2 Gorffennaf 2020
Mae’r rhan fwyaf ohonom yn clywed y geiriau ‘cadwch yn ddiogel’ yn ddyddiol y dyddiau yma. Ers i Covid-19 gyrraedd, mae bywyd wedi newid yn ddramatig ac mae edrych ar ôl ein hunain a’n teuluoedd wedi dod yn fwy fyth o flaenoriaeth.
Ond does dim byd yn newydd am y gofyn i ‘gadw’n ddiogel’ os ydych yn gweithio ym maes amaethyddiaeth. Mae’r Pwyllgor Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) eisoes wedi cofnodi marwolaethau trasig chwech o weithwyr fferm yng Nghymru. Mae pob digwyddiad wedi bod yn ysgytwol i’r teuluoedd a’r ffrindiau a adawyd ar ôl wrth iddyn nhw geisio ymgodymu â cholli rhywun annwyl iddyn nhw. Plant, rhai yn eu harddegau, ffermwyr profiadol - mae pob marwolaeth yn ychwanegu at yr ystadegau ysgytwol a gyhoeddwyd gan y Pwyllgor Gweithredol Iechyd a Diogelwch sydd wedi aros yn 'styfnig ar gyfartaledd blynyddol o bum marwolaeth yng Nghymru dros y pum mlynedd diwethaf. Petai’r ystadegau yn cynnwys anafiadau sy’n newid bywyd, byddai’r ffigwr hwn yn sylweddol uwch, ac mae llawer mwy o ddigwyddiadau nad oes neb yn rhoi adroddiad amdanyn nhw yn sicr.
Mae’r damweiniau wedi ymwneud â cherbydau fferm fel tractorau, beiciau cwad a thelehandlwyr; gwasgu ac anafiadau wedi eu hachosi gan anifeiliaid, peiriannau fferm, byrnau mewn tas a giatiau trwm; syrthio o uchder; mygu trwy anadlu sylweddau peryglus; trychinebau pit slyri - mae gormod o beryglon i’w rhestru ar bob buarth fferm bron.
Y rhan fwyaf o’r amser, mae ffermwyr a’u teuluoedd yn cynllunio eu gwaith yn ofalus, yn gwneud gwaith cynnal a chadw arferol, yn gofalu eu bod yn rhoi’r gweithdrefnau diogelwch angenrheidiol yn eu lle. Dyma’r ffermwyr sydd yn lleihau’r risgiau yn llwyddiannus i’w hunain, eu gweithwyr a’u teuluoedd. I eraill, mae’r diffyg canolbwyntio am eiliad, y duedd honno i dorri corneli, yn gamgymeriadau a all gael canlyniadau difrifol.
Wrth i ni nesu at yr haf, gyda phlant a phobl ifanc eisoes yn treulio llawer mwy o amser gartref oherwydd y cyfyngiadau Covid-19, ‘cadwch yn ddiogel’ yw’r neges i’r holl deuluoedd fferm gan Bartneriaeth Diogelwch Fferm Cymru (WSFP), lle mae’r holl sefydliadau rhanddeiliaid amaethyddol allweddol yng Nghymru yn cydweithio.
Mae dau gennad WFSP, Alun Elidyr, a’r ffermwr o Geredigion, Glyn Davies, mentor iechyd a diogelwch ar ran Cyswllt Ffermio, yn dweud mai ‘Cadwch yn ddiogel’ yw’r neges hollol allweddol y mae WFSP am ei anfon yr haf hwn.
“Mae’r WFSP, trwy Cyswllt Ffermio a’i sefydliadau partner, yn benderfynol o roi rhybudd i’r diwydiant am bwysigrwydd cymryd camau i helpu i leihau’r nifer o ddamweiniau sy’n digwydd yng Nghymru yn flynyddol,” dywedodd Alun Elidyr.
Mae gan Cyswllt Ffermio nifer o lyfrynnau cyfarwyddyd ar ei wefan sy’n amlygu rhai o’r meysydd allweddol lle gall ffermwyr gymryd camau ymarferol, syml iawn yn aml, i wneud eu ffermydd yn fwy diogel. Mae’r holl lyfrynnau ar gael i’w lawrlwytho a dywed Alun Elidyr y gall ychydig funudau o ddarllen helpu i achub bywyd.
Trwy Lantra Cymru, mae Cyswllt Ffermio yn cynnig nifer o gyrsiau hyfforddi ar bynciau gan gynnwys Iechyd a Diogelwch ar y fferm, Cymorth Cyntaf a thrin plaleiddiaid. Er nad oes hyfforddiant wyneb yn wyneb ar gael ar hyn o bryd, edrychwch ar wefan Cyswllt Ffermio am ragor o wybodaeth am y cyrsiau sydd ar gael yn ddigidol yn awr a’r rhai fydd yn cael eu trefnu ar ôl i’r cyfyngiadau presennol gael eu codi. Bydd dyddiadau cyfnodau ymgeisio am sgiliau hefyd yn cael eu dangos.
Gall ffermwyr cymwys ymgeisio am hyd at 15 awr o gyfarwyddyd cyfrinachol ar y fferm, wedi ei gyllido yn llawn gan un o’r mentoriaid ‘iechyd a diogelwch fferm’, sydd yn rhan o raglen fentora amlwg Cyswllt Ffermio.
“Mae’r WFSP yn benderfynol o godi ymwybyddiaeth i leihau’r nifer o ddamweiniau ar y fferm, ond i gyflawni hyn, mae arnom angen i deuluoedd ffermydd weithio gyda ni, i fanteisio ar y cyfarwyddyd, hyfforddiant a mentora, gyda llawer ohono wedi ei ariannu neu gyda chymhorthdal hyd at 80% i ffermwyr sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio.
“Mae’r rhan fwyaf o ffermwyr yn gwybod eu bod weithiau yn torri corneli ac nad ydynt bob tro yn dilyn y cyfarwyddyd diogelwch cywir, ond gall cael arbenigwr i ymweld â’r fferm yn anffurfiol a dangos, yn hollol gyfrinachol, pa gamau y gallwch eu cymryd i leihau neu ddileu risgiau leihau’r risg o ddamweiniau i lawer o deuluoedd,” dywedodd Alun Elidyr.
Am ragor o wybodaeth a chyfarwyddyd ar sut i wneud eich fferm yn lle diogel i weithio ewch i'r gwefannau isod:
Farm Safety Foundation / Yellow Wellies
Mae Partneriaeth Diogelwch Ffermio Cymru (WFSP) yn bartneriaeth gydweithredol o brif sefydliadau rhanddeiliaid amaethyddol sy’n cydweithio i helpu i ostwng y nifer annerbyniol o ddamweiniau difrifol a marwolaethau sy’n digwydd pob blwyddyn ar ffermydd ledled Cymru.
Y sefydliadau partner yw: APHA (Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion); CLA Cymru (Cymdeithas y Tirfeddianwyr); Cyswllt Ffermio; FCN (The Farming Community Network); The Farm Safety Foundation; UAC (Undeb Amaethwyr Cymru); HCC (Hybu Cig Cymru); Lantra Cymru; NFU Cymru; NFU Mutual; CNC (Cyfoeth Naturiol Cymru); RABI (Royal Agricultural Benevolent Institution); CAFC (Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru); CFfI Cymru (Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru); Llywodraeth Cymru; Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) - rôl gynghori).