29 Tachwedd 2019
Ydych chi’n ffermwr yn y sector cig coch? Os felly, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud y mwyaf o’r cyfle hwn.
Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig y cyfle i fusnesau yn y sector cig coch gael cefnogaeth ac arweiniad drwy gymorthfeydd a chlinigau wyneb yn wyneb, wedi eu hariannu yn llawn.
Mae rhan o’r gefnogaeth a gynigir ar gael i bob cynhyrchwr cig coch. Mae hyn yn cynnwys clinigau ‘Gostwng costau eich gorbenion’ ar-fferm sy’n cynnwys cyngor arbenigol ar egni, ynni a pheiriannau a gorbenion eraill ble mae arbedion yn bosib.
Gallai hyn wirioneddol eich helpu chi a’ch busnes i gyflawni eich nodau. Felly, os ydych yn ffermwr yn y sector cig coch, ewch amdani.
Mae dau gategori arall o gefnogaeth ar gael i fusnesau sydd wedi cymryd rhan yn rhaglen Meincnodi Hybu Cig Cymru / Cyswllt Ffermio yn unig. Y categori cyntaf o gefnogaeth sydd ar gael yw cymorthfeydd un i un 1 awr gydag ymgynghorydd i drafod eich adroddiad meincnodi unigol, a chlinig 2 awr ar y fferm gyda chynghorydd busnes i drafod sut y gallech gynyddu eich allbwn a gwella eich effeithlonrwydd.
Mae’r ffenestr ar gyfer ymgeisio am y gefnogaeth hon ar agor rhwng 01/11/2019 a 31/01/2020. Bydd yr holl gymorthfeydd yn cael eu cynnig ar sail cyntaf i’r felin.
Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.