6 Hydref 2020

 

Mae dau frawd yn ceisio datblygu'r llwyddiant y maent eisoes wedi'i gael gyda'u busnes ffermio llaeth ar raddfa fawr, trwy gynnig cyfle i ffermwr cyfran ymuno â nhw.

Mae Alun a Paul Price yn cadw buches o 800 o wartheg Freisian Holstein a’u lloi ar Fferm 240 hectar Gelliargwellt ger Nelson, lle maent hefyd yn rhedeg cwmni ailgylchu a rheoli gwastraff.

Mae rhoi sylw i'r manylion wrth wraidd eu hathroniaeth amaethu – yn ddiweddar, gosodwyd parlwr godro cylchdro 64 pwynt ar y fferm ac mae ffrwythlondeb ac iechyd gwartheg yn cael ei fonitro yn ôl eu tagiau clust.

Ond mae rheoli'r holl feysydd hyn o'r busnes i safon mor uchel yn mynd yn her erbyn hyn, gan eu bod yn eu chwedegau, felly er mwyn cynnal y safonau a symud y busnes yn ei flaen, maent yn dymuno creu cytundeb ffermio cyfran.

“Rydym yn mynd yn hŷn ac wedi ceisio cyflwyno person ychwanegol i ofalu am y fuches, ond ni fu'n llwyddiannus iawn,” cyfaddefodd Alun.

Maent yn gobeithio sicrhau datrysiad trwy raglen Mentro Cyswllt Ffermio.

Cynlluniwyd y fenter hon i baru tirfeddianwyr sy'n dymuno cymryd cam yn ôl o'r diwydiant, gyda newydd-ddyfodiaid, ac mae'n cynnig cyllid at ddibenion cynllunio busnes ac arweiniad cyfreithiol.

“Roeddem wedi darllen am lwyddiant ffermwyr eraill gyda chynllun Mentro, ac roeddem yn credu y gallai hwn helpu ein sefyllfa ni,” dywedodd Paul.

Hoffent ail-greu llwyddiant y mentrau ffermio cyfran ar eu fferm nhw trwy gynnig cytundeb i ddarpar ffermwr llaeth.

“Rydym wedi treulio ein hoes yn gweithio i gyflawni'r hyn yr ydym wedi’i wneud ar y fferm, a'n dymuniad yw cynnal hynny ac ychwanegu gwelliannau pellach,” dywedodd Paul.

Yr ymgeisydd delfrydol fyddai unigolyn sy'n rhannu eu meddylfryd, ychwanegodd.  “Pan fyddaf yn edrych ar fuwch, ni fyddaf yn meddwl 'Sgwn i faint o arian y gall hon ei wneud i mi', byddaf yn ei gweld am beth ydyw, sef anifail iach.”

Mae'r fuches sy'n lloia trwy gydol y flwyddyn yn cynhyrchu tua 7 miliwn litr o laeth bob blwyddyn o system lle y byddant yn godro dair gwaith y dydd, gan gyflenwi'r llaeth i Sainsbury’s.

Cedwir y fuches dan do a bwydir Dogn Cymysg cyflawn (TMR) iddi, sy'n cynnwys silwair ac indrawn o'r ansawdd gorau.

Trosglwyddir yr elfen hylifol o'r slyri i safle treulio anaerobig y fferm a chaiff yr elfen solet ei sychu a'i ddefnyddio fel sarn ar gyfer anifeiliaid.

Defnyddir semen yn ôl rhyw ar yr holl heffrod a megir yr holl anifeiliaid cyfnewid ar y fferm.

“Caiff yr uned laeth ei rhedeg mewn ffordd hynod o dda a hoffem weld hynny yn parhau,” dywedodd Paul.
Felly, mae denu'r unigolyn cywir trwy gyfrwng Mentro yn bwysig, ychwanegodd.

“Rydym yn dymuno gweld rhywun yn mwynhau'r bodlonrwydd o symud menter o'r radd flaenaf yn ei blaen, a hoffem gynnal a datblygu dyfodol mwy proffidiol i bawb.”

Os ydych yn credu y gallech chi fod yn bartner delfrydol i Alun a Paul, ewch ati i lenwi proffil Mentro yma er mwyn cychwyn eich taith at fenter ar y cyd.  Neu, cysylltwch â Delyth Jones, sef Swyddog Mentro De Cymru, trwy anfon e-bost at delyth.jones@menterabusnes.co.uk neu ffonio 01970 631 422.  

Cynlluniwyd Mentro i gyfateb ffermwyr a thirfeddianwyr sy'n dymuno cymryd cam yn ôl o'r diwydiant, gyda newydd-ddyfodiaid sy'n chwilio am ffordd o ddechrau ffermio.  Mae'n tywys pobl ar y ddwy ochr trwy'r prif gamau y mae gofyn eu cymryd er mwyn dod o hyd i ddarpar bartner busnes.  Bydd pecyn integredig o hyfforddiant, mentora, cyngor arbenigol a chymorth busnes yn rhoi'r sgiliau, y wybodaeth a'r hyder i gyfranogwyr y bydd ei angen arnynt er mwyn eu helpu i gyflawni eu nodau a sefydlu menter ar y cyd.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint
Fferm laeth yr ucheldir yn treialu cymysgedd hadau gwndwn llysieuol sydd wedi'u sefydlu gyda hau yn uniongyrchol
16 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yr ucheldir yng Nghymru yn ceisio
Ffermwr llaeth sy’n manteisio ar ‘Gyllid Arbrofi’ yn ceisio gwella bioleg y pridd
15 Ebrill 2024 Mae ffermwr llaeth yn cyflwyno cannoedd o