22 Awst 2023

 

Mae ffermwyr a thyfwyr yng Nghymru yn cael eu hatgoffa o’r rhesymau da dros wella sgiliau a manteisio ar y llu o gyfleoedd hyfforddiant sydd ar gael iddynt.

Dywed Philippa Gough, o Lantra Cymru, fod hyfforddiant a datblygiad yn bwysig i bob busnes.

“Maent yn helpu busnesau i sicrhau bod gweithwyr yn perfformio'n dda, yn parhau'n llawn cymhelliant ac yn cyrraedd eu potensial,'' nododd.

Mae hefyd sawl mantais, o fireinio sgiliau presennol i ddysgu rhai newydd.
 
Mae darparu cyfleoedd hyfforddiant i staff hefyd yn caniatáu i fusnes adeiladu gweithlu mwy hyblyg ac addasadwy, a, thrwy ddod yn fwy effeithlon, mae’n helpu i leihau costau a chynyddu cynhyrchiant, ychwanega Philippa.

Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau hyfforddiant gyda chymhorthdal o hyd at 80% i unigolion cofrestredig.

Mae ystod eang o gyrsiau byr ar gael, ym maes busnes, tir, peiriannau ac offer, a da byw, sy’n cael eu cynnig trwy rwydwaith o ddarparwyr hyfforddiant cymeradwy.
 
“Mae gwneud cais am sgiliau a hyfforddiant Cyswllt Ffermio yn bennaf yn broses ar-lein a gall unigolion cofrestredig wneud cais ar amser sy’n gyfleus iddynt hwy a chael cymorth a chefnogaeth un i un ar unrhyw adeg y gallent fod ei angen,” meddai Philippa.

Am ragor o wybodaeth ar gymorth yn y dyfodol, dylid cysylltu â Swyddog Datblygu lleol Cyswllt Ffermio, darparwr hyfforddiant neu drwy ffonio Canolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 03456 000 813.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Astudiaeth Cyswllt Ffermio yn taflu goleuni newydd ar statws iechyd y pridd mewn caeau tir âr
03 Mawrth 2026 Mae nifer o gaeau sy'n cael eu ffermio mewn
Mae profion genomig yn datgloi potensial llawn buches groesfrid yng Nghymru
26 Chwefror 2026 Mae profi heffrod croesfrid a buchod sy’n
Da i’r blaned, i’r da byw ac i’r busnes
Mae’r ffermwr pedwaredd genhedlaeth, Dylan Jones, yn glir nad oes