25 Ebrill 2024

 

Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y gwanwyn yn cyflwyno system fwydo newydd ar gyfer lloi newydd-anedig, a chredir mai dyma’r arbrawf cyntaf o’i fath mewn buches ar raddfa fawr.

Mae Will ac Alex Prichard yn bwydo llaeth wedi’i wella a’i basteureiddio i’w lloi yn ystod 10 diwrnod cyntaf eu bywydau yn hytrach na newid i laeth cyflawn neu laeth powdwr mewn cyfnod byr.

Mae gwaith ymchwil wedi dangos bod bwydo llaeth aeddfed i loi ifanc yn gwella eu gallu i dreulio llaeth, ac mae’r buddion hynny’n parhau gan eu cadw’n iach ac yn eu galluogi i ffynnu wrth iddynt dyfu.

Roedd y teulu Prichard, sy’n cynhyrchu llaeth o’r fuches o 500 o wartheg sy’n lloia yn y gwanwyn, yn awyddus i arbrofi gyda’r system fwydo hon gyda’u buches eu hunain yn Escalwen, Treletert, gyda’r nod o wella iechyd a lles lloi.

Maent yn gwneud y gwaith gyda chymorth Cyllid Arbrofi Cyswllt Ffermio, menter sy’n darparu cyllid i unigolion a grwpiau o ffermwyr a thyfwyr i arbrofi gyda syniadau a’u gwireddu.

Er bod buddion iechyd llaeth wedi’i wella a’i basteureiddio eisoes wedi cael eu profi mewn buchesi sy’n lloia drwy’r flwyddyn yn UDA a Chanada, credir mai dyma’r tro cyntaf i hyn gael ei dreialu mewn buches ar raddfa fawr sy’n lloia mewn bloc.

Mae sicrhau’r maeth cywir yn hanfodol yn ystod cyfnod cyntaf bywyd y llo.

Hyd yn oed ar ôl ychydig oriau, mae’r anifail yn colli ei allu i amsugno gwrthgyrff – ceir gostyngiad dramatig o fewn 10 awr i enedigaeth, ac erbyn 20 awr wedi genedigaeth, mae’r gallu wedi diflannu’n llwyr.

Er mwyn canfod effeithlonrwydd y cynnyrch llaeth hwn, mae’r fferm yn profi gwaed y lloi sy’n cael eu geni yn Escalwen y gwanwyn hwn i ganfod lefelau gwrthgyrff.

Mae statws imiwnoglobwlin y llaeth hefyd yn cael ei brofi cyn ac ar ôl iddo gael ei basteureiddio.

Os oes angen ei wella, mae hyn yn cael ei wneud i gynyddu’r gwerth BRIX i isafswm o12.5%. Yna, mae’n cael ei fwydo i’r lloi yn ystod 10 diwrnod cyntaf eu bywydau.

Defnyddir offer reffractomedr gweledol i fesur BRIX yn y llaeth gan ei fod yn rhoi canlyniad ar unwaith, ond erbyn diwedd yr astudiaeth, bydd imiwnoglobwlin yr holl laeth wedi cael ei brofi gan ddefnyddio Prawf Imiwnodrylediad Rheiddiol ym Mhrifysgol Caeredin.

Dywed y Milfeddyg Dr Ryan Davies, cyfarwyddwr cwmni Veterinary Technical Consulting Ltd, sy’n darparu cyngor arbenigol ar gyfer y prosiect, y bydd hyn yn ein galluogi i bennu cywirdeb BRIX mewn llaeth i feintoli statws imiwnoglobwlin.

“Yna, byddwn yn asesu hynny yn erbyn statws iechyd y lloi,” meddai.

Mae cyfradd marwolaethau o ganlyniad i glefydau lloi newydd-anedig megis dolur rhydd, niwmonia, clwy’r bogail a chlwy’r cymalau, a’r defnydd o wrthfiotigau yn cael eu monitro, ynghyd â chynnydd pwysau byw - ar enedigaeth, yn 30-35 diwrnod oed ac wrth ddiddyfnu.

Nod y prosiect Arbrofi yw datblygu gwell dealltwriaeth ynglŷn â sut mae ffermwyr gyda buchesi mawr sy’n lloia mewn bloc yn gallu cynhyrchu anifeiliaid iach, cynhyrchiol gydag ansawdd bywyd da yn gyson drwy wella iechyd lloi a gofal iechyd ataliol.

Mae anifeiliaid mwy cynhyrchiol yn golygu llai o allyriadau carbon deuocsid, gwell safonau lles anifeiliaid a lleihad yn y defnydd o wrthfiotigau.

Mae Will ac Alex yn gobeithio gweld ffrwyth eu llafur yn eu system eu hunain, ond maent hefyd yn gobeithio y bydd ffermwyr eraill yn elwa pan fydd y canfyddiadau’n cael eu rhannu gyda’r diwydiant ar ddiwedd y prosiect.

"Mae gallu cael gafael ar adnoddau ychwanegol ar adeg brysuraf y flwyddyn i ni wedi ein galluogi i fonitro canlyniadau ein camau gweithredu mewn modd mwy gwyddonol,” meddai Will.

“Mae ariannu profion ar raddfa fawr yn dweud cymaint wrthym am yr hyn sy’n digwydd yn ein buches ein hunain, ac yn bwysicaf oll, pa ymddygiadau a phrotocolau sy’n arwain at welliannau gwirioneddol o ran iechyd y fuches a lleihau ein defnydd o wrthfiotigau,"

Roeddent eisoes wedi gwneud enillion sylweddol o safbwynt iechyd lloi cyn dechrau’r prosiect hwn.

Roedd cyfradd marwoldeb cyfartalog dros bum mlynedd ymysg eu lloi wedi’u diddyfnu o 2018-2022 yn 45%, yn unol â’r cyfartaledd cenedlaethol o 47% - roedd y ffigwr wedi gostwng i 17% erbyn 2023.

Gwelwyd gostyngiad yn y defnydd o Wrthfiotigau Allweddol Bwysig (CIA) o’r flaenoriaeth uchaf o 1.98g/uned boblogaeth wedi’i chywiro (PCU) yn 2022 i sero yn y flwyddyn olynol.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn, dewch i'n digwyddiad Fferm ar y 13fed o Fehefin. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint