Cafodd aelodau diweddaraf yr Academi Amaeth, sef rhaglen datblygiad personol blaengar Cyswllt Ffermio, eu cyhoeddi yn ystod Sioe Frenhinol Cymru.
Bu’r 37 ymgeisydd llwyddiannus o’r tair rhaglen, sef Busnes ac Arloesedd, Arweinyddiaeth Wledig a Rhaglen yr Ifanc, yn mwynhau digwyddiad rhwydweithio gyda chyn aelodau'r academi, sydd wedi bod yn mynd ers 2012.
Roedd Kaye Davies, o Aberhonddu, aelod o’r rhaglen Busnes ac Arloesedd yn 2013, yn annog ymgeiswyr eleni i groesawu’r cyfleoedd sydd ar gael trwy’r Academi Amaeth ac i fanteisio ar y cyfle i gwrdd â phobl eraill o’r un meddylfryd.
“Mae’r rhwydweithio’n bwysig iawn. Fel grŵp, rydym yn dal i gyfarfod ac yn parhau i gefnogi'n gilydd yn ein busnesau a'n gyrfaoedd, ac rydym yn dysgu cymaint o ganlyniad i ddatblygiad a chynnydd parhaus ein gilydd."
Mae Geraint Griffiths o Landeilo’n gweithio fel rheolwr safle ar ran Wynnstay ar hyn o bryd, a byddai'n hoffi ffermio ar sail llawn amser. Mae'n gobeithio dysgu mwy am dyfu a rhedeg busnes fferm lwyddiannus gan ei gyd-ymgeiswyr ar y rhaglen Busnes ac Arloesedd.
“Rwy’n edrych ymlaen at gwrdd â phobl gyda meddylfryd tebyg i mi er mwyn rhannu profiad a syniadau, a chanfod mwy am y prosesau y maen nhw wedi cael profiad ohonynt sydd wedi gwneud eu busnes yn llwyddiant," meddai Geraint.
Mae Jessica Williams o Dywyn, sy’n gweithio fel Swyddog Diogelu’r Cyhoedd yn ogystal â ffermio gyda’i gŵr, yn edrych ymlaen at y cyfleoedd rhwydweithio a ddaw fel rhan o’r rhaglen arweinyddiaeth wledig.
“Rwy’n gobeithio datblygu gwell dealltwriaeth o’r materion gwleidyddol sy’n ymwneud â’r diwydiant amaeth, sydd yn berthnasol iawn ar hyn o bryd, er mwyn cynorthwyo i lunio agwedd bositif ar gyfer y dyfodol.”
Mae dysgu mwy am y diwydiant amaeth ehangach yn rhywbeth y mae Ioan Williams, 17, o Ddinas Mawddwy yn edrych ymlaen ato.
“Hoffwn ehangu fy ngwybodaeth am y diwydiant a datblygu sgiliau hollbwysig a fyddai’n gallu bod o fudd i amaethyddiaeth yn y dyfodol."
Wrth groesawu’r ymgeiswyr newydd, dywedodd Eirwen Williams, rheolwr rhaglenni Gwledig Menter a Busnes, sy’n darparu Cyswllt Ffermio, bod yr angen i amaethyddiaeth fod yn arloesol ac i feithrin arweinyddion gwledig yn bwysicach nawr nag erioed.
“Mae arnom angen busnesau sy’n gallu llwyddo a goroesi, mae angen i'n cymunedau gwledig ffynnu ac mae hefyd angen i ni wrando ar bobl ifanc gan mai nhw yw'r dyfodol. Dyna pam mae’r Academi Amaeth mor bwysig," meddai Mrs Williams.
Mae’r Academi Amaeth yn cael ei ddarparu trwy Cyswllt Ffermio, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Am fwy o fanylion ynglŷn â'r rhaglen eleni a dyheadau 'Dosbarth 2016’, ewch i dudalen yr Academi Amaeth.