Cliciwch yma er mwyn archebu lle ar gyfer un o ddigwyddiadau 2020.

 

Wrth i Brexit a'i oblygiadau gael eu trafod yn ddyddiol gan wleidyddion a phobl fusnes ledled y byd, mae pawb yn gytûn ynglŷn ag un peth ar y cyfan!  Rydym ar gychwyn cyfnod o newid, yn enwedig yn y diwydiant amaeth, ond does dim amheuaeth y bydd yn dod â chyfleoedd yn ei sgil yn ogystal. 

Mae Cyswllt Ffermio yn cynorthwyo ffermwyr i baratoi ar gyfer y dyfodol ansicr trwy eu hannog i fanteisio ar y gefnogaeth a’r gwasanaethau sylweddol sydd ar gael yng Nghymru a fydd yn cael eu hyrwyddo fel cyfres o sioeau teithiol 'Ffermio ar gyfer y dyfodol’ y gwanwyn hwn.

“Mae paratoi nawr ar gyfer y dyfodol a sicrhau strategaeth fusnes sy'n canolbwyntio ar y meysydd hynny sydd dan eich rheolaeth yn hanfodol er mwyn sicrhau bod eich busnes yn llwyddiannus ac yn broffidiol yn y dyfodol," yn ôl Euryn Jones, Cyfarwyddwr Amaeth Rhanbarthol HSBC, a fydd yn cadeirio rhai o'r digwyddiadau.  

Bydd digwyddiadau eraill yn cael eu cadeirio gan yr Athro Wynne Jones OBE FRAgS, cadeirydd Bwrdd Cynghori Strategol Cyswllt Ffermio, a bydd cyflwyniadau yn ystod pob digwyddiad yn canolbwyntio ar ddatblygiad busnes cynaliadwy er mwyn gwella perfformiad economaidd ac amgylcheddol. 

“Y prif ffocws fydd i ddiogelu busnesau’r dyfodol a rheoli cyfnodau o newid, paratoi eich busnes fferm ar gyfer yr hyn sydd i ddod, ac mae nifer o ffyrdd y gall Cyswllt Ffermio gefnogi hynny," meddai Euryn Jones.

Dywedodd Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig Menter a Busnes, sy'n darparu Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, y byddai mynychwyr yn cael eu hannog i ddarganfod sut y gallent elwa o Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio, sy'n gallu cynnig pedwar achos o gyngor un-i-un wedi'i ariannu hyd at 80% neu uchafswm o €1,500 yr un i fusnesau sydd wedi cofrestru.

Mae’r Gwasanaeth Cynghori hefyd ar gael i ‘grwpiau’ o unigolion sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio sy’n dymuno cydweithio a mynd i’r afael â’r un pynciau neu bynciau tebyg, ac mae cyngor ar sail ‘grŵp’ yn cael ei ariannu’n llawn hyd at uchafswm o €1,500 (ewro) i bob aelod o’r grŵp.

“Ein nod yw annog pob busnes fferm ar draws Cymru i archebu lle yn un o’r digwyddiadau lleol yma.  Os nad ydych eisoes wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio, gallwch gofrestru wrth archebu eich lle, naill ai ar lein ar ein gwefan neu drwy gysylltu â Chanolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio.

“Mae cymaint o gefnogaeth ar gael, ond os nad ydych ymwybodol o’r hyn y gallwch ei hawlio, neu os nad ydych yn manteisio ar y gwasanaeth neu'r cymorth ariannol sydd ar gael, gallech fod yn rhoi eich busnes dan anfantais," meddai Mrs. Williams. 

 “Bydd arbenigwyr ar gael a fydd yn gallu rhoi cyngor i fynychwyr ynglŷn â’r ffordd orau o leihau costau trwy gynyddu effeithlonrwydd ym mhob agwedd o'u busnes. Byddwn hefyd yn annog mynychwyr i drafod meysydd posib ar gyfer gwelliant fel y gallwn argymell y cyfuniad gorau o wasanaethau a chefnogaeth Cyswllt Ffermio i gynorthwyo i ddiogelu effeithlonrwydd, proffidioldeb a gwytnwch eu busnesau,” ychwanegodd.

Mae mynychu digwyddiad ‘Ffermio ar gyfer y dyfodol’ a gynhelir gan Cyswllt Ffermio yn ofynnol ar gyfer unrhyw unigolyn sy’n bwriadu gwneud cais ar gyfer Grant Busnes i Ffermydd (FBG), a all ddarparu grant unigol rhwng £3,000 a £12,000 i fusnesau cymwys. Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y Grant Busnes i Ffermydd, mae'n rhaid i bartner yn y busnes fynychu un o'r digwyddiadau yma. Mae'n rhaid i'r unigolyn sy'n mynychu fod wedi cofrestru fel partner busnes gyda Cyswllt Ffermio a Thaliadau Gwledig Cymru Llywodraeth Cymru.

Mae’n rhaid archebu eich lle ymlaen llaw.  

 

Dyddiad

Lleoliad

25/4/17

Ysgol Penweddig, Aberystwyth, SY23 3QN

26/4/17

Ysgol Uwchradd y Drenewydd, Y Drenewydd, SY16 1JE

27/4/17

Ysgol Gyfun King Henry VIII, Y Fenni, NP7 6EP

2/5/17

Ysgol Cerrigydrudion, Corwen, LL21 9SW

3/5/17

Ysgol Bro Dinefwr, Llandeilo, SA19 6PE

10/5/17

Ysgol Bro Teifi, Llandysul, SA44 4JL

11/5/17

The Kinmel, Abergele LL22 9AS

15/5/17

The Princess Royal Theatre, Port Talbot SA13 1PJ

17/5/17

Y Ganolfan, Porthmadog, LL49 9LU

18/5/17

Cae Ras Cas-Gwent, Cas-Gwent NP16 6BE

22/5/17

Metropole Hotel and Spa, Llandrindod LD1 5DY

23/5/17

Prifysgol Glyndwr, Wrecsam LL11 2AW

24/5/17

Y Pafiliwn, Hwlffordd, SA62 4BW

25/05/17

Ysgol Uwchradd Bodedern, Bodedern, LL65 3SU

 

** Bydd y drysau’n agor am 7yh ac mae’n rhaid i bawb arwyddo i mewn. Bydd y digwyddiadau’n dod i ben am 9.30yh.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites