29 Ebrill 2020

 

“Pa bryderon bynnag sydd gennych am eich busnes, nid dyma'r amser i gadw’r pryderon i chi eich hun,  byddwn yn dod o hyd i arbenigwr a fydd yn gwrando arnoch ac yn cynnig yr arweiniad a'r cymorth cyfrinachol sydd eu hangen arnoch naill ai dros y ffôn neu'n ddigidol,” yw neges Eirwen Williams, Cyfarwyddwr Rhaglenni Gwledig gyda Menter a Busnes, sy’n darparu Cyswllt Ffermio ar y cyd â Lantra Cymru, ar ran Llywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Mewn ymateb i’r cyfyngiadau sydd mewn grym oherwydd pandemig y coronafeirws, mae Cyswllt Ffermio wedi trefnu nifer o gymorthfeydd un-i-un,  sy'n cael eu hariannu'n llawn ar gyfer unigolion cofrestredig.

“Os byddwch chi’n ffonio Canolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio yn y bore ac yn esbonio’r hyn sydd ei angen arnoch, byddwn yn gwneud ein gorau i ddod o hyd i’r arbenigwr mwyaf priodol i ymateb i’ch ymholiad neu bryder ar yr un diwrnod. Yn aml iawn, cewch y cymorth sydd ei angen arnoch gan un o’n hymgynghorwyr cymeradwy o fewn ychydig oriau," meddai Mrs. Williams.   Ychwanegodd os nad yw ffermwyr neu goedwigwyr cymwys eisoes wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio, mae hon yn broses gyflym y gellir ei gwneud hefyd dros y ffôn drwy ffonio'r Ganolfan Wasanaeth ar 08456 000 813. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Bydd y cymorthfeydd, sy’n cael eu darparu dros y ffôn neu'n ddigidol, yn parhau hyd nes y bydd gwasanaeth ‘arferol’ wyneb yn wyneb Cyswllt Ffermio ar gael unwaith eto.  Fel arfer, bydd pob un yn para oddeutu awr i bob unigolyn.  Gellir trafod pynciau sy'n amrywio o faterion cydymffurfio rheoleiddiol a rheoli busnes – sy’n gallu cynnwys, er enghraifft, cyngor cyfreithiol, cyfrifeg, cynllunio ac olyniaeth  -  i bynciau technegol ac iechyd anifeiliaid, rheoli pobl a phrosiectau arallgyfeirio.

Eglurodd Mrs. Williams fod y cyfyngiadau presennol oherwydd y coronafeirws yn golygu bod llawer o ffermwyr a choedwigwyr yn teimlo'n fwy ynysig nag erioed, a gall hyn gael effaith enfawr ar eu hiechyd meddyliol a chorfforol. Mae'n annog y diwydiant i wneud yn siŵr eu bod yn gofyn am y cymorth y mae ganddynt hawl iddo.

“Os nad ydych yn gwybod at bwy i droi, cysylltwch â Cyswllt Ffermio, heddiw!”

“Ni ddylai unrhyw ffermwr neu goedwigwr ddioddef yn ddistaw ar yr adeg heriol hon, a hyd yn oed os nad yw eich mater penodol chi'n dod o dan unrhyw un o gategorïau’r cymorthfeydd a restrwyd fel meysydd allweddol lle mae nifer o bryderon yn aml yn codi, mae gennym y gallu a'r adnoddau i  ymateb yn gyflym a dod o hyd i'r cymorth arbenigol sydd ei angen arnoch.” meddai Mrs. Williams

Mae Keith Owen, Cyfarwyddwr Ymgynghoriaeth Wledig Kebek, yn ymgynghorydd amgylcheddol adnabyddus sy'n arbenigo mewn seilweithiau busnes fferm a chydymffurfio rheoleiddiol.  Yn ôl Keith mae nifer o ffermwyr sy'n pryderu am faterion fel y rheoliadau amgylcheddol newydd a ddaw i rym yr hydref hwn eisoes yn elwa ar y gwasanaeth newydd hwn gan Cyswllt Ffermio.

Dywed Mr Owen fod llawer o ffermwyr yn gallu mynd i'r afael â’u pryderon mewn ffordd fwy darbodus nag y maent yn ei feddwl.

“Rwy'n cael galwadau gan ffermwyr, sydd wedi cael eu cyfeirio atom gan raglen Cyswllt Ffermio, sy'n amlwg yn poeni a ddim yn gwybod at bwy i droi am gyngor cyfrinachol ac ymarferol.

“Mae llawer yn pryderu am effaith y rheoliadau newydd ar reoli llygredd amaethyddol a gofynion traws gydymffurfio.

“Yn aml mae’r ffermwyr y byddwn yn siarad â nhw’n awyddus i gael sgwrs gwbl gyfrinachol a fydd yn eu helpu i gael hyd i atebion darbodus ac ymarferol sy'n cynnig ffordd ymlaen iddynt.”

Ychwanegodd Mr Owen y gall y cymorth proffesiynol gynnig atebion i’w problemau a dangos nad  yw'r camau y gallant eu cymryd o reidrwydd yn arwain at fwy o faich ariannol. Mae'r cymorth hwn weithiau'n cynnwys siarad ag awdurdodau rheoleiddio ar ran y ffermwr gan helpu i roi  tawelwch meddwl iddynt.

Dywedodd Eirwen Williams y gall cymorthfeydd un-i-un roi'r sicrwydd sydd ei angen ar ffermwyr a choedwigwyr ynglŷn ag amrywiaeth enfawr o faterion gyda chyngor gam wrth gam ar sut y mae angen iddynt ei wneud.

“Gall sgwrs un-i-un, gyfrinachol leihau’r pwysau ar adeg pan fo’i angen fwyaf arnyn nhw, a'u teuluoedd.”
Os hoffech neilltuo lle ar gyfer cymhorthfa un-i-un Cyswllt Ffermio, ffoniwch Ganolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio. Neu, i gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'ch swyddog datblygu lleol.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint