22 Mawrth 2018

 

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig yn gweithio gyda milfeddygon ledled Cymru i ddarparu cyfle i ffermwyr brofi a samplo iechyd anifeiliaid gyda’u milfeddyg lleol. 

Bydd y clinigau yn darparu ffermwyr gyda’r cyfle i dderbyn cymorth i ymchwlio a phrofi pynciau iechyd anifeliaid perthnasol o fewn eu busnes fel profi gwaed ar gyfer elfennau hydrin neu broffilio metabolaidd yn ogystal â ffrwythlondeb hwrdd neu darw a sgrinio am anhwylderau genetaidd. 

Dywedodd Dewi Hughes, Rheolwr Datblygu Technegol Cyswllt Ffermio fod hyn yn gyfle gwych i ffermwyr weithio gyda’u milfeddyg lleol i ymchwilio a phrofi am faterion iechyd anifeiliaid penodol o fewn eu ffermydd fel rhan o gynllun iechyd anifelia id gweithredol, fydd yn gwella cynhyrchiant y busnes ac iechyd a lles anifeiliaid. 

“Rydym yn annog unrhyw ffermwr sy’n teimlo y gallant gael budd o’r cyfle yma a chysylltu gyda’u milfeddyg lleol a Cyswllt Ffermio yn uniongyrchol.” 

Mae’r rhestr ganlynol o glinigau iechyd anifeiliaid yn darparu ffermwyr gyda dadansoddiad ac ymgynghoriad cymorthdaledig ar bynciau penodol sydd yn ymwneud ag iechyd anifeiliaid. 

·         Profi gwaed – gwirio elfennau hydrin, proffilio metabolaidd

·         Cyfrif Wyau Ysgarthol (FEC) – Monitro poblogaeth wyau ar-fferm

·         Ffrwythlondeb hwrdd neu darw

·         Leptospirosis

·         Rhinotracheitis Buchod Heintus (IBR)

·         Ectoparasitiaid (Clafr)

·         Sgrinio am anhwylderau geneteg

·         Becterioleg – meithrin a sensitifrwydd 

Rhaid i ffermwyr gadarnhau eu diddordeb gyda Cyswllt Ffermio cyn i unrhyw samplo/profi cymryd lle. Cyllid cyfyngedig ar gael bydd yn cael ei ddyrannu ar sail gyntaf i’r felin. 

I gofrestru eich diddordeb am unrhyw un o’r uchod, cysylltwch â Gwenan Jones o Menter a Busnes ar 01970 636296 neu e-bostiwch: gwenan.jones@menterabusnes.co.uk


Related Newyddion a Digwyddiadau

Academi Amaeth 2025 yn dod i ben gydag enillwyr yr her yn derbyn gwobrau
24 Tachwedd 2025 Mae unigolion uchelgeisiol y mae eu dyfodol yn
Pam mae dwysedd porfeydd yn hanfodol ar gyfer tros-hau llwyddiannus
14 Tachwedd 2025 Mae tros-hau porfeydd gyda chymysgedd aml
Dechrau Ffermio: Cyfleoedd ar gyfer lleoliad gwaith ledled Cymru!
13 Tachwedd 2025 Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig cyfleoedd ar gyfer