cael eu treialu ar systemau ffermio organig a mewnbwn isel gyda chyllid gan Bartneriaeth Arloesi Ewrop (EIP) yng Nghymru.

Mae’r amrywiaethau hyn wedi cael eu gwthio i’r ymylon ers canrifoedd o ganlyniad i dyfu grawn mwy cynhyrchiol sy’n cynnwys mwy o glwten. 

Fodd bynnag, mae cyfuniad o alw cynyddol gan bobwyr crefft a’u haddasrwydd i systemau organig a mewnbwn isel wedi golygu bod diddordeb cynyddol mewn ail-gyflwyno amrywiaethau grawn ar gaeau Cymru.

Bydd canlyniadau o’r arbrofion EIP ar gyfer grawn a heuwyd yn y gwanwyn a’r gaeaf yn llywio cynhyrchiant at y dyfodol.

Cynhaliodd Cyswllt Ffermio ddiwrnod agored ar un o ffermydd yr arbrofion, Caerhys ger Tŷ Ddewi, i alluogi tyfwyr posibl i weld cymariaethau ochr yn ochr o’r lleiniau a heuwyd gyda’r grawn modern, Mulika, a gydag amrywiaethau hadau hynafol.

Mae rhai wedi cael eu tan hau gyda meillion, ac maent hefyd wedi cael eu hau gyda ffa.

Dywedodd Henny Lowth o’r Ganolfan Ymchwil Organig, sy’n un o’r ymchwilwyr ar y prosiect, fod y grawn treftadaeth Ebrill Barfog wedi perfformio cystal â’r Mulika o ran cynhyrchiant yn ystod blwyddyn gyntaf yr astudiaeth, ac wedi perfformio’n well o ran cynnwys protein a phwysau penodol dan amodau organig.

Yn ôl y disgwyl, perfformiodd Mulika yn well nag Ebrill Barfog yn y system gonfensiynol.

Un man lle’r oedd yr amrywiaethau hynafol wedi sgorio’n sylweddol uwch oedd o ran atal chwyn - Ebrill Barfog oedd wedi atal y chwyn fwyaf, meddai Ms Lowth.

Fodd bynnag, roedd plygu’n broblem sylweddol gydag Einkorn ac Ebrill Barfog -roedd y potensial ar gyfer plygu ar ei uchaf ar gyfer y ddau yn y system dyfu gonfensiynol.

Dywedodd Ms Lowth fod Einkorn yn cynnig cyfle ar gyfer arallgyfeirio cnydau, ond bod ei berfformiad cyffredinol a’r anawsterau wrth ganfod cyfleusterau prosesu megis diblisgo yn cyfyngu ar ei botensial.

Roedd lefelau clefydau ffwng Septoria yn debyg iawn ar y cyfan ar draws y cnydau, ond roedd mwy o achosion o Rwd Melyn yn y cnwd Ebrill Barfog.

Gwelwyd mai ychydig iawn o effaith yr oedd cyfraddau hadu’n ei gael ar gynnyrch cnydau, ond cafwyd tueddiad i ryw raddau o gynnyrch uwch o ganlyniad i gyfraddau hau uwch dan amodau tyfu organig.

Dywedodd Ms Lowth fod rhwystrau rhag llwyddo wrth dyfu amrywiaethau treftadaeth, yn benodol bod prinder peiriannau ac isadeiledd ar gyfer diblisgo; gall ansawdd hadau hefyd fod yn broblem.

“Nid yw llawer o’r hadau ar gael yn fasnachol, felly mae angen cyfnewid llawer ohonynt neu eu harbed gartref,’’ eglurodd Ms Lowth.

Mae Gerald Miles o fferm Caerhys yn gyffrous iawn am ddyfodol grawn treftadaeth mewn cylchdro cnydau.

Roedd yn gobeithio y byddai’r arbrofion yn arwain at ragor o’r cnydau hyn yn cael eu tyfu ledled Cymru.

“Mae bara crefft yn boblogaidd iawn erbyn hyn, a hoffwn weld pob cwsmer yng Nghymru’n cael cyfle i fwyta’r bara hwn,” meddai.

Bydd yr arbrofion yn parhau am drydedd flwyddyn ac unwaith y byddant wedi’u cwblhau, bydd y canlyniadau’n cael eu rhannu gyda’r diwydiant amaeth.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint
Fferm laeth yr ucheldir yn treialu cymysgedd hadau gwndwn llysieuol sydd wedi'u sefydlu gyda hau yn uniongyrchol
16 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yr ucheldir yng Nghymru yn ceisio
Ffermwr llaeth sy’n manteisio ar ‘Gyllid Arbrofi’ yn ceisio gwella bioleg y pridd
15 Ebrill 2024 Mae ffermwr llaeth yn cyflwyno cannoedd o