19 Ionawr 2022

 

Yr wythnos hon, cyhoeddodd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a Menter a Busnes bod cwrs Dysgu Cymraeg ar-lein newydd bellach ar gael ar gyfer y sector amaeth.

Mae’r cwrs blasu 10 awr, sy’n rhan o gynllun Cymraeg Gwaith y Ganolfan, wedi ei deilwra ar gyfer y sector, gyda’r bwriad o roi rhyddid i’r dysgwyr ei ddilyn yn eu hamser eu hunain ac ar eu cyflymder eu hunain.

Mae’r bartneriaeth newydd rhwng y Ganolfan Dysgu Cymraeg a Menter a Busnes yn deillio o un o argymhellion adroddiad ‘Iaith y Pridd’, gyhoeddwyd yn 2020 gan Cyswllt Ffermio. Roedd yr adroddiad yn ystyried sut y gall y gymuned amaeth Gymraeg ei hiaith gyfrannu at y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Yn dilyn gwaith ymchwil ar gyfer yr adroddiad, daeth i’r amlwg fod ’na awydd i ddysgu Cymraeg ymysg ffermwyr di-Gymraeg, a gweithwyr yn y sector gyflenwi a gwasanaethau amaethyddol a fyddai’n gweld defnydd ymarferol a gwerth masnachol i allu siarad Cymraeg.

O ganlyniad, un o’r argymhellion oedd ‘creu gwersi Cymraeg gyda chynnwys wedi ei lunio o gwmpas themâu amaethyddol’ a chysylltodd y Ganolfan Dysgu Cymraeg gyda Menter a Busnes er mwyn gweld a fyddai modd cydweithio er mwyn ymateb i’r argymhelliad yma.

Dona Lewis ydy Dirprwy Brif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg, gyda’r cyfrifoldeb dros gynllun Cymraeg Gwaith o fewn y Ganolfan. Dywedodd, “Rydym yn falch iawn o’r bartneriaeth sydd wedi ei sefydlu gyda Menter a Busnes er mwyn ymateb i un o argymhellion adroddiad ‘Iaith y Pridd’.

“Rydym yn gwybod fod canran y siaradwyr Cymraeg yn y sector amaeth yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol, 43% o’i gymharu ag 19%, ac mae diddordeb i ddysgu Cymraeg o fewn y diwydiant.

“Trwy ei wneud yn gwrs hyblyg ar-lein mae posibl ei ddilyn ar adegau sy’n gyfleus i bawb.”

Ychwanegodd Alun Jones, Prif Weithredwr Menter a Busnes, “Mae’r sector amaeth yn gadarnle i’r iaith Gymraeg, ac rydym yn gweld diddordeb cynyddol ymysg siaradwyr di-Gymraeg i ddysgu’r iaith. Mae Lois Evans, un o staff Menter a Busnes sy’n gweithio ar y rhaglen Cyswllt Ffermio, hefyd yn diwtor Dysgu Cymraeg , a gweithiodd gydag arbenigwyr y Ganolfan i lunio cwrs sy’n gwbl berthnasol i’r gynulleidfa amaethyddol.”

Mudiad amlwg o fewn y diwydiant amaeth yw’r Ffermwyr Ifanc. Mae 38% o aelodau’r mudiad yn ddi-Gymraeg. Un sydd ar hyn o bryd yn dilyn cwrs Dysgu Cymraeg yw Phil Elis, Prif Weithredwr newydd y mudiad.

Ychwanegodd “Bydd y cwrs Dysgu Cymraeg yma o fudd mawr i’r aelodau hynny sydd yn edrych am yr anogaeth gychwynnol yna i ddysgu’r iaith. Mae’r iaith Gymraeg yn rhan mor bwysig o ddiwylliant a threftadaeth cefn gwlad Cymru ac mae’n wych gweld bod ymdrech i gynyddu’r nifer o bobl sy’n defnyddio’r iaith.”

Nid dyma’r cwrs cyntaf i’r Ganolfan ei ddatblygu ar gyfer cynulleidfa benodol, gyda chyrsiau yn bodoli ar gyfer sectorau eraill megis iechyd a gofal, gwasanaethau cyhoeddus, twristiaeth a hamdden a manwerthu.

Ychwanegodd Dona Lewis, “Rydym eisiau sicrhau fod ein cyrsiau blasu 10 awr ar-lein yn cynnig geirfa ddefnyddiol ar gyfer y gweithle.  Wrth greu’r cyrsiau hyn, rydym yn trafod gyda’r sectorau gwahanol ac yn sicrhau y bydd gweithwyr yn cael cyfle i ddysgu geirfa sylfaenol ar gyfer cynnal sgwrs fer yn y Gymraeg, sy’n berthnasol i’w maes gwaith hwy.”

Mae cyrsiau 10 awr sector-benodol Cymraeg Gwaith, gan gynnwys amaeth, ar gael am ddim o wefan Dysgu Cymraeg.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn
Gwaith samplo Cyswllt Ffermio yn amlygu cyfleoedd i wella iechyd pridd ar ffermydd Cymru
11 Rhagfyr 2024 Mae adroddiad gan Cyswllt Ffermio ar briddoedd
Sut mae anwybyddu clefydau heintus yn gallu arwain at broblemau sylweddol mewn diadelloedd yng Nghymru
29 Tachwedd 2024 Mae ffermwyr defaid yng Nghymru yn cael eu