Mae addasiadau syml sydd ond yn costio 50c y fuwch yn helpu partneriaeth ffermio llaeth yn Sir Benfro i wella glendid y tethi ac ansawdd y llaeth, ac yn lleihau costau dwysfwyd blynyddol o hyd at £30,345.

Mae’r teulu Harris yn godro 350 o wartheg Holstein Friesian pori ar system organig yn Fferm Ffocws Cyswllt Ffermio Ffosyficer ger Boncath.

Mae’r fuches sy’n lloea mewn blociau yn yr hydref yn cael ei godro mewn parlwr patrwm cefn pennog 20/40 15 mlwydd oed.

Bu gwella’r patrwm godro yn ffocws i astudiaeth Cyswllt Ffermio yn ddiweddar ar y fferm.

Datgelodd y prosiect hwnnw wendidau o ran yr arferion a’r offer eu hunain, diffygion oedd yn effeithio ar gostau’r porthiant, ansawdd y llaeth a chyflwr y tethi.

Ymhlith y diffygion roedd:

  • Y mesuryddion llaeth heb eu calibradu yn gywir; roedd gwahaniaeth o hyd at 15% rhwng rhai ohonynt.
  • Tiwbiau llaeth yn rhy hir, gan olygu nad oedd y clystyrau yn wastad
  • Dim ond tua 50% o dethi’r buchod yr oedd y diheintydd yn ei gyrraedd oherwydd bod y trwynau plastig ar yr unedau chwistrellu wedi dirywio
  • Roedd y buchod yn cael eu godro am 30 eiliad yn hwy nag oedd angen, gan achosi difrod i flaen y deth ac amseroedd godro hwy

ffosyficer parlour testing tubes 1
Mae’r parlwr yn cael ei gynnal a’i gadw yn dda ond wrth fynd yn hŷn mae traul yn effeithio arno, dywed Tom Harris, sy’n ffermio gyda’i wraig, Francisca, a’i rieni, Laurence ac Eira.

“Nid oeddem wedi calibradu’r mesuryddion llaeth erioed oherwydd eu bod yn electronig ond roedd rhai ohonyn nhw hyd at 15% mas ohoni.”

Roedd y buchod yn cael eu porthi ar sail y darlleniadau yma oedd yn golygu y gallai’r cyfraddau porthi fod 15% yn uwch neu’n is nag oedd angen.

Nid yn unig roedd hyn yn costio hyd at £86.70 y fuwch i’r busnes - ar sail 1.7 tunnell o borthiant ar £340 – ond roedd y wybodaeth yn cael ei defnyddio i wneud penderfyniadau bridio a gwaredu.

Yn ôl Ian Ohnstad, arbenigwr technoleg godro yn y Dairy Group, sydd wedi bod yn gweithio gyda Chyswllt Ffermio ar y prosiect yn Ffosyficer, dylai ffermydd llaeth gyda buches arferol galibradu’r mesuryddion bob blwyddyn. I fuchesi mwy, dylid gwneud hyn yn amlach.

“Wrth i faint y fuches gynyddu, mae’r potensial am golledion a manteision hefyd yn cynyddu,” dywedodd.

Mae Mr Ohnstad yn argymell cynnwys calibradu yn rhan o’r rhaglen gynnal a chadw flynyddol.

Amlygodd yr astudiaeth yn Ffosyficer hefyd bod y tiwbiau llaeth yn rhy hir, oedd yn golygu nad oedd y clystyrau yn eistedd yn sgwâr ar y fuwch a bod chwarteri’r gadair yn cael eu godro ar gyfraddau gwahanol, gan arwain at or-odro a than-odro.

“Mae’n rhywbeth y gellir peidio â sylwi arno yn rhwydd iawn oni bai eich bod yn cael pâr ffres o lygaid yn y parlwr,” dywedodd Mr Harris.

Mae hyd y tiwb yn allweddol i gael y buchod i odro yn wastad; os yw’r pwysau yn wahanol ar y tethi byddant yn godro ar gyfraddau gwahanol, gan arwain at gyfrif celloedd uchel, heintiad clinigol a llai o gynnyrch. Ar hyn o bryd mae’r cyfrif celloedd somatig yn Ffosyficer yn 180,000 cell/ml.

Os na fydd y tethi yn cael eu godro yn iawn, byddant yn cilio a bydd y gader yn mynd yn anwastad.

“Y nod yw godro yn gyflym, yn dyner ac yn llwyr - ac yn llwyr yw’r rhan allweddol o hyn,” dywedodd Mr Ohnstad.

“Mae rhai ffermwyr yn dadlau y bydd godro anwastad yn tafoli ohono ei hun mewn parlwr cefn pennog oherwydd y bydd y fuwch yn newid ochr wrth gael ei godro wedyn ond dangosodd tystiolaeth profiad bod tua 80% o fuchod yn dangos tuedd at un ochr yn hytrach na’r llall yn y parlwr godro.”

Un o’r gwelliannau symlaf a rhataf a wnaed i’r parlwr oedd newid y trwynau plastig ar y gynnau chwistrellu tethi.

Plastig yw’r trwynau ac mae’r cynnyrch ychydig yn asidig, felly, gyda thraul gyffredinol, dim ond 50% o’r tethi oedd yn cael eu diheintio.

Am ddim ond £1.50 yr un, dim ond £6 oedd cost newid y pedwar i gyd.

Gall prawf syml – chwistrellu’r gwn at dywel papur – ddangos os ydynt yn gwneud y gwaith. Dylai’r chwistrell greu cylch perffaith ar y tywel. “Pan wnaethon ni brofi gyda’r hen drwynau roedd y chwistrell yn dod allan mewn llinell syth,” dywedodd Mr Harris. “Rydym yn gwario tua £1,500 y flwyddyn ar driniaeth i’r deth ond roedd cymaint ohono yn methu’r deth.”

Mae Mr Harris hefyd wedi newid y drefn sychu tethi cyn godro. Roedd tethi’r buchod yn cael eu sychu gyda thywel papur ac yna roedd y chwarter yn cael ei stripio i wirio am fastitis ac ysgogi’r llaeth i gael ei ollwng.  Mae’r ddwy swyddogaeth wedi cael eu cyfnewid yn awr.

“Rydym yn ei wneud y ffordd arall fel bod y cyffyrddiad olaf ar y deth yn golygu ei bod yn cael ei sychu yn lân yn hytrach na chael ei chyffwrdd â llaw fudr,” esboniodd Mr Harris.

Dywed y gall ffermwyr fuddsoddi yn drwm mewn atal mastitis, ond fel y mae wedi darganfod, gall yr atebion gael eu canfod mewn nifer o newidiadau bach.

Mae’n bwysig hefyd annog staff y fferm i gymryd rhan yn y newidiadau, ychwanegodd. Canmolodd ei gowmon, Sam Kerr. “Mae wedi cymryd meddiant o’r newidiadau.”

Dywed Jamie McCoy, Swyddog Technegol Llaeth Cyswllt Ffermio (De Cymru) trwy wella glendid a lleihau heintiadau, gall ffermwyr llaeth leihau eu defnydd o wrthfiotig a gwella iechyd a lles buchod. “Gall digwyddiadau bach ddigwydd yn araf iawn yn y parlwr llaeth ac yn aml nid yw’r rhain yn cael eu canfod pan fydd rhywun yn gweithio yno bob dydd.

“Mae o gymorth cael llygaid ffres i weld pan fydd pethau wedi cyrraedd lefel gritigol ac angen eu haddasu.”

 

FFOSYFICER - FFEITHIAU AM Y FFERM

  • 1214 ha (3,000 erw) yn cael eu ffermio
  • 130 ha (321 erw) o lwyfan llaeth
  • Yr holl heffrod cyfnewid wedi eu magu gartref – cyfradd gyfnewid o 20% yn flynyddol yn y fuches
  • Gwerthir y llaeth i OMSCo ac fe’i defnyddir i gynhyrchu cynhyrchion Daioni
  • 121 ha (300 erw) barlys a cheirch yn cael eu tyfu i’w defnyddio ar y fferm
  • 6,500 litr y cynhyrchiant llaeth blynyddol cyfartalog ar 4.1% braster a 3.3% protein
  • Y fuches yn lloea o fis Medi i Ragfyr
  • Buchod yn cael eu porthi yn ôl cynnyrch yn y parlwr, hyd at uchafswm o 5kg.

Dangoswyd bod tyweli y gellir eu hailddefnyddio i lanhau tethi buchod cyn eu godro yn gostwng lefelau’r llygriad bacteraidd mewn llaeth o 46% mewn cymhariaeth â thyweli papur.

Cymharodd treial Cyswllt Ffermio ar Ffosyficer Gyfanswm y Cyfrif Bacteraidd mewn llaeth a gynhyrchir gan fuchod oedd yn cael eu sychu â chadachau y gellid eu golchi a thyweli papur defnyddio unwaith yn unig.

Dangosodd y treial bod buchod sy’n cael eu sychu â chadachau y gellid eu golchi yn dangos gostyngiad o 95.3% yng Nghyfanswm y Cyfrif Bacteraidd mewn cymhariaeth â grŵp rheoli nad oedd yn cael eu sychu. I fuchod yr oedd eu tethi yn cael eu glanhau â thyweli papur, y gostyngiad oedd 48.8%.

Dywedodd Ian Ohnstad, oedd yn rheoli’r treial, nad oedd yn synnu bod y cadachau y gellid eu golchi yn fwy effeithiol ond roedd yn synnu o weld faint yn well yr oeddynt yn perfformio.

Dywedodd Mr Ohnstad bod tri rheswm pam bod y cadachau y gellid eu golchi yn fwy effeithiol. “Maent ychydig yn wlyb ac mae strwythur y deunydd yn fwy ffeibrog sy’n helpu i gael gwared ar unrhyw halogiad ar y tethi. Mae eu maint hefyd yn haws ei drin. Gyda thyweli papur, mae tuedd i gael rholyn hir o bapur wedi ei wasgu at ei gilydd neu, os ydych yn fwy cynnil, tywel nad yw cweit yn ddigon mawr.”

 

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites