29 Awst 2018

 

O 24 Awst ymlaen, bydd cleientiaid Cyswllt Ffermio sydd wedi cofrestru gyda BOSS, system gefnogaeth ar lein Llywodraeth Cymru sy’n cael ei gynnal gan Busnes Cymru, yn cael mynediad at eu cyfrif drwy system fewngofnodi newydd, sef ‘Sign On Cymru’.

Mae dros 10,000 o ffermwyr a choedwigwyr cymwys sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio eisoes yn meddu ar gyfrif BOSS, sy’n darparu porth diogel ble gallant gael mynediad at eu cynllun datblygu personol (PDP); eu cofnodion datblygiad proffesiynol parhaus (CPD) yn ogystal â’r ffurflenni cais ar gyfer cyrsiau hyfforddiant achrededig Cyswllt Ffermio a’r cyrsiau e-ddysgu, sy’n cynnig modiwlau byr yn ymwneud ag ystod eang o bynciau’n ymwneud â ffermio a choedwigaeth.

Mae ‘Sign On Cymru’ yn golygu mai un cyfrinair yn unig sydd ei angen ar bob unigolyn, yn hytrach na’r system bresennol sy’n golygu cael nifer o gyfrineiriau mewngofnodi yn gysylltiedig â phob gwasanaeth a ddefnyddir o fewn Busnes Cymru.

Mae Lantra Cymru yn darparu rhaglen dysgu a datblygu gydol oes Cyswllt Ffermio, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Dywed Mr Kevin Thomas, cyfarwyddwr Lantra Cymru, ei bod yn hanfodol i ffermwyr a choedwigwyr sydd wedi cofrestru allu mewngofnodi’n llwyddiannus drwy’r system newydd. Mae’n egluro bod y system newydd hon yn llawer symlach a bydd yn ei gwneud hi’n haws i gael mynediad at yr ystod eang o wasanaethau a hyfforddiant sy’n cefnogi datblygiad personol a busnes.

“Os ydych chi eisiau diweddaru eich Cynllun Datblygu Personol (PDP), cwblhau cyrsiau e-ddysgu rhyngweithiol, a/neu ymgeisio ar gyfer cyrsiau byr achrededig Cyswllt Ffermio yn ystod y cyfnod ymgeisio nesaf, sef (1 – 26 Hydref 2018) bydd angen i chi ddilyn proses ‘Sign On Cymru’ i ddilysu eich cyfrif.

“Y peth pwysicaf i’w gofio yw bod rhaid i chi ddefnyddio’r un cyfeiriad e-bost yn union â’r un a ddarparwyd i Ganolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio wrth i chi gofrestru,” meddai Mr Thomas.

Ychwanegodd hefyd y dylai unrhyw un sydd wedi anghofio ei fanylion e-bost gysylltu gyda Chanolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 08456 000 813, a byddant yn gallu ei ddarparu. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

“Os bydd unigolyn yn ceisio cofrestru gyda chyfeiriad e-bost gwahanol, nid fyddant yn gallu cael mynediad at dudalennau Cyswllt Ffermio o fewn Busnes Cymru.”

Mae canllawiau cam wrth gam ynglŷn â sut i ddilysu eich cyfrif ‘Sign On Cymru’ Cyswllt Ffermio ar gael yma.

 

Sut i ddilysu eich cyfrif Sign On Cymru – Cyswllt Ffermio

  • Ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/boss
  • Cliciwch “Mewngofnodi gyda SOC”
  • Bydd ffurflen fewngofnodi SOC yn ymddangos
  • Cliciwch ar y ddolen “Sign up now”
  • Bydd tudalen gofrestru fer yn ymddangos
  • Rhowch y cyfeiriad e-bost a ddefnyddiwyd gennych wrth gofrestru gyda Cyswllt Ffermio
  • Cliciwch ar “Send Verification Code”
  • Yna bydd y cod hwn yn cael ei anfon at y cyfeiriad e-bost a roddwyd
  • Rhowch y cod hwn yn y blwch Verification code.
  • Cliciwch ar Verify code
  • Yna, crëwch gyfrinair a’i gadarnhau cyn clicio “Continue
  • Bydd y dudalen proffil BOSS Cyswllt Ffermio yn ymddangos
  • Bydd angen i chi gwblhau pob maes gorfodol a chlicio ar “Diweddaru’r proffil”
  • Mewn ychydig gamau syml rydych wedi llwyddo i fewngofnodi i’ch cyfrif Sign On Cymru – Cyswllt Ffermio.
  • Unwaith y bydd hyn wedi’i wneud, byddwch yn gallu cael mynediad at eich panel rheoli BOSS Cyswllt Ffermio o’r dudalen “Mewngofnodi gyda SOC” gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost a’ch cyfrinair newydd.

Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y