7 Mehefin 2018

 

Mae bridiwr defaid o Gymru wedi gwneud newidiadau i’w raglen ffrwythloni artiffisial i wella gyfraddau beichiogi ei ddiadell ymhellach ar ôl ymweliad i Ddenmarc a Sweden a ariennir gan Cyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio.

Roedd Alwyn Phillips, o Fferm Penygelli, ger Caernarfon, wedi defnyddio ffrwythloni serfigol ar y cyd â semen ffres ar ei ddiadell o ddefaid Texel a Poll Dorsets ers 1983.

Ond, yn sgil gwersi a ddysgwyd yn ystod ymweliad Cyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio i Ddenmarc a Sweden, dwy wlad sy’n sicrhau cyfraddau ffrwythloni uwch trwy defnyddio semen wedi’i rewi, mae bellach yn mabwysiadu’r dull hwn.

Derbyniodd Mr Phillips fwrsariaeth i astudio sut y gellid gweithredu technegau a ddefnyddid yn y gwledydd hyn yn Sgandinafia adref yng Nghymru er mwyn gwella’r rhaglen ffrwythloni artiffisial serfigol yma.

Bellach mae Mr Phillips yn annog eraill i wneud cais ar gyfer rhaglen Cyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio – mae'n bosibl gwneud cais ar gyfer rhaglen 2018-2019 hyd at 30 Mehefin.

Dywed ei bod yn bwysicach nag erioed i ffermwyr a choedwigwyr ddysgu sgiliau newydd i wneud eu busnesau’n fwy effeithlon wrth i Gymru baratoi ar gyfer newidiadau i’r system cymorthdaliadau yn y pum mlynedd nesaf.

“Mae ymgeisio ar gyfer rhaglen Cyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio yn rhoi cyfle enfawr i ffermwyr Cymru ar draws bob sector gyflawni hyn,’’ meddai.

Gan fod newidiadau i unrhyw fusnes yn cymryd pum mlynedd neu fwy i’w gweithredu’n llawn, mae Mr Phillips yn annog darpar ymgeiswyr i weithredu nawr ac elwa ar gyllid Cyswllt Ffermio.

Dewisodd Ddenmarc a Sweden ar gyfer ei astudiaeth gan fod gwledydd Sgandinafia wedi dod yn arweinwyr byd mewn ffrwythloni artiffisial gan ddefnyddio semen wedi’i rewi ar gyfer defaid gan fod ffrwythloni artiffisial laparosgopig wedi’i wahardd.

Teithiodd Mr Phillips bron i 2000 milltir mewn chwe diwrnod, gan ymweld â chwe fferm.

Mae’r ffermydd hyn yn llwyddo i sicrhau cyfraddau beichiogi 50-70% trwy ddefnyddio semen wedi’i rewi – mewn treialon yn y DU mae cyfraddau beichiogi wedi amrywio rhwng 5-30%.

“Mae gwledydd Sgandinafia wedi datblygu dull o ffrwythloni serfigol ar gyfer defaid trwy ddefnyddio semen wedi’i rewi, fel mater o raid,” meddai Mr Phillips.

“Pe byddai modd efelychu eu llwyddiant yng Nghymru, bydd hi’n cyflwyno ‘cyfle enfawr’ i wella’r ddiadell genedlaethol.”

“Gallai’r cynhyrchydd a’r prosesydd fel ei gilydd elwa trwy leihau nifer y carcasau sy’n methu â chyrraedd y safon ddymunol yng ngrid EUROP, a thrwy hynny wella proffidioldeb y fferm a lleihau costau prosesu yn ogystal â lleihau gwastraff yn y ffatri.

“Mae ffrwythloni serfigol trwy ddefnyddio semen wedi’i rewi’n rhoi cyfle i ni wella diwydiant defaid Cymru’n gyflym, gan wneud ein busnesau ffermio’n fwy hyfyw a chystadleuol wrth wynebu’r heriau a ddaw yn y blynyddoedd nesaf.’’

Yng Nghymru, mae’r rhan fwyaf o ddefaid mewn rhaglenni bridio ffrwythloni artiffisial yn cael eu ffrwythloni’n laparosgopig ond mae’n weithdrefn fewnwthiol chostus gyda risgiau’n gysylltiedig â hi.

Dywed Mr Phillips fod ei ymweliad â Denmarc a Sweden wedi dangos mor llwyddiannus y gall ffrwythloni serfigol gyda semen wedi’i rewi fod.

“Mae ffrwythloni artiffisial yn cynnig mynediad i eneteg well, yn lleihau’r risg o gyflwyno clefydau i’r ddiadell ac yn rhoi dewis ehangach o hyrddod wedi’u profi. Mae'n fodd i’r ffermwr brynu semen hyrddod i wella EBVs gwannach defaid unigol, gan osgoi’r risg o fewnfridio.’’

Awgryma y gallai fod yn rhatach prynu semen o hyrddod wedi’u profi yn hytrach na buddsoddi mewn hwrdd na fydd efallai’n gwella’r ddiadell, ac mewn rhai achosion, ag oes weithio fer.

Creda Mr Phillips y gallai ffermwyr defaid elwa ar raglenni ffrwythloni artiffisial tebyg i’r rhai a gynigir i ffermwyr llaeth.

“Unwaith y caiff ei hyfforddi, gall y bridiwr gael fflasg ar y fferm i gadw’r semen o wahanol hyrddod i’w ddefnyddio ar ddefaid penodol,’’ meddai.

Disgrifia Mr Phillips ei ymweliadau fferm yn Sweden a Denmarc fel rhai “pleserus, dwys ac addysgiadol’’.

“Roedd y bobl y gwnes eu cyfarfod yn agored iawn wrth rannu eu harbenigedd a’u llwyddiannau, ond roedd yr hyn a ddysgwyd o’u methiannau yr un mor bwysig.

“Credaf fod y ffaith fy mod wedi dod â gwybodaeth am fy niadell gyda mi yn allweddol i’w parodrwydd i rannu eu gwybodaeth. Cefais ateb i bob cwestiwn a ofynnais ac atebais innau gwestiynau am fy niadell ac am gofnodi eu perfformiad.’’

alwyn phillips

Related Newyddion a Digwyddiadau

Mae fferm laeth yng Nghymru yn tyfu blodau’r haul gyda india-corn fel cnwd cyfatebol i leihau ei chostau protein a brynir i mewn.
25 Medi 2024 Mae Dyfrig ac Elin Griffiths a'u mab, Llyr, yn
Y ffermwr defaid Richard Wilding yn croesawu dysgu gydol oes ar gyfer dyfodol mwy effeithlon
23 Medi 2024 Richard Wilding, ffermwr defaid ucheldir o Lanandras
Gwobrau Lantra Cymru 2024