28 Awst 2019

 

 

computer 0

Chwalwch y rhwystrau a allai fod yn eich atal rhag manteisio i’r eithaf ar farchnata ar gyfryngau cymdeithasol. Bydd gweithdai hyfforddiant cyfryngau cymdeithasol Cyswllt Ffermio yn eich rhoi ar ben ffordd. Mae’r gweithdai wedi’u hariannu'n llawn a byddant yn cael eu darparu gan ddarparwyr hyfforddiant cymeradwy Lantra Cymru.

Mewn rhai teuluoedd ffermio mwy traddodiadol mae’r syniad o ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol i farchnata yn aml naill ai’n cael ei ddiystyru'n llwyr neu’n cael ei drin yn amheus!  I nifer o rai eraill, mae integreiddio llwyfannau digidol fel Facebook, Twitter ac Instagram i’w strategaeth marchnata digidol wedi helpu i wneud eu brand neu eu cynnyrch yn fwy amlwg ac wedi rhoi hwb i’w gwerthiant.

Mae Cyswllt Ffermio yn annog busnesau ffermio a choedwigaeth cymwys i gofrestru ar gyfer gweithdy marchnata cyfryngau cymdeithasol a ddylai roi syniadau newydd i chi a’r sgiliau i wella eich gweithgareddau cyfryngau cymdeithasol a chyflawni’r canlyniadau rydych chi’n chwilio amdanyn nhw.

Mae Cyfarwyddwr Lantra Cymru, Kevin Thomas, yn dweud bod dysgu sut mae hyrwyddo eich brand, eich gwasanaeth neu eich cynnyrch ar lwyfannau chyfryngau cymdeithasol yn gallu bod yn un o’r ffyrdd mwyaf cost effeithlon ac effeithiol o gyrraedd eich cynulleidfaoedd targed.

“Mae gwybod sut mae defnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol wedi gweddnewid y ffordd mae nifer o fusnesau ffermio a choedwigaeth yn hyrwyddo mentrau lle maen nhw wedi arallgyfeirio, fel llety i dwristiaid, caffis a siopau fferm i fentrau dofednod, coedwigaeth a garddwriaeth.

“Bydd rhai busnesau’n gweld eu bod yn gallu cysylltu eu gweithgareddau cyfryngau cymdeithasol a denu cwsmeriaid yn ôl i’w gwefannau. Mae eraill yn gweld bod presenoldeb ar Facebook neu Instagram, sy’n hawdd iawn i’w sefydlu a’i ddiweddaru gyda negeseuon byr a bachog a lluniau neu fideos hyrwyddo, yn gallu golygu nad oes angen gwefan,” meddai Mr Thomas. 

Bydd y sesiynau dwy awr o hyd yn cael eu cynnal mewn lleoliadau ar draws Cymru’r hydref yma. Bydd y sesiynau’n egluro galluoedd sylfaenol y prif lwyfannau rhwydwaith cymdeithasol cyn i’r ffocws newid ar eich dysgu chi sut gallwch chi greu eich strategaeth marchnata digidol personol eich hun a defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i ymgysylltu’n llwyddiannus â’ch cwsmeriaid a chwsmeriaid newydd.

Byddwch hefyd yn dysgu am strategaethau hysbysebu rhad ar gyfryngau cymdeithasol a fydd yn briodol i bob busnes, o fusnesau bach neu niche i’r rheini sy’n gweithredu ar raddfa fawr.

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd y gweithdai hyn yn chwalu unrhyw gamargraff bod marchnata ar gyfryngau cymdeithasol yn gymhleth ac nad hysbysebu ar gyfryngau cymdeithasol ydy'r defnydd gorau o gyllideb marchnata o bosib,” meddai Mr Thomas.  

Gan fod nifer y lleoedd wedi’u cyfyngu i hyd at 50 o unigolion cymwys y bydd angen iddyn nhw fod wedi cofrestru â Cyswllt Ffermio, mae’n syniad da cofrestru cyn gynted â phosibl er mwyn cadw eich lle.

 

Bydd pob gweithdy yn cael ei gynnal rhwng 4pm a 6pm.

  • 29.08.2019    Lantra Cymru, Llanfair-ym-Muallt LD2 3WY
  • 18.09.2019    Glasdir, Llanrwst LL26 ODF
  • 23.10.2019    Gwesty’r Lamphey Court, Sir Benfro SA71 5NT
  • 20.11.2019    Gwesty’r Castle of Brecon, Aberhonddu LD3 9DB

Mae Cyswllt Ffermio yn cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, ac mae’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites