Gallai’r galw cynyddol am gig eidion Wagyu sydd wedi’u cynhyrchu ar laswellt gynnig cyfle i ffermwyr fagu’r gwartheg ar eu ffermydd eu hunain.

Mewn digwyddiad a gynhelir gan Cyswllt Ffermio yn Llandysilio ym mis Ionawr, bydd y ddau a sefydlodd Natural Wagyu yn Sir Benfro yn amlinellu eu cynnig i ffermwyr eraill fod yn rhan o’r gadwyn gyflenwi.

Mae Rob Cumine and Will Prichard wedi sefydlu marchnadoedd ar gyfer y cig eidion Wagyu ac yn ceisio cynyddu’r ddarpariaeth i gwrdd â’r galw.

Dywedodd Mr Cumine, a fydd yn annerch y ffermwyr yn nigwyddiad Cyswllt Ffermio ar 9 Ionawr 2018, bod y busnes yn gobeithio gweithio gyda nifer fach o ffermwyr gyda’r un nod.

“Mae gennym ni ambell ddewis mewn golwg, ac un ohonyn nhw yw bod yn rhan o grŵp cynhyrchu, gyda Natural Wagyu yn helpu gyda’r marchnata” eglurodd.

“Rydym ni wedi gweithio gyda phedwar cynhyrchydd eleni i ddarparu gwartheg ac rydym ni am gynyddu’r niferoedd hynny.

Mae Natural Wagyu yn cyflenwi Whole Foods, sydd wedi’u sefydlu yn Llundain, yn ogystal â sawl bwyty a mannau gwerthu bwyd ac mae’r cwsmeriaid sylfaenol hyn yn cynyddu.

Mae cig eidion Wagyu yn wreiddiol o Siapan ac yn adnabyddus am y lefel uchel o fraster drwy’r cig.

Mae’r mwyafrif o fentrau masnachol Wagyu yn pesgi gwartheg dan do, ond mae gwartheg Natural Wagyu yn cael eu bwydo gyda glaswellt a phorthiant.

Mae’r cwmni wedi buddsoddi mewn geneteg uwch ac mae’r teirw o fewn 1% gorau’r brîd ledled y byd.

Mae Mr Cumine yn dweud bod eu cynnig i ffermwyr yn eu galluogi i gynhyrchu cig eidion mewn dull fydd yn cadw cysylltiad agos gyda’r cwsmer terfynol.

Hefyd yn cyflwyno yn ystod digwyddiad arallgyfeirio Cyswllt Ffermio bydd Justin Scale, o Capeston Organics, Castell Gwalchmai, sy’n rhoi cyfle i ffermwyr gynyddu eu hincwm trwy fagu ieir maes ar ran y cwmni.

Bydd nifer cynyddol o ffermwyr yn edrych am gyfleoedd i arallgyfeirio fel ffordd o ychwanegu at eu ffrydiau incwm presennol.

“Yn ogystal â’r math yma o ddigwyddiadau, mae gan Cyswllt Ffermio ystod eang o wasanaethau sy’n cefnogi’r broses arallgyfeirio, gan gynnwys sesiynau un i un, y Gwasanaeth Cynghori neu ymaelodi â grŵp Agrisgôp i ddatblygu syniadau gyda phobl â’r un nod. Byddwn i’n annog unrhyw un sydd yn ystyried arallgyfeirio i ddefnyddio’r gefnogaeth hyn trwy fynd ein gwefan neu drwy gysylltu â’ch swyddog datblygu lleol heddiw,” dywedodd Carys Thomas, Rheolwr Rhanbarthol Cyswllt Ffermio.

Cynhelir y digwyddiad am 7.30pm, 9 Ionawr 2018 yng ngwesty Nantyffin Hotel, Llandysilio ac mae’n ofynnol eich bod chi’n archebu lle o flaen llaw. Cysylltwch â Chanolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 08456 000813 neu e-bostiwch farmingconnect@menterabusnes.co.uk i sicrhau lle.

Mae Cyswllt Ffermio yn cael ei ariannu gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffermwr arobryn, Ynyr Pugh o Ganolbarth Cymru, yn trafod ei lwyddiant o ganlyniad i Ffermio Cyfran
16 Chwefror 2026 Mae Ynyr Pugh yn ffermwr ymroddedig, llawn
Sut mae cofnodi perfformiad yn llunio gwelliannau gwerthfawr mewn diadell fynydd yng Nghymru
10 Chwefror 2026 Mae enillion mamol a gyflawnwyd trwy gofnodi
Bwydo glaswellt trwy'r dail yn rhoi hwb i borthiant india-corn mewn cyfnod o sychder, yn ôl arbrawf fferm
Bu i ddefnyddio’r dull bwydo drwy’r dail ar india-corn a oedd yn