skirrid timber
Cyfoeth Naturiol Cymru yw’r corff a noddir gan Lywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am drwyddedu cwympo coed yng Nghymru. Mae eu cylch gorchwyl yn cynnwys diogelu coed, coetiroedd a choedwigoedd Cymru trwy reoli cwympo coed, ac maent yn annog arferion coedwigaeth da trwy osod safonau, rhoi cyngor a darparu gwybodaeth.

Os nad oes trwydded neu ganiatâd cwympo coed mewn lle, neu os bydd y coed anghywir yn cael eu cwympo, a’i bod yn dod i’r amlwg bod angen trwydded neu ganiatâd, gellir erlyn unrhyw un a fu’n rhan o’r weithred. Mae’n bwysig peidio â dechrau cwympo coed nes derbyn y cyngor cywir, ac i Gyfoeth Naturiol Cymru ddarparu trwydded neu ganiatâd arall gofynnol os oes angen. Mae cwympo unrhyw goed heb drwydded neu ganiatâd arall yn drosedd, heblaw bod eithriad mewn lle.

 

Eithriadau lle nad oes angen trwydded cwympo coed

O fewn unrhyw chwarter blwyddyn calendr, mae hawl gennych i gwympo 5 metr ciwbig heb drwydded, cyn belled nad oes mwy na 2 fetr ciwbig yn cael eu gwerthu. Diffinnir chwarter blwyddyn calendr fel 1 Ionawr hyd 31 Mawrth, 1 Ebrill hyd 30 Mehefin, 1 Gorffennaf hyd 30 Medi, a 1 Hydref hyd 31 Rhagfyr. Dylech gadw tystiolaeth os byddwch yn cwympo mwy na 5 metr ciwbig dros sawl chwarter  blwyddyn calendr. Mae’n bosibl y byddai’r gyfrifiannell cyfaint coed yn ddefnyddiol os nad ydych yn sicr ynglŷn â sut i fesur 5 metr ciwbig.

I ddarganfod yr hyn sydd angen i chi ei wybod ynglŷn â chael caniatâd i gwympo unrhyw goed ar eich rhan eich hun neu ar ran rywun arall, cliciwch yma.

Mae rhaglen Cyswllt Ffermio ar gyfer Ffermwyr a Choedwigwyr yn darparu cefnogaeth sy’n trawsnewid ac yn gwella rhagolygon ar gyfer miloedd o fusnesau. Am gyngor ynglŷn â materion Coedwigaeth a sut i gael cynllun rheoli coetir ar gyfer eich coetir, cysylltwch â Cyswllt Ffermio, mae manylion cyswllt ar y wefan: www.llyw.cymru/cyswlltffermio. Neu gallwch gysylltu’n uniongyrchol â Geraint Jones, Swyddog Technegol Coedwigaeth, ar: 07398 178698 neu anfon e-bost at geraint.jones@menterabusnes.co.uk.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites