29 Tachwedd 2018

 

richard roderick 2
Rhaid i gynhyrchwyr bîff Cymru gyfateb brîd y fuwch a’u hamgylchedd ar y fferm fel cam cyntaf pwysig i gynhyrchu yn broffidiol.

Yn ystod diwrnod agored Cyswllt Ffermio ar Fferm Newton, ger Sgethrog, Aberhonddu, dywedodd yr arbenigwr bîff Rhidian Jones ei bod hi’n gyffredin i ffermydd ucheldir Cymru ddewis y brîd anghywir o fuwch ar gyfer eu sefyllfa.

“Mae rhai wedi newid i fridiau Cyfandirol i gael llo o werth uchel ond gall hyn weithiau ddod ar draul ffrwythlondeb gwael, lloea anodd a chostau porthiant uchel,” dywedodd Mr Jones wrth ffermwyr oedd yn y digwyddiad.

Ar Fferm Newton, Fferm Arddangos Cyswllt Ffermio, mae’r ffermwyr Richard a Helen Roderick a’u teulu yn newid o fuchod croes Limousin a chroes Glas Gwlad Belg i Stabilisers; yn 2019 byddant yn lloea 94 o fuchod a heffrod – mae’r heffrod yn lloea yn ddwy flwydd oed.

Un o’r rhesymau cyntaf am y newid oedd symud tuag at fuches sy’n lloea’n rhwydd ac yn cynhyrchu ei stoc cyfnewid ei hun gan ddefnyddio brîd mamol addfwyn sy’n gallu ffynnu ar borthiant a system aeafu allan.

Mae’r fuches yn addas i bori glaswellt neu fetys porthiant am y rhan fwyaf o’r flwyddyn felly mae’r teulu Roderick wedi gostwng eu costau porthiant. 

Yn 2018, rhoddwyd tarw potel i’r heffrod gan droi tarw atynt am naw wythnos, tra’r oedd y buchod gyda’r teirw am 76 diwrnod.  Dangosodd y canlyniadau sganio bod 94 o’r 96 o anifeiliaid yn gyflo, gydag o leiaf ddwy yn cario gefeilliaid. 

Mae’r mynegai lloea – sy’n ddull da o fesur ffrwythlondeb a lloea mewn cyfnod tynn – wedi gostwng o 400 diwrnod i 365. Yn 2018 roedd 73% o’r buchod wedi lloea yn y tair wythnos cyntaf, gyda 96% o’r buchod wedi lloea yn y chwe wythnos cyntaf.

Roedd yr heffrod ar gyfartaledd yn 256kg wrth eu diddyfnu, ar 46% o bwysau byw eu mamau tra’r oedd y teirw, y rhoddwyd dwysfwyd iddynt yn bedwar mis oed, yn pwyso 316kg, 52% o bwysau’r fam. 

“Cynnal y fuwch yw un o’r costau mwyaf wrth gadw buwch, os oes gennych fuwch 700kg bydd arni angen llawer mwy o waith cynnal na buwch 600kg,” dywedodd Mr Jones.

Dengys Arolwg Busnesau Fferm Cymru 2016/17, i’r buchesi magu sydd yn y traean uchaf o ran perfformiad, bod yr elw gros o bob buwch yn £599 mewn cymhariaeth â £420 ar gyfer buchesi sy’n perfformio yn agos at y cyfartaledd.

“Nid yw’n hawdd gwneud arian o fuchod magu ond mae’r rhai sydd yn gwneud elw yn gwneud yn dda ac yn gwneud £179 yn fwy am bob buwch na’r cyfartaledd,” nododd Mr Jones.

Mae nifer o ffactorau sy’n gorfod cyfuno i gyflawni hyn, ac mae cyflwr corff y fuwch yn un o’r rhai pennaf o’r rhain.

“Nid ydych am i fuchod fod yn rhy ffit wrth loea, anelwch at sgôr cyflwr corff o rhwng 2 a 2.5 ond dylent fod ar raddfa gynyddol o ran maeth pan fyddant yn mynd allan i laswellt. Bydd y math cywir o fuwch yn gwella ei chyflwr ar laswellt yn fwy rhwydd,” dywedodd Mr Jones, o RJ Livestock Systems.

“Rydych eisiau iddynt fod yn gymharol fain wrth loea, ond yn gwella eu cyflwr i fynd yn ôl at y tarw i gael cyfraddau cyfebu da. Paru ar sgôr cyflwr corff o 2.5 i 3 sy’n rhoi’r canlyniadau gorau.”

Mae llawer o gynhyrchwyr magu yn lloea eu buchesi yn rhy gynnar i’r glaswellt fod wedi tyfu sy’n golygu bod rhaid cadw buchod a lloeau ifanc dan do, gan greu risg y bydd y lloeau yn cael afiechydon a thynnu costau porthiant uwch mewn cymhariaeth ag anifeiliaid ar laswellt.

“Os bydd buchod yn cael eu cadw dan do ar ôl lloea mae ganddynt gyfnod byrrach i adfer eu cyflwr ar laswellt o safon uchel cyn mynd yn ôl at y tarw,” dywedodd Mr Jones.

Mae’n argymell defnyddio Gwerthoedd Bridio Tybiedig i ddewis anifeiliaid â nodweddion mamol da – er enghraifft rhwyddineb lloea sy’n berthnasol i gynhyrchwyr sy’n bridio eu stoc cyfnewid eu hunain.

Mae ffigyrau cynhyrchu llaeth yn bwysig hefyd, ychwanegodd Mr Jones. “Bydd llo yn tyfu yn gyflymach ar laeth na dim byd arall felly mae cael mam laethog yn allweddol.”

Gall porthiant ategol hefyd fod yn ddefnyddiol, awgrymodd. “Mae porthiant ategol yn helpu’r rwmen i ddatblygu ac mae gan loeau gyfraddau trosi porthiant uwch ar yr oedran hwnnw felly byddwch yn cael enillion ar eich buddsoddiad.”

Mae’r teulu Roderick yn rheoli costau porthi yn y gaeaf trwy gadw buchod a heffrod ar 12 erw o fetys porthiant sy’n costio tua 80c/yr anifail/y dydd.

Arweiniodd Marc Jones o ADAS, sydd hefyd yn tyfu betys porthiant ar ei fferm ei hun yn Trefnant Hall, ger y Trallwng, drafodaeth yn y diwrnod agored am yr hyn y dylid ei gadw mewn cof wrth gadw anifeiliaid ar fetys porthiant.

Dywedodd Sarah Hughes, Swyddog Technegol Cig Coch Cyswllt Ffermio (De Cymru), ein bod wedi cynnal nifer o brosiectau ar Fferm Newton gan gynnwys y rhai a drafodwyd yn y digwyddiad hwn ar effeithlonrwydd y fuches fagu a dewisiadau wrth borthi yn y gaeaf, mae gwybodaeth fwy manwl am y prosiectau ar wefan Cyswllt Ffermio.

“Mae Cyswllt Ffermio yn gweithio gyda rhwydwaith o ffermydd arddangos ar draws Cymru i ddangos a phrofi technegau rheoli a thechnoleg newydd, i roi gwybodaeth i ffermwyr iddynt fedru gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth ac, efallai, ddefnyddio dulliau tebyg ar eu ffermydd eu hunain, a gwella eu busnesau gobeithio,” dywedodd.

Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau gyda chymhorthdal neu wedi eu hariannu’n llawn trwy ei Wasanaeth Cynghori. Mae talebau iechyd y fuches o £150 i bob busnes ar gael hefyd.

Rhoddwyd arian ar gyfer y prosiect gan Raglen Datblygu Gwledig Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint