26 Ebrill 2018

 

Mae ffermwr ifanc wedi osgoi peryglon posib a chamgymeriadau costus ers i’r fferm bîff a defaid deuluol gael ei droi’n fferm laeth gydag arweiniad gan fentor Cyswllt Ffermio.

Roedd Richard Downes yn 19 oed pan ymunodd â’i rieni, Terry a Jane, yn eu busnes fferm organig yng Nghilcert Uchaf ger Tregaron.

Er mwyn darparu ffrwd incwm sy’n fwy cyson, aethant ati i sefydlu buches laeth, ac maen nhw bellach wedi bod yn cynhyrchu llaeth o’r fuches  o 90 o wartheg byrgorn pedigri a gwartheg Friesian Seland Newydd croes ers 18 mis.

Roedd gan Richard rhywfaint o brofiad godro wedi iddo dreulio tri mis yn gweithio ar fferm laeth, ond fel newydd ddyfodiad, roedd yn awyddus i gymryd mantais o’r gefnogaeth sydd ar gael trwy Raglen Fentora Cyswllt Ffermio.

Mae’r Rhaglen yn galluogi ffermwyr a choedwigwyr i dderbyn arweiniad a chyngor gan gyfoedion ar amrywiaeth eang o bynciau.

richard downes and eurig jenkins 3 0
Mentor Richard oedd Eurig Jenkins, ffermwr llaeth profiadol sydd â fferm laeth llai na phedair milltir o Gilcert Uchaf.

Mae Eurig wedi arwain Richard mewn sawl ffordd ers hynny, o gynghori ar leoli traciau gwartheg i strategaethau pori.

“Mae cyngor Eurig yn bendant wedi arbed amser ac arian i ni,” dywedodd Richard sy’n 21 oed.

Mae’r ddau’n defnyddio systemau  lloia mewn bloc ac er mai buches lloia’n yr hydref sydd gan Richard ac Eurig yn gynhyrchwr llaeth y gwanwyn, mae’r egwyddorion yn debyg.

Dywedodd Richard fod hyn wedi bod yn fuddiol. “Roedd gennym ni ein syniadau ein hunain, ond roedd Eurig wedi arbrofi rhai o’r rheiny ar ei system ei hun a doedden nhw ddim wedi gweithio iddo, felly, diolch i’w gyngor, doedd dim angen i ni wneud yr un camgymeriadau,” dywedodd

Mae Eurig wedi treulio llawer o amser gyda Richard ar fferm Cilcert Uchaf ac wedi rhoi arweiniad iddo ar bopeth, o leoli traciau gwartheg a diogelu rhag clefydau i brotocol brechu ac ehangu’r fuches.

Roedd y teulu cyfan wedi cymryd rhan mewn rhywfaint o’r drafodaeth a dywedodd Eurig fod cyfathrebu ar y lefel hynny o fantais, . “Mewn sefyllfa mentora, mae cyfathrebu gydag aelodau eraill y teulu yn helpu gyda thrafod syniadau ac yn golygu nad oedd yn rhaid i Richard ail adrodd ein sgwrs.”

Roedd adnabod ei fentor yn gymorth i Richard. “Roeddwn i’n fwy parod i drafod y busnes gyda rhywun roeddwn i eisoes yn ei adnabod, ac roedd y cysylltiad yna’n bwysig i mi, ond efallai y byddai eraill yn ei gweld yn haws trafod yn agored gyda rhywun nad oedden nhw’n ei adnabod.”

Dyma’i gyngor i unrhyw un arall sy’n ystyried ymgeisio ar gyfer Rhaglen Fentora Cyswllt Ffermio: “Rhowch gynnig arni, mae yna wastad rhywbeth allwch chi ei ddysgu gan rywun arall.

“Byddai wedi bod yn fwy o frwydr heb gyngor Eurig. Er bod y wybodaeth ar gael yn rhywle, doedd dim rhaid i mi fynd i chwilio amdano. Roeddwn i’n gallu cael y wybodaeth roeddwn ei angen yn syth ac yn uniongyrchol.”

Dywedodd Eurig, sy’n mentora tri newydd ddyfodiad a’i fferm wedi bod yn un o safleoedd arddangos Cyswllt Ffermio, ei fod ef hefyd yn elwa o’r rhaglen. “Dros y blynyddoedd rydw i wedi elwa o fentora answyddogol ac wedi mwynhau gwneud fy rhan innau trwy Raglen Fentora Cyswllt Ffermio trwy helpu ffermwyr ifanc i ddatblygu.”

Mae Eurig yn un o’r 50 o ffermwyr a choedwigwyr sydd wedi cofrestru fel Mentor gyda Cyswllt Ffermio. Mae’r rhaglen yn cynnig hyd at 3 diwrnod o fentora wedi’i ariannu’n llawn ar gyfer unigolion sy’n edrych am farn rhywun arall, rhywun i wrando neu gefnogaeth gyda busnes dydd i ddydd.​

Er mwyn dewis eich mentor ewch i wefan Cyswllt Ffermio.​

Mae Cyswllt Ffermio yn ehangu’r rhwydwaith o fentoriaid ar hyn o bryd felly os ydych chi’n ffermwr neu’n goedwigwr gyda phrofiad mewn arallgyfeirio, olyniaeth fferm neu iechyd a diogelwch, dyma eich cyfle i wneud eich rhan dros y diwydiant fel y gwnaeth Eurig. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y