7 Tachwedd 2018

 

trefnant
Mae ffermwr bîff o Gymru yn sicrhau’r allbwn gorau am bob hectar trwy bori gwartheg ar fetys porthiant.

Mae Marc Jones, sy’n ffermio 500 erw ar fferm Trefnant Hall ar Ystâd Powis gyda’i rieni, David a Jane, yn cynyddu allbynnau ar system yn seiliedig ar borthiant; mae betys porthiant, sydd â photensial i gynhyrchu mwy na 20 tunnell o ddeunydd sych (DM)/ha yn ganolog i’r cynnydd hwn.

“Gyda Brexit ar y gorwel a newidiadau i’r system gymorthdaliadau ar y gweill, mae’n hanfodol bod ffermydd fel hyn yn gwneud cynnydd er mwyn aros yn broffidiol,” meddai Mr Jones wrth ffermwyr a fynychodd ddiwrnod agored Cyswllt Ffermio ar fferm Trefnant Hall.

Mae gwartheg bîff yn pori betys porthiant o ddiwedd mis Hydref ymlaen, gan sicrhau cynnydd pwysau byw cyfartalog o 1kg/anifail. Mewn blwyddyn gyfartalog, maen nhw’n sicrhau elw net o £300/anifail, ond mae amodau hynod sych yr haf hwn wedi arwain at leihad o £100/anifail.

Geronimo yw’r rhywogaeth a dyfir; mae hwn yn fetys porthiant canolig o ran deunydd sych, sy’n tyfu tua 55%-60% uwch lefel y ddaear.

Dywed Mr Jones fod y cnwd yn costio £1,126/ha i’w dyfu ac mae oddeutu 20ha yn cael ei dyfu bob blwyddyn.

“Rydym ni’n cadw 300 o wartheg blwydd oed ar y cnwd am bum mis a 600 o ddefaid am ddeufis,” meddai. “Mae’r defaid yn mynd arno yn ystod wythnos olaf mis Rhagfyr ac yn dod oddi yno ar ddiwedd Chwefror. Gan nad oes llawer o brotein yn y betys, mae’r mamogiaid angen tair i bedair wythnos oddi ar y cnwd cyn ŵyna. Yn ystod y cyfnod hwn, maen nhw’n pori glaswellt ac yn derbyn digon o egni a phrotein o’r borfa.’’

Mae tair rhes o fyrnau silwair yn cael eu gosod yn y cae ac yna mae’r cnwd yn cael ei bori mewn stribedi o frig y cae lawr y llethr; mae gwartheg yn derbyn tri bwrn y dydd.

“Cyfrifir eu bod yn derbyn 3kg o ddeunydd sych o silwair bob dydd ac oddeutu 9kg o ddeunydd sych o fetys porthiant bob dydd,’’ meddai Mr Jones.

Betys porthiant oedd prif ffocws y diwrnod agored a gynhaliwyd gan Cyswllt Ffermio, gyda Jim Gibbs, arbenigwr byd-eang ar ddefnyddio cnydau mewn systemau da byw a llaeth o Seland Newydd, yn arwain y drafodaeth.

Dywedodd Dr Gibbs, o Brifysgol Lincoln, fod betys porthiant yn “gnwd proffidiol iawn”. “O safbwynt deunydd sych, dyma’r cnwd rhataf y gallwch ei dyfu,” meddai. “Mae’n costio tair i bedair gwaith yn fwy i gynhyrchu silwair na betys.’’

Roedd yn credu bod ffermwyr Cymru wedi bod yn gyndyn i bori betys porthiant yn ei le oherwydd problemau canfyddedig gydag asidosis yn y rwmen.

“Yn hanesyddol, y gred oedd ei fod yn wenwynig i wartheg pe byddai’n cael ei bori ac mai dim ond ychydig y byddai modd ei bori, ond os fyddwch chi’n cyflwyno anifeiliaid iddo’n raddol ac yn darparu digon o ffibr, mae’n un o’r cnydau gorau i’w fwydo,” awgrymodd Dr Gibbs.

Mae’n cynghori cyfnod trosi cam wrth gam ar gyfer gwartheg bîff, gan fwydo 1kg DM/pen/dydd ar y diwrnod cyntaf a chynyddu 1kg bob yn ail ddiwrnod nes diwrnod 14. Gall gwartheg gael mynediad at fetys porthiant ar sail ad lib.

Ar gyfer defaid, nid oes angen cyfnod trosi na dwysfwyd ychwanegol meddai Dr Gibbs. Mae’r cnwd yn addas ar gyfer mamogiaid, ond nid yw’n argymell y cnwd ar gyfer pesgi ŵyn. “Nid oes digon o brotein ynddo at y diben hwn,” meddai.

Er mwyn cyflawni perfformiad a chynnydd pwysau byw, mae angen cymeriant uchel; gellir cyflawni’r rhain os bydd y trosiad, dyluniad y padogau a rheolaeth y cnwd yn gywir.

Fel rhan o’r gwaith hwn ar fetys porthiant, bu Dr Gibbs yn edrych ar nifer o chwedlau a chamsyniadau’n ymwneud â’r cnwd.

Y cyntaf o’r rhain yw bod betys porthiant yn cynnwys cyfansoddion gwrth-faethol megis ocsaladau a nitradau, sy’n awgrymu mai dim ond ar lefelau isel y gellir defnyddio’r cnwd.

Mae hyn yn anghywir meddai. “Nid yw’n cynnwys unrhyw ffactorau gwrth-faethol o werth.”

Mae sicrhau’r cymeriant gorau posibl gan y gwartheg bîff yn gofyn am newid meddylfryd o ran faint o borthiant sy’n cael ei adael ar ôl yn y cae, yn seiliedig ar ddyraniadau tri diwrnod, meddai.

“Mae faint sy’n cael ei adael ar ôl yn fwy na’r hyn y mae’r ffermwyr yn gyfforddus i’w adael – 25% ar y diwrnod cyntaf, 5% ar yr ail ddiwrnod a dim ar y trydydd diwrnod,” meddai Dr Gibbs.

Dywedodd y byddai’r cnwd bedair gwaith yn ddrytach os byddai’n cael ei godi - mae pori’n lleihau costau cynaeafu a storio ac yn hwyluso porthi.

Trefnwyd y digwyddiad gan Lisa Roberts, Swyddog Technegol Cig Coch Cyswllt Ffermio ar gyfer Canolbarth Cymru.

Mae gwneud y gorau o bob hectar a sicrhau’r cynhyrchiant gorau posibl o ddeunydd sych yn hanfodol er mwyn arwain proffidioldeb fferm.

“Rhoddodd y digwyddiad hwn gyfle i ffermwyr ddatblygu gwybodaeth a hyder i dyfu a defnyddio betys porthiant i sicrhau’r allbynnau gorau.’’

 

Tabl 1 costau cnydau/hectar ar fferm Trefnant Hall

Eitem

Cost/ha (£s)

Had

188

Calch

75

Gwrtaith

198

Chwistrellu

160

Contractio

255

Rhent

250

CYFANSWM

£1,126

 

 

 

Tabl 2 Cynnyrch DM a chost fesul kg o DM ar fferm Trefnant Hall

Cynnyrch Deunydd Sych

Ceiniogau fesul kg/DM

30t/DM

3.75

25t/DM

4.50

20t/DM

5.63

15t/DM

7.51

 

 

                                   


Related Newyddion a Digwyddiadau

Digwyddiadau Cyswllt Ffermio i roi cyngor i ffermwyr ar gynllunio olyniaeth a’r gostyngiad arfaethedig i ryddhad Treth Etifeddiant (IHT).
8 Ionawr 2025 Wrth i deuluoedd ffermio yng Nghymru ystyried
Arolwg Safbwyntiau Ffermwyr
Mae arolwg o ffermwyr Cymru wedi cael ei lansio i archwilio sut
Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn