30 Tachwedd 2023

 

Mae coed yn siapio edrychiad cefn gwlad Cymru, ond mae eu rhan yn ymestyn ymhell y tu hwnt i'r hyn y gellir ei weld.

O liniaru effeithiau sychder a lleihau erydiad pridd i gasglu carbon a darparu cysgod i dda byw, gall coetir gyflwyno gwytnwch i fusnesau fferm.

Nid oes rhaid i blannu coetir a’i reoli fod yn gymhleth, fel mae David Brown a Ruth Pybus yn arddangos ar fferm Bron Haul, ger Abergele, Conwy.

Yn yr 1990au, plannwyd 40 o’r 70 erw yn fferm Bron Haul â choetir llydanddail brodorol yn bennaf ac yn 2014 plannodd David a Ruth 10 erw arall.

Yn ddiweddar, cynhaliodd y cwpl ddigwyddiad Cyswllt Ffermio pan wnaethant rannu eu gwybodaeth a’u profiad ag eraill sy’n ystyried integreiddio coetir yn eu systemau ffermio eu hunain.

Plannwyd y coetir gyda’r prif amcanion o gynhyrchu pren caled o safon, gwella bioamrywiaeth, cynorthwyo gyda rheoli dŵr, dal a storio carbon, ac adeiladu gwytnwch mewn priddoedd.

Dywedwyd wrth y rhai a fynychodd ddigwyddiad Cyswllt Ffermio iddynt gael “gweledigaeth wirioneddol gadarnhaol” o'r hyn yr oeddent am i'w coetir ei gyflawni.

“Mae ffermwyr dan lawer o bwysau i blannu coetir ond mae angen i ni gael gweledigaeth glir ynghylch yr hyn yr ydym am iddo ei ddarparu,” awgrymodd David.

Mae potensial i goed gynhyrchu incwm gwerthfawr o bren ond mae ffermwyr yn aml yn cael eu troi yn erbyn dilyn y fenter arallgyfeirio hon oherwydd eu bod yn gweld bod coed yn cymryd amser hir i dyfu.

“Mae coeden geirios du, castanwydd pêr ac onnen a blannwyd gennym ym 1997 eisoes wedi cyrraedd y cam hwnnw lle maent yn cynhyrchu pren ar gyfer planciau a physt ffensio,” eglurodd David.

Mae pren wedi’i ddefnyddio i wneud camfeydd castanwydd pêr, drysau o goeden geirios du, onnen wedi’i blaenio a phlanciau lloriau ceirios. Darperir teneuo o ansawdd is i fasnachwyr coed tân lleol.

Mae ymylon coetir hefyd yn darparu cysgod pwysig i ffermwyr da byw, nodwedd sy’n bwysicach fyth wrth i ni weld mwy a mwy o dywydd eithafol  - mae David a Ruth yn rhedeg buches bîff bach ar fferm Bron Haul.

“Bydd ffermwyr yn aml yn gofyn pa mor gyflym y gallant gyflwyno da byw i goetir ond mae'n llawer gwell i'r coetir, ac yn y pen draw yn llawer gwell cysgod, os yw da byw yn cael y cysgod o ymylon y coetir,” meddai David.

Mae David a Ruth yn gweithio ar drawsnewid i fodel o goedwigaeth gorchudd parhaus, gan dyfu coed o wahanol oed i greu coetir sy’n adfywio’n barhaus.

“Oherwydd oed, strwythur ac amrywiaeth y rhywogaethau, mae'n goetir gwydn iawn gyda chysgod cadarn yn bodoli ar yr ymylon,” meddai David.

Yn 2022, enillodd Bron Haul Wobr Gorau o’r Gorau: Coetir Bach y Gymdeithas Goedwigaeth Frenhinol. Mae David a Ruth yn cynnal cyrsiau rheoli coetir deuddydd ar eu fferm.

Dywedodd Geraint Jones, Swyddog Arbenigol Coedwigaeth a Choetir Cyswllt Ffermio, a hwylusodd y digwyddiad yn fferm Bron Haul, fod agwedd David a Ruth at blannu coed wedi dangos y gall sefydlu coetir fod yn opsiwn dichonol i ffermwyr.

Dywedodd Mr Jones ei bod yn bwysig nad yw ffermwyr yn anwybyddu eu hisadeiledd gwyrdd oherwydd trwy fanteisio i’r eithaf ar fuddion coetir gallant wella perfformiad economaidd ac amgylcheddol.

“Mae coed yn ffordd bwysig o leihau allyriadau carbon a gwella iechyd a lles da byw trwy ddarparu cysgod,” meddai.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint