10 Tachwedd 2020

 

Bydd arbenigwr ar ymddygiad gwartheg yn helpu ffermwyr llaeth i ddysgu sut i ddarllen arwyddion corfforol eu gwartheg a defnyddio hynny i reoli’r fuches, yn ystod gweminar Cyswllt Ffermio’r mis hwn.

Dywed y milfeddyg o'r Iseldiroedd, Joep Driessen, o gwmni CowSignals®, fod y ffermwyr sy’n perfformio orau yn deall gofynion eu gwartheg.

Trwy ddarllen arwyddion corff y fuwch, gellir cynyddu hirhoedledd a pherfformiad.

Yn ystod gweminar Cyswllt Ffermio a gynhelir ar 19 Tachwedd, bydd Mr Driessen yn annog ffermwyr i fod yn ymwybodol o arwyddion corfforol eu gwartheg.

Gallai ymwybyddiaeth o’r arwyddion hyn a chanolbwyntio ar ofynion hanfodol o ran bwyd, dŵr, golau a lle gynyddu cynhyrchiant, o dair i bum llaethiad, ynghyd â lleihau costau meddai Mr Driessen.

Bydd y weminar yn gysylltiedig gyda diweddariad oddi ar fferm Erw Fawr, safle arddangos Cyswllt Ffermio ger Caergybi, lle mae prosiect ar waith ar hyn o bryd sy’n canolbwyntio ar iechyd a lles gwartheg sydd newydd ddod â lloi.

Yn ôl Rhys Davies, Swyddog Technegol Llaeth Cyswllt Ffermio, bydd yr hyn a fydd yn cael ei drafod yn galluogi ffermwyr Cymru i ddeall y syniadau diweddaraf yn ymwneud â rheoli buchod llaeth.

“Bydd yn annog ffermwyr i edrych, meddwl a gweithredu yn seiliedig ar arwyddion y fuwch,” meddai.

“Bydd Joep yn egluro pam y dylai ffermwyr gwestiynu beth maen nhw’n ei weld, pam mae’n digwydd a beth mae’n ei olygu wrth arsylwi gwartheg.”

I gymryd rhan yn y weminar a gynhelir rhwng 19:30-20:30, mae angen i chi gofrestru eich diddordeb erbyn 15:00 ar y diwrnod. Cliciwch yma i gofrestru, neu e-bostiwch rhys.davies@menterabusnes.co.uk

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn
Gwaith samplo Cyswllt Ffermio yn amlygu cyfleoedd i wella iechyd pridd ar ffermydd Cymru
11 Rhagfyr 2024 Mae adroddiad gan Cyswllt Ffermio ar briddoedd
Sut mae anwybyddu clefydau heintus yn gallu arwain at broblemau sylweddol mewn diadelloedd yng Nghymru
29 Tachwedd 2024 Mae ffermwyr defaid yng Nghymru yn cael eu