17 Chwefror 2022

 

Mae astudiaeth newydd wedi awgrymu mai maeth mamogiaid ar ddiwedd beichiogrwydd yw’r dylanwad mawr ar ansawdd colostrwm.

Yn yr hyn y credir yw’r set ddata fwyaf a gofnodwyd ar gyfer colostrwm defaid a gasglwyd o dan amodau ffermio masnachol, mae astudiaeth Cyswllt Ffermio wedi pwysleisio pwysigrwydd diet da ar ddiwedd beichiogrwydd a’i gysylltiad ag ansawdd colostrwm.

Nid yn unig yr oedd yn ymddangos bod ansawdd a maint y porthiant yng nghyfnod olaf beichiogrwydd yn dylanwadu ar ansawdd colostrwm, ond yn ddiddorol, roedd yn ymddangos bod gan famogiaid yr astudiaeth a oedd yn cario gefeilliaid a thripledi golostrwm o ansawdd uwch na’r rhai oedd yn cario un oen; roedd hyn naill ai'n effaith fferm neu eto mae’n bosibl ei fod yn gysylltiedig â chyflenwad protein ac egni yn eu diet ar ddiwedd eu beichiogrwydd.

Cynhaliwyd yr astudiaeth ar ran Cyswllt Ffermio gan Flock Health Ltd, ac roedd yn cynnwys cynhyrchwyr cig oen mewn Grwpiau Trafod Cyswllt Ffermio i fesur ansawdd colostrwm mamogiaid gan ddefnyddio teclyn BRIX Refractometer. Mae Cyswllt Ffermio yn cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra Cymru a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Casglwyd samplau gan o leiaf deg o famogiaid ar bob fferm yn ystod wythnos gyntaf cyfnod wyna 2021, ac eto yn ystod yr wythnos olaf. Cafwyd canlyniadau gan 1,295 o famogiaid, a gyflwynwyd gan 64 o ffermwyr Cymru. Darparodd 45 ohonynt fanylion y dognau y rhoddir i’w mamogiaid, hefyd. Mae canlyniadau'r astudiaeth yn darparu tystiolaeth bwysig o'r ffactorau sy'n cyfrannu at ansawdd colostrwm.

Dywedodd Lee Price, Rheolwr Datblygu Rhaglen Trosglwyddo Gwybodaeth Cyswllt Ffermio, fod y canfyddiadau’n amlygu pa mor dda yw colostrwm y rhan fwyaf o famogiaid, gyda thri chwarter o’r holl famogiaid a samplwyd â cholostrwm dros 26.5% ar y BRIX, sef y trothwy ar gyfer ansawdd da.

“Dangoswyd bod lefelau protein silwair dros 12% a gofod porthi dwysfwyd o fwy na 45cm fesul mamog yn ffactorau arwyddocaol yn y diadelloedd a oedd â mwy o famogiaid â cholostrwm o ansawdd gwell,” meddai.

Yn gyffredinol, roedd yn ymddangos bod mamogiaid mwy iach yn cynhyrchu colostrwm gwell na mamogiaid tenau, ac roedd cysylltiad clir rhwng ansawdd gwell mewn mamogiaid lle disgrifiwyd rhwyddineb godro fel ‘da’ neu ‘gymhedrol’ yn hytrach nag ‘anodd ei godro’.

Ychwanegodd Fiona Lovatt, y milfeddyg a gynhaliodd y prosiect, “Rydym wrth ein bodd gyda chanlyniadau’r prosiect hwn o’r llynedd, gan ei fod yn dangos sut y gall ffermwyr defaid ddefnyddio Brix yn hawdd a chofnodi data syml er gwaethaf holl bwysau amser wyna. Rydym bellach yn argymell Brix fel rhan hanfodol o offer y cyfnod wyna – yn enwedig i ganfod pa famogiaid i gasglu a storio colostrwm sbâr ganddynt.

“Rydyn ni i gyd yn gwybod bod ‘colostrwm fel aur’, ond mae’r astudiaeth hon wedi dangos i ni yn union pa mor dda yw ansawdd y colostrwm hwnnw. Unwaith y bydd ffermwyr yn hyderus yn ansawdd eu colostrwm, gallant ganolbwyntio adnoddau ar sicrhau bod pob oen yn cael digon ohono yn gyflym”.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites