11 Mai 2018

 

Mae ymgyrch Cyswllt Ffermio i gefnogi ffermwyr Cymru i wella ansawdd dŵr wedi cyrraedd Ynys Môn yr wythnos hon; cynhaliwyd dau ddigwyddiad i amlinellu’r gefnogaeth sydd ar gael gan Cyswllt Ffermio ac i amlygu sut all ffermwyr leihau lefelau llygredd amaethyddol. 

Mae 28 o gyrff dŵr yng Nghymru wedi cael eu henwi gan sefydliadau sydd â chynrychiolaeth ar yr WLMF fel ardaloedd nad ydynt yn bodloni’r safonau gofynnol. Mae’r cyfarfodydd ar Ynys Môn yn rhan o ymgyrch cenedlaethol ehangach sydd wedi’i anelu at annog ymrwymiad gan y diwydiant i  waredu llygredd er mwyn dangos safonau uchel ac enw da ffermio yng Nghymru.

Cafodd mynychwyr gyfle i ddysgu am y ffyrdd y gall Cyswllt Ffermio gefnogi ffermwyr Cymru i wneud newidiadau cadarnhaol.

Gall Gwasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio ddarparu cyllid 80% ar gyfer cyngor arbenigol, annibynnol, cyfrinachol wedi’i deilwra ynglŷn â chynllunio rheoli maetholion, rheoli a storio slyri a thail buarth ac isadeiledd fferm. Gall busnesau cymwys sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio hefyd gael mynediad at gyllid 100% (hyd at uchafswm o €1500) fel rhan o grŵp o 3 neu fwy.

Roedd Zoe Henderson, Cadeirydd is-grŵp Fforwm Rheolwyr Tir Cymru ar lygredd amaethyddol - corff sy’n cynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru, Undebau Ffermio ac eraill, yn bresennol yn y cyfarfod.

“Mae’n rhaid i ni i gyd chwarae ein rhan i ganiatáu amgylchedd dŵr iach. Roeddwn yn falch o weld brwdfrydedd y ffermwyr a’u hawch i weithio tuag at leihau llygredd amaethyddol, mae aelodau’r Fforwm Rheolwyr Tir Cymru yn awyddus i’w cefnogi.

Roedd Alaw Jones, Swyddog Gweithredol Sirol UAC, hefyd yn bresennol.

"Mae'n amlwg bod y diwydiant yn ymrwymedig i leihau llygredd, roeddwn ni'n falch iawn o weld nifer o aelodau'r UAC yn y cyfarfod yn trafod eu bwriad i gynnal safon uchel ffermio Cymru" meddai Alaw.

Un ffermwr lleol sydd hefyd yn berchen ar fusnes contractio amaethyddol a fynychodd y digwyddiad oedd Gareth Hughes.

“Roedd hi’n noson ddifyr iawn. Rydw i wedi dysgu bod dim rhaid gwneud newidiadau mawr costus ond yn hytrach bod posib gwneud newidiadau bach syml gall arwain at effaith sylweddol”

Dywedodd Einir Williams, Rheolwr Rhanbarthol ar ran gogledd Cymru, “Byddem yn annog pob ffermwr yng Nghymru i ystyried eu heffaith posibl ar yr amgylchedd a thrafod eu gofynion unigol gyda’u Swyddog Datblygu Cyswllt Ffermio lleol, a fydd yn gallu eu cyfeirio at y gefnogaeth fwyaf addas.”

“Bydd defnyddio’r gwasanaethau yma’n arwain at fanteision sylweddol i fusnesau fferm a’r gymuned ehangach sy’n dibynnu ar amgylchedd dŵr iach,” meddai Einir.

O oes angen rhagor o wybodaeth arnoch ynglŷn â sut i wella ansawdd dŵr, cysylltwch â Chanolfan Gwasanaeth Cyswllt Ffermio neu cliciwch yma i gael manylion cyswllt eich Swyddog Datblygu lleol, fydd yn gallu eich arwain drwy’r gwasanaethau.  


Related Newyddion a Digwyddiadau

Sut gwnaeth sicrhau mentor rymuso tyddynwyr gydag arweiniad a gwybodaeth
27 Mawrth 2024 Fel recriwtiaid newydd i amaeth-goedwigaeth a
Fferm Laeth Cwmcowddu yn Gwella Effeithlonrwydd Porthiant, gan Hybu Proffidioldeb a Chynaliadwyedd
25 Mawrth 2024 Mae Cwmcowddu, fferm gymysg yn Llangadog yng
Gall cyrsiau hyfforddiant Cyswllt Ffermio helpu i gyflawni datblygiad personol a chryfhau arferion fferm
21 Mawrth 2024 Enillodd Julie Davies, sy’n bartner gweithredol yn