31 Gorffennaf 2018

 

Mae brechu a safonau bioddiogelwch da yn helpu ffermwyr moch yng Nghymru leihau eu defnydd o wrthfiotigau gan atal clefydau yn hytrach na’u trin.

Mae’r milfeddyg Alex Thomsett wedi bod yn gweithio gyda Cyswllt Ffermio i godi ymwybyddiaeth ymysg cynhyrchwyr o’r mesurau atal sy’n cynorthwyo cenfeintiau i aros yn iach ac yn gynhyrchiol.

Yn ystod digwyddiad Trosglwyddo Gwybodaeth Cyswllt Ffermio a gynhaliwyd yn ddiweddar yng Nghwmbrân, mynnodd Ms Thomsett o bractis moch George Veterinary Group bod llawer mwy i fioddiogelwch na golchi traed yn unig.

“Gall bioddiogelwch fod yn anghyfleus i rai ond mae’n hollbwysig gan ei fod yn atal clefydau rhag dod i mewn i fferm ac yn eu hatal rhag lledaenu drwy’r fferm gyfan,” meddai.

Ac mae hyn yn bwysicach nag erioed gyda’r pwysau sydd ar y diwydiant i leihau’r defnydd o driniaeth wrthfiotig, meddai Jodie Roberts, Swyddog Technegol Moch a Dofednod Cyswllt Ffermio.

“Dylai pob cynhyrchwr moch anelu at gael statws iechyd uchel yn eu cenfeintiau - nid yn unig oherwydd ffactorau ariannol, ond mae’n bwysicach fyth wrth wynebu ymwrthedd gwrthfiotig,” meddai.

 

Protocolau i’w hystyried er mwyn sicrhau bod cenfeintiau’n parhau’n rhydd o glefydau

 

Deall statws iechyd eich cenfaint eich hun a’r stoc yr ydych yn eu prynu

Wrth ddeall y clefydau sydd o fewn eich cenfaint, byddwch yn gwybod yr hyn y gallai moch sy’n cael eu prynu o’r newydd fod yn ei wynebu.

Gellir gwneud hyn trwy gynnal profion gwaed a chymryd samplau ysgarthion.

“Os ydych chi’n gwybod pa glefydau sy’n bresennol, mae’n cynorthwyo milfeddygon i drefnu eu hymweliadau - rydym ni’n anelu at ymweld â’r cenfeintiau gyda’r statws uchaf gyntaf a’r statws isaf olaf yn ystod wythnos waith er mwyn lleihau’r perygl o drosglwyddo clefydau rhwng cenfeintiau.”

 

Mae’n bosibl mai stoc a brynir yw’r bygythiad mwyaf o ran clefydau

Darparwch gyfleusterau arwahanu i sicrhau bod unrhyw broblemau’n dod i’r amlwg cyn cyflwyno anifeiliaid newydd i’ch cenfaint.

Os oes clefyd yn bresennol ar y fferm sy’n cyflenwi, mae hefyd yn caniatáu seibiant cyn cyflwyno er mwyn diogelu eich cenfaint.

Mae ymgyfarwyddo moch newydd i statws iechyd eich cenfaint yn fanteisiol i’w iechyd cyffredinol.

“Gallai cyflwyno moch ar unwaith eu gwneud nhw neu eich cenfaint bresennol yn sâl,” meddai Ms Thomsett.

Mae’n argymell cyfnod cwarantîn o bedair wythnos o leiaf pan ellir cyflwyno naill ai moch i’w difa, hychod neu foch pesgi fel modd o ymgyfarwyddo.

 

Cadwch amgylchedd y moch yn lân

Mae safonau glendid da yn hanfodol er mwyn cyfyngu ar ledaeniad ac effaith clefydau. Sicrhewch fod deunydd ysgarthol a gwellt budur yn cael ei waredu o’r adeiladau’n rheolaidd.

 

Mae symud moch i sioeau ac adref yn risg tra chyfarwydd

Pan fo nifer o anifeiliaid o ffynonellau gwahanol yn dod at ei gilydd, gall clefydau drosglwyddo.

“Ni wyddoch beth mae eich moch wedi bod mewn cyswllt ag ef, ond cyn belled â’ch bod yn cydnabod y risg ac yn ceisio osgoi cyflwyno’r clefydau yma i’ch cenfeintiau drwy arwahanu pan fyddant yn dychwelyd, gall hynny gynnig ychydig sicrwydd,” awgrymodd Ms Thomsett.

 

Prynwch semen moch o ffynhonnell ddibynadwy

Gall semen moch fod yn ffynhonnell ar gyfer trosglwyddo clefydau, felly gwiriwch statws iechyd y ffynhonnell er mwyn gwneud penderfyniadau deallus wrth brynu.

Y strategaeth orau yw defnyddio baeddod sy’n rhydd o bathogenau penodol.

“Gallwch naill ai siarad gyda chyflenwr y semen yn uniongyrchol neu ofyn i’ch milfeddyg gysylltu â’r milfeddyg sy’n gyfrifol am y baeddod,” awgrymodd Ms Thomsett.

Mae baeddod sy’n cael eu rhannu neu eu llogi hefyd yn risg o ran clefydau.

 

Dim ond pan fyddant yn lân ac yn cael eu defnyddio ar y crynodiad cywir y mae baddonau traed yn effeithiol

Mae lleoli baddonau traed yn agos at bibell ddŵr yn caniatáu i esgidiau gael eu golchi cyn cael eu rhoi yn y baddon.

“Mae baddonau traed yn mynd yn dda i ddim, a’r un mor effeithiol â bwced o ddŵr os ydynt yn llawn deunydd organig,” meddai Ms Thomsett.

Bydd dŵr glaw yn achosi gor-wanhau a bydd goleuni’r haul yn achosi dirywiad, felly cadwch gaead ar y cynhwysydd pan nad  yw’n cael ei ddefnyddio.

 

Gall ymwelwyr gludo clefydau

Gall ymwelwyr gludo clefydau newydd ac ni ddylid ystyried milfeddygon yn eithriad i hyn.

“Gofynnwch i bob ymwelydd pryd y buont yn ymweld â fferm foch a rhoddwch ddillad ac esgidiau glân iddynt,” meddai Ms Thomsett.

“Rydw i wedi cael pâr newydd o wellingtons ers blwyddyn, ac nid wyf wedi eu gwisgo ar ymweliad â fferm gan fod pob fferm yn darparu pâr i mi. Y ffordd honno, mae pawb yn cadw eu heintiau iddyn nhw eu hunain. Nid oes yn rhaid i’r haint fod yn wael iawn, ond gall rhywbeth nad yw eich moch wedi cael cyswllt ag ef o’r blaen fod yn ddigon i achosi problem.”

 

Cadwch lyfr ymwelwyr

Mae’n rhaid i bob cynhyrchwr sydd â gwarant fferm feddu ar lyfr ymwelwyr sy’n cynnwys datganiad wedi’i arwyddo i nodi nad yw’r ymwelwyr yn dioddef o broblemau iechyd penodol a ellir eu trosglwyddo i’r moch.

Os oes achos o glefyd ar eich fferm, gellir gwirio’r llyfr fel rhan o’r ymchwiliad i ffynhonnell posibl yr haint a hefyd i rybuddio eraill sydd wedi ymweld.

 

Cadwch yr offer yn lân

Mae pryfed a heintiau wrth eu bodd gyda deunydd organig, felly os nad yw offer yn cael ei lanhau a’i ddiheintio, byddant yn gallu goroesi a heintio stoc.

“Os ydych chi’n benthyg offer, byddwch yn ofalus nad ydyn nhw’n cael eu dychwelyd gydag unrhyw beth diangen,” meddai Ms Thomsett.

 

Brechwch i ddiogelu rhag clefydau

Os ydych chi’n prynu moch, mae’n bosibl y byddech eisiau mynnu eu bod yn cael brechiad i ddiogelu rhag clefydau sylfaenol i ychwanegu haen arall o sicrwydd cyn iddyn nhw gyrraedd.

Nid yw mwyafrif y brechlynnau moch yn gweithredu fel rhwystr hud rhag clefydau, ond gallant leihau eu difrifoldeb.

“Wrth frechu, rydych chi’n lleihau ymddangosiad clinigol y clefyd,” eglurodd Ms Thomsett.

Mae’r rhan fwyaf o foch angen brechlyn yn erbyn heriau sy’n hysbys, ond mae Ms Thomsett yn argymell y dylid brechu yn erbyn Erysipelas bob amser a’r Parfofirws Moch (Porcine Parvovirus) ar gyfer anifeiliaid bridio hefyd.

Mae gynnau dosio yn ei gwneud yn haws i roi’r feddyginiaeth.

Peidiwch â stopio brechu pan fo’r clefyd yn edrych fel ei fod wedi diflannu, rhybuddiodd Ms Thomsett. “Gwnewch hynny, ac o fewn chwe wythnos, mae’n bosibl y gwelwch y clefyd yn dychwelyd.  Mae brechu’n rheoli clefydau, ond nid yw’n eu gwaredu o’r genfaint o reidrwydd.  Gofynnwch am gyngor milfeddygol cyn newid rhaglen frechu.”

Mae’n cynghori y dylid sicrhau diagnosis cywir cyn dechrau ar raglen frechu.

Gellir cysylltu nifer o fethiannau mewn rhaglenni brechu gydag arferion trin a storio gwael yn hytrach na phroblem gyda’r brechlyn ei hun.

Unwaith y byddant wedi cael eu hagor, ychydig oriau’n unig yw oes silff mwyafrif y brechlynnau felly dylid eu defnyddio’n brydlon.

“Mae taflen wybodaeth yn cael ei rhoi gyda phob brechlyn sy’n nodi cyfarwyddiadau storio ac oes silff. Darllenwch y rhain a dilynwch y cyfarwyddiadau,” meddai Ms Thomsett.

Mae’n hanfodol i gadw brechlynnau ar y tymheredd cywir, ychwanegodd.

“Mae angen storio’r mwyafrif mewn oergell, ond os maen nhw’n cael eu gwthio i’r cefn ac yn rhewi, gall fod cyn waethed os nad yn waeth o ran effeithlonrwydd ag y byddai storio ar dymheredd sy’n rhu uchel.”


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites