17 Mai 2019
Mae ffermwyr tir glas Cymru yn tyfu bron i draean yn fwy o laswellt o’r caeau sy’n cael eu hail-hau diolch i waith ymchwil bridio planhigion yng Nghymru.
Roedd S23 – yr amrywiaeth cyntaf a ddatblygwyd gan Orsaf Fridio Planhigion Cymru a ddaeth yn rhan o Athrofa Ymchwil Biolegol ac Amgylcheddol Aberystwyth yn ddiweddarach – yn cynhyrchu 30% yn llai na’r amrywiaethau sy’n cael eu bridio ar y safle erbyn hyn.
Can mlynedd yn ddiweddarach, ac nid yn unig y mae’r amrywiaethau ‘Aber’ modern yn cynhyrchu mwy na’r rhygwellt lluosflwydd sy’n blaguro’n hwyrach, ond mae eu deunydd organig treuliadwy – gwerth D – yn bedair uned yn uwch, ac maen nhw’n llawer mwy dyfalbarhaus, meddai Alan Lovatt, Uwch Fridiwr Glaswellt yn IBERS.
Bu’n arwain trafodaethau yn ystod diwrnod agored a gynhaliwyd yn IBERS, un i Safleoedd Arloesedd Cyswllt Ffermio, i gofnodi canmlwyddiant bridio planhigion yng Nghymru.
“Roedd S23 yn eithaf arloesol pan gafodd ei fridio yn y lle cyntaf, ac roedd yn dal i fod ar y Rhestr a Argymhellir nes 1993,’’ meddai Mr Lovatt.
Mae’n cymryd oddeutu 12 mlynedd i amrywiaeth gyrraedd y farchnad o’r cam datblygu felly mae bridio nodweddion sy’n gweddu i ofynion y farchnad a pholisïau yn gallu bod yn her.
Ar hyn o bryd, mae’r rhain yn gwyro tuag at laswelltau sy’n tyfu gyda llai o fewnbwn. Mae hyn cyn cyferbynu gyda’r broses o sicrhau lle i rywogaethau ar y Rhestr a Argymhellir, sy’n cael eu rheoli mewn arbrofion gyda mwy o wrtaith, meddai Dr Sarah Palmer, bridiwr planhigion gydag IBERS
“Mae’n rhaid cael cydbwysedd. Nid oes unrhyw ddiben cael yr amrywiaethau gorau yn y byd os nad ydynt yn cyrraedd y Rhestr a Argymhellir,’’ meddai.
“Mae’n bwysig bod yr amrywiaethau yr ydym ni’n eu bridio yn cyd-fynd nid yn unig gyda’r hyn sydd ei angen heddiw, ond hefyd ymhen 10 i 20 mlynedd. Mae bridio planhigion yn debyg i gamblo i raddau, mae’n rhaid i chi rowlio’r dis digon o weithiau i sicrhau’r cyfuniad cywir o nodweddion.’’
Mae bron i 10,000 o leiniau arbrofol yn cael eu tyfu yn IBERS bob blwyddyn, ac yn cael eu cynaeafu hyd at naw gwaith y flwyddyn am dair blynedd.
Mae datblygiadau technolegol wedi galluogi’r gwaith o gasglu data o’r lleiniau arbrofol ddigwydd yn llawer cynt ac mae angen llawer llai o egni erbyn hyn i sychu samplau yn barod i’w pwyso.
Mae cynnydd yn cael ei wneud erbyn hyn gyda graddfa’r data y gellir ei gasglu. Mae offer NIRS (Near infrared reflectance spectroscopy), sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio i ragweld cynnwyd deunydd sych, yn cael ei raddnodi i graffu ar ansawdd yn ogystal.
“Bydd y rhain yn creu miloedd o bwyntiau data er mwyn eu dewis ar gyfer ansawdd,’’ meddai Dr Palmer.
Ychwanegodd y byddai manteisio ar botensial asidau brasterog mewn glaswellt hefyd yn ffocws ar gyfer y dyfodol.
“Os oes modd i ni newid y ffynhonnell llawn egni yma mewn ffordd ystyrlon, credwn y bydd hynny’n lleihau methan ac yn arwain at gynnydd pellach mewn effeithlonrwydd cynhyrchiant.’’
Cafodd y diwrnod agored Cyswllt Ffermio ei hwyluso gan Elan Davies, Swyddog Technegol Cig Coch Cyswllt Ffermio ar gyfer de ddwyrain Cymru.
Dywed fod datblygiadau mewn amrywiaethau glaswellt o ganlyniad i waith yn IBERS yn amlygu’r hyn y gall ffermwyr elwa ohono drwy ail-hau gwyndonnydd sy’n tanberfformio.
Er nad yw’r gwaith trin yn rhad, gellir sicrhau ad-daliad o fuddsoddiad o ganlyniad i wella ansawdd a chyfaint gwyndonnydd ffres sy’n cael eu hau gydag amrywiaethau newydd o hadau.“Ceir hefyd cynnydd mewn perfformiad da byw o ganlyniad i gynnydd mewn blasusrwydd, treuliadwyedd a chymeriant.’’
Ariennir Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru