9 Chwefror 2021

 

Mae teirw biff a fegir drwy system ddwys ar fferm da byw yng Nghymru yn cyrraedd cyfraddau pesgi cyfartalog o 1.5kg y pen y dydd ar ôl diddyfnu ers mynd am strategaeth borthi sy’n seiliedig ar borthiant cartref yn gyfan gwbl.

Cyn symud i dyfu’r holl faeth ar y fferm, roedd holl ddognau’r teirw Stabiliser ar fferm Bodwi, ger Pwllheli, yn dod o wellt a dwysfwydydd wedi’u prynu; nid oedd dim cynhwysion cartref yn y diet.

Mae’r teulu Griffith yn awr wedi addasu’r system i leihau cost cynhyrchu’r gwartheg drwy dyfu haidd gwanwyn a bwydo hwn gan gynyddu cyfran y porthiant yn y dogn o 15% i 40%.

Maent yn magu 75 o deirw a aned yn ystod gwanwyn 2020 ar y system hon fel un o’u prosiectau fel safle arddangos Cyswllt Ffermio.

Diddyfnwyd y gwartheg ar 15 Hydref 2020 ar bwysau cyfartalog o 287kg ac mae eu cyfraddau pesgi dyddiol (DLWG) cyfartalog yn awr yn 1.5kg.

Yn ystod gweminar ddiweddar gan Cyswllt Ffermio, dywedodd y tad a’r mab, Edward ac Ellis Griffith, mai eu nod oedd lleihau costau cynhyrchu a gwella cynaliadwyedd amgylcheddol y fferm.

Mae’r busnes yn rhedeg buches gaeedig o 140 o fuchod sugno Stabiliser sy’n lloia ym mis Ebrill a Mai a 1,150 o famogiaid Suffolk croes ar fferm Bodwi ac yn Nhyddyn Gwyn gerllaw, a hefyd ar 280 erw o dir rhent 18 milltir o’r daliadau hynny.

Eu bwriad gyda’r system teirw biff oedd darparu holl ofynion protein y gwartheg o’r porthiant ond, oherwydd amodau tyfu a chynaeafu anodd yn 2020, roedd yr ansawdd yn is na’r disgwyl ar 25% o ddeunydd sych, 10MJ/kg ME, 14% o brotein crai a 50% o NDF.

Yn ateb i hyn, fe wnaethant benderfynu gwneud y grawn yn fwy alcalin gyda thriniaeth amonia i gynhyrchu deunydd porthiant alcalïaidd, uchel mewn starts gyda mwy o brotein.

Dywedodd Iwan Vaughan, arbenigwr maeth a oedd yn gweithio gyda’r teulu Griffith ar y prosiect, mai’r ffocws i’r dyfodol fyddai gwella ansawdd silwair fel ffynhonnell protein ac egni.

“I leihau costau ymhellach, y porthiant sy’n cyfrif, ac ym Mhen Llŷn, silwair glaswellt yw’r dewis amlwg,” meddai Mr Vaughan, un o’r siaradwyr yn y digwyddiad.

I wella ansawdd, mae’n bwysig torri silwair ar yr amser iawn a’i sychu’n gyflym i gadw’r maethynnau, cynghorodd. 

“Po hiraf y mae’r cnwd yn sychu, y mwyaf o faethynnau rydym yn eu colli,” meddai Mr Vaughan. 

Y targed yw cael silwair â 30-35% DM cyn pen 24-48 awr.

Caiff y silwair glaswellt gorau wastad ei gynhyrchu yn y cyfnod tyfu gorau rhwng Ebrill a dechrau Mehefin. 

“Anelwch i dorri’r toriad cyntaf ar gyfer stoc tyfu a phesgi o ganol mis Mai i’w ddiwedd, os yw’r cyfraddau stocio yn caniatáu,” meddai Mr Vaughan.

Mae o’n ffafrio silwair clamp gan bydd y gwartheg yn bwyta mwy ohono oherwydd hyd y gweiryn a chysondeb yn y pit, ond os nad oes pit i’w gael mae economeg creu un yn annhebygol o orbwyso’r diffyg hwnnw mewn silwair wedi’i felio, ychwanegodd.

Roedd y prosiect ar fferm Bodwi wedi dangos ei bod yn bosibl bwydo teirw biff ar ffynonellau porthiant cartref heb aberthu twf, meddai Mr Vaughan.

“Drwy wneud hynny, gall ffermwyr wario llai ar brynu porthiant a lleihau’r ôl troed carbon am bob cilogram o brotein a gynhyrchir,” ychwanegodd.

Bydd y prosiect Cyswllt Ffermio yn amcangyfrif ac yn cymharu ôl troed carbon y system flaenorol o besgi ar ddwysfwydydd wedi’u prynu gyda’r system addasedig sy’n seiliedig ar haidd gwanwyn wedi’i dyfu adref ar y fferm.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy
Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir
gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn
Gwaith samplo Cyswllt Ffermio yn amlygu cyfleoedd i wella iechyd pridd ar ffermydd Cymru
11 Rhagfyr 2024 Mae adroddiad gan Cyswllt Ffermio ar briddoedd
Sut mae anwybyddu clefydau heintus yn gallu arwain at broblemau sylweddol mewn diadelloedd yng Nghymru
29 Tachwedd 2024 Mae ffermwyr defaid yng Nghymru yn cael eu