11 Gorffennaf 2024

Mae tyfwr ffrwythau meddal o Gymru a gollodd ei gnwd mefus yn gyfan gwbl i bla o bryfed yn y gorffennol yn sefydlu cytrefi o bryfed ysglyfaethus yn y cnwd cyn ac ar ôl iddo flodeuo mewn ymgais i ddod o hyd i ddull amgen biolegol ac effeithiol o reoli plâu yn hytrach na chwistrellu pryfleiddiad.

Mae thripsod blodau’r Gorllewin (WFT) a nifer o rywogaethau thripsod eraill gan gynnwys thripsod rhosod, thripsod rubus, thripsod winwns a thripsod blodau, yn rhai o elynion pennaf tyfwyr mefus, ac mae hynny’n arbennig o wir yn achos Bellis Brothers, Holt, ger Wrecsam, a gollodd gnwd cyfan o fefus gwerth £25,000 dair blynedd yn ôl i thripsod.

Hyd yn oed wrth ddefnyddio dulliau rheoli cemegol, dywed y rheolwr, Adrian Marks, y bydd y busnes yn colli 5-10% o’u cnwd mefus awyr agored ar gyfartaledd i thripsod mewn blwyddyn arferol.

Felly, mae angen dybryd ar gyfer dulliau rheoli thripsod amgen a mwy cyfeillgar i’r amgylchedd, yn enwedig gan fod thripsod blodau’r Gorllewin (WFT) yn dangos ymwrthedd eang i bryfleiddiaid, ac mae thripsod winwns hefyd wedi dangos ymwrthedd.  

Ceir pryderon hefyd y gallai rhywogaethau thripsod eraill sy’n difrodi mefus ddatblygu ymwrthedd yn y dyfodol. 

Gyda chyllid gan Gyllid Arbrofi Cyswllt Ffermio, mae Adrian bellach yn gweithio gydag arbenigwyr o gwmni ymgynghori amaethyddol a garddwriaethol ADAS i ganfod a allai’r pryf ysglyfaethus Orius laevigatus fod yn arf dibynadwy i ddiogelu rhag ymosodiadau thripsod yn y dyfodol.

Ymunodd yr entomolegwyr ymchwil Jude Bennison ac Andy Gladman, a’r ymgynghorydd Chris Creed gyda Mr Marks mewn digwyddiad diweddar a gynhaliwyd gan Cyswllt Ffermio ar fferm Bellis Brothers, lle’r oedd cyfle i dyfwyr eraill weld yr arbrawf ar waith.

Un o’r rhwystrau rhag cyflwyno ysglyfaethwyr Orius i’r cnydau mefus 60-diwrnod ar safle Bellis Brothers yw’r cyfnod blodeuo byr sy’n gallu atal cytrefi Orius rhag sefydlu ac adeiladu niferoedd digonol cyn i’r thripsod sydd wedi tyfu’n llawn hedfan i mewn ac ymosod yn ystod y cyfnod blodeuo.

Er mwyn helpu i oresgyn hyn, plannwyd alyssum, planhigyn trapio posibl ar gyfer thripsod a ‘phlanhigyn bancer’ i orius, ochr yn ochr â’r cnwd mefus. 

Plannwyd y planhigion alyssum  a rhyddhawyd orius arnynt sawl wythnos cyn i’r mefus flodeuo, gan anelu at ddarparu ffynhonnell gynnar o baill i fwydo’r orius i’w alluogi i sefydlu mewn niferoedd digonol i reoli’r thripsod wrth iddynt hedfan i mewn. 

“Darparwyd yr Orius ar gyfer yr arbrawf am ddim gan Biobest UK Limited, cwmni rheoli biolegol masnachol,’’ eglurodd Ms Bennison.

Wrth i’r mefus ddechrau blodeuo, y gobaith yw y bydd yr ysglyfaethwyr yn symud at y rhain ac yn atal difrod i’r ffrwythau. 

“Gall cynnyrch rheoli biolegol arall, sef gwiddon ysglyfaethus, fod yn effeithiol gyda chnwd mefus, ond  dim ond larfau’r thripsod mae’r rhain yn ei fwyta,’’ meddai Ms Bennison.

“Mae’r gwiddon yn effeithiol yn erbyn thripsod blodau’r Gorllewin sy’n cynhyrchu nifer fawr o larfau mewn blodau mefus, ond mae’n ymddangos nad yw rhywogaethau eraill o thripsod sy’n hedfan i mewn ar eu llawn dwf yn cynhyrchu llawer o larfau ar y mefus. Felly mae orius yn well opsiwn gan y bydd yn bwyta’r thripsod llawn dwf yn ogystal â’r larfau.’’

Os oes modd profi’r egwyddor y tu ôl i’r arbrawf, byddai modd ei gysylltu â phrosiect ehangach a’i gyflwyno ar raddfa fwy, meddai Dr Gladman.

Ar safle Bellis Brothers, mae pedwar erw o fefus yn cael eu tyfu ar ben byrddau gyda system blannu ddilyniannol sy’n ymestyn y cyfnod ffrwytho am hyd at wyth wythnos.

Gan fod y ffrwythau’n tyfu yn yr awyr agored ar gyfer menter casglu eich hun, mae defnyddio Orius yn gallu bod yn fwy heriol na phe byddai’n cael ei ddefnyddio ar gnydau mewn twnnel plastig neu dŷ gwydr, gan eu bod angen tymheredd uchel i ddodwy wyau a datblygu.  

Nid oedd y tywydd oer a gwlyb ym mis Mai a mis Mehefin eleni yn ddelfrydol ar gyfer Orius.

Dywed Mr Marks, sy’n rhedeg y busnes gyda’i wraig, Lizzie, a’i rhieni, Roger a Joan Bellis, mai ei nod yw rheoli plâu a chlefydau heb ddibynnu ar gemegau a goblygiadau negyddol y rhain ar yr amgylchedd ac organebau buddiol.

“Rydym yn gobeithio y bydd yr entomolegwyr yn llwyddo fel bod gennym reolaethau biolegol a allai fod yn effeithiol ar gyfer mefus sy’n tyfu yn yr awyr agored, meddai. “Dyna pam y gwnaethom ni ymgeisio i gymryd rhan yn yr arbrawf hwn.’’

Mae Mr Creed hefyd yn argymell y dylid annog ysglyfaethwyr gwyllt, sy’n gallu bod yn fwy goddefgar o blaladdwyr mewn rhaglenni rheoli plâu yn integredig (IPM) nag ysglyfaethwyr sydd ar gael yn fasnachol.

Gallai hyn olygu cyflwyno neu ganiatáu twf planhigion eraill megis danadl poethion ar y cyd yn y gwrychoedd sy’n darparu cynefin a bwyd i ysglyfaethwyr.

Dylid archwilio’r cnwd yn rheolaidd drwy gydol y tymor tyfu, meddai.

“Gallwch naill ai fonitro’r cnydau eich hun neu ddefnyddio agronomegydd. Dylid cerdded drwy’r cnwd yn rheolaidd a gwirio a gwneud penderfyniadau allweddol,’’ meddai Mr Creed.

Mae nifer o fusnesau garddwriaeth yn symud tuag at reoli plâu yn integredig, gan ddefnyddio dulliau rheoli cemegol pan fo’n gwbl angenrheidiol yn unig.

Dywed swyddog sector garddwriaeth Cyswllt Ffermio, Hannah Norman, y bydd canlyniadau’r arbrawf ar fferm Bellis Brothers yn cael eu rhannu gyda thyfwyr eraill unwaith y daw’r prosiect i ben.

Mae’r Cyllid Arbrofi yn rhoi cyfle i dyfwyr a ffermwyr i fod yn arloesol ac i arbrofi gyda gwahanol ffyrdd o wneud pethau, meddai.

“Gyda’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy ar y gorwel, mae’n annog y diwydiant i edrych ar opsiynau eraill, ac yn achos yr arbrawf hwn, i archwilio arferion cynaliadwy a allai fod o fudd iddyn nhw ac i’r amgylchedd.’’
 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cyswllt Ffermio yn cyhoeddi Dosbarth Academi Amaeth 2024
15 Gorffennaf 2024 Mae enwau'r rhai a ddewiswyd i gymryd rhan yn
Mae ffermwr ucheldir yn cynyddu ei incwm o werthiannau ŵyn drwy gofnodi perfformiad ei ddiadell gaeedig o famogiaid Mynydd Cymreig.
10 Gorffenaf 2024 O fewn pum mlynedd, mae pwysau cyfartalog yr
Fferm yng Ngorllewin Cymru yn Hybu Cynaliadwyedd a Lleihau Costau Porthiant trwy Cyllid Arbrofi Cyswllt Ffermio
09 Gorffennaf 2024 Nod Llyr Griffiths o Fferm Tafarn y Bugail yn