05 Rhagfyr 2023

 

Mae’r rhan y mae gwrychoedd yn ei chwarae wrth ddal a storio carbon mewn pridd yn cael ei archwilio wrth i Cyswllt Ffermio gasglu samplau o bridd ledled Cymru, mewn menter a fydd yn darparu data meincnodi pwysig i ffermwyr.

Mae casglu data am ail flwyddyn Prosiect Pridd Cymru yn mynd rhagddo, a’r tro hwn mae samplau o bridd hefyd wedi cael eu casglu o dir o fewn metr o wrychoedd y cae, yn ogystal â samplau o fewn y cae.

Dywedodd Dr Non Williams, Swyddog Arbenigol Carbon Cyswllt Ffermio, mai’r nod yw cymharu stoc carbon pridd mewn caeau ac o dan lystyfiant coediog.

“Rydym yn aml yn cael cwestiynau gan ffermwyr am hyn, ac rydym yn gobeithio y bydd canlyniadau’r prosiect hwn yn rhoi’r atebion iddynt,” meddai.

“Bydd amcangyfrif lefelau carbon mewn pridd wrth wrychoedd yn helpu i amlygu eu pwysigrwydd i liniaru effeithiau newid hinsawdd.”

Mae gan ffermwyr ran allweddol i’w chwarae wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd a gall priddoedd chwarae rhan bwysig yn hynny. 

Mae samplau Prosiect Pridd Cymru yn cael eu dadansoddi cyn Wythnos Hinsawdd Cymru ym mis Rhagfyr.

Casglwyd dros 1,000 o samplau o ffermydd sy’n rhan o Rwydwaith Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio, ac yna cawsant eu dadansoddi ar gyfer cynnwys deunydd organig a dwysedd swmp, yn ogystal â mesuriadau eraill.

Ar gyfer cysondeb, casglwyd pob sampl o fewn yr un cyfnod yr hydref hwn ac o gaeau glaswellt, gan gynnwys porfa barhaol, caeau gwair a silwair, a chaeau wedi’u hail-hadu.

“Mae’r prosiect hwn yn edrych ar sut mae dwyster rheoli amrywiol, ynghyd â ffactorau daearyddol, yn effeithio ar stoc carbon pridd ledled Cymru.”

Casglwyd pridd o sawl dyfnder, o’r 10cm uchaf i ddyfnder o 50cm.

Mae Dr Williams, sy'n arwain y prosiect, yn un o’r siaradwyr mewn digwyddiad gwyddor pridd mawr yn Belfast ym mis Rhagfyr.


Yng Nghynhadledd Flynyddol Cymdeithas Gwyddor Pridd Prydain a Chymdeithas Gwyddor Pridd Iwerddon, bydd yn rhoi cyflwyniad ar ganlyniadau rhagarweiniol y prosiect.

Mae carbon pridd a charbon yn gyffredinol hefyd yn themâu mewn tri Dosbarth Meistr Cyswllt Ffermio sy’n cael eu cynnal ym mis Chwefror 2024.

Dywedodd Dr Williams, a fydd yn arwain y gweithdai hyn, y bydd yn rhoi cyfle i ffermwyr wella eu dealltwriaeth o hanfodion mesur ôl troed carbon cyn i archwiliad carbon gael ei gynnal ar eu ffermydd. 

“Bydd y gweithdai rhyngweithiol hyn yn canolbwyntio ar chwalu’r jargon ynghylch carbon, caniatáu i ffermwyr ddysgu am arwyddocâd cylch carbon eu fferm, a sut y gellir dylanwadu arno i helpu i leihau ôl troed carbon y fferm yn y dyfodol,” meddai.

Cynhelir y digwyddiadau hyn yn Llety Cynin, Sanclêr, ar 6 Chwefror, yn Elephant and Castle, Y Drenewydd, ar 8 Chwefror, ac yng Ngwesty Nanhoron Arms, Nefyn, ar 20 Chwefror, i gyd rhwng 7.30pm a 9:30pm.

Mae rhagor o fanylion am sut i neilltuo lle ar gael ar wefan Cyswllt Ffermio.
 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint