management exchange 300x155

Bydd yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, yn cyhoeddi enwau’r ymgeiswyr llwyddiannus ar gyfer Rhaglen Cyfnewidfa Rheolaeth newydd Cyswllt Ffermio mewn seremoni arbennig yn Sioe Frenhinol Cymru heddiw.

Mae’r rhaglen Cyfnewidfa Rheolaeth yn ariannu ymgeiswyr llwyddiannus yn llawn hyd at uchafswm o £4,000 i ymweld â busnes fferm neu goedwigaeth o fewn yr UE am gyfnod hyd at chwe wythnos. Bydd rhai hefyd yn croesawu rheolwr fferm neu goedwigaeth medrus a phrofiadol sy’n gweithio yn yr UE ar hyn o bryd i ymweld â’u daliad cartref.

Yn dilyn proses ddethol manwl gan banel o feirniaid annibynnol dan gadeiryddiaeth yr Athro Wynne Jones, OBE, FRAgS, dewisodd Cyswllt Ffermio wyth o ffermwyr a choedwigwyr uchelgeisiol sy’n awyddus i wella elfen gystadleuol a hyfywedd eu busnes. Bydd y rhaglen gyfnewid yn galluogi ymgeiswyr llwyddiannus a’u cymheiriaid Ewropeaidd ddysgu gan ei gilydd, i rannu syniadau ac arfer dda a datblygu dulliau gwell o weithio.

Dywedodd y Gweinidog:

“Mae’n bleser gen i gyhoeddi enwau’r wyth ymgeisydd llwyddiannus ar gyfer Rhaglen Cyfnewidfa Rheolaeth gyntaf Cyswllt Ffermio.

“Dangosodd y grŵp hwn o unigolion uchelgeisiol ac ymroddedig eu bod yn meddu ar y rhinweddau sydd eu hangen ar ein diwydiant i ffynnu ac i lwyddo mewn marchnad fyd-eang sy’n mynd yn fwy a mwy cystadleuol.

“Bydd rhaglen gyfnewid Cyswllt Ffermio yn ehangu ar wybodaeth a gallu technegol y rhai sy’n cymryd rhan, gan roi profiad iddynt ac annog ffermwyr a choedwigwyr yng Nghymru i ddysgu a gweithredu dulliau newydd o weithio”.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn rhannu canfyddiadau sy’n deillio o’u profiad trwy gyfrwng sianeli cyfathrebu arferol Cyswllt Ffermio a’r rhaglen ddigwyddiadau cynhwysfawr.

Cyswllt Ffermio yw’r gwasanaeth cefnogi ar gyfer busnesau fferm a choedwigaeth yng Nghymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Cliciwch yma i weld yr ymgeiswyr llwyddiannus.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Academi Amaeth 2025 yn dod i ben gydag enillwyr yr her yn derbyn gwobrau
24 Tachwedd 2025 Mae unigolion uchelgeisiol y mae eu dyfodol yn
Pam mae dwysedd porfeydd yn hanfodol ar gyfer tros-hau llwyddiannus
14 Tachwedd 2025 Mae tros-hau porfeydd gyda chymysgedd aml
Dechrau Ffermio: Cyfleoedd ar gyfer lleoliad gwaith ledled Cymru!
13 Tachwedd 2025 Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig cyfleoedd ar gyfer