Yn ystod Sioe Frenhinol Cymru, gwobrwywyd un o gyfarwyddwyr cwmni Menter a Busnes, Eirwen Williams, gan CARAS, sef Y Cyngor ar gyfer Gwobrau’r Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol. Nod CARAS yw rhoi cydnabyddiaeth i unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i’r sector amaeth a diwydiannau gwledig.
Nid canolbwyntio yn unig ar ffermio ymarferol mae’r gwobrau hyn ond ar ddatblygiad gwasanaethau amaethyddol, ymchwil, technoleg, economeg, addysg, gofal, cyfathrebu a gweinyddiaeth.
Wrth gael ei hanrhydeddu fel Aelod Cyswllt Cydnabyddedig Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol (ARAgS) dywedodd Eirwen Williams, Cyfarwyddwr Menter a Busnes:
“Rydw i’n falch iawn o dderbyn y wobr yma gan Gymdeithas CARAS gan fod y diwydiant amaeth yn agos iawn at fy nghalon. Hoffwn bwysleisio na fyddwn wedi cael y wobr hon oni bai am yr holl gyfleoedd rydw i wedi eu cael drwy weithio i gwmni Menter a Busnes.”
Mae Eirwen Williams yn Gyfarwyddwr ar gwmni Menter a Busnes sy’n anelu at ddatblygu’r economi, ac mae’n gyfrifol am reoli dros 60 aelod o staff ac oddeutu 25 o staff hunangyflogedig.
Yn 2011, ac yna wedyn yn 2015, sicrhaodd Eirwen y tendr i gwmni Menter a Busnes i ddarparu rhaglen Cyswllt Ffermio ar draws Cymru, rhaglen sy’n trosglwyddo gwybodaeth a chyngor i bob un o’r sectorau amaethyddol. Mae rhai o’i phrif lwyddiannau yn cynnwys arwain ar ddatblygu rhaglen Agrisgôp a sefydlu’r Academi Amaeth. Yn 2014 fe weithiodd gyda 29 o gwmnïau milfeddygol ar draws gogledd Cymru i sicrhau fod y gwaith o gynnal profion TB yn cael eu cadw gyda’r milfeddygon lleol.
Mae Eirwen Williams yn ffermio gyda’i gŵr a’i mab ar fferm ddefaid a bîff ger Aberystwyth. Yn ystod 2010, prynont gyn Fferm Prifysgol Aberystwyth, sef Fferm Tanygraig. Mae gan Eirwen a’i gŵr hefyd ferch sydd newydd gwblhau ei hail flwyddyn ym Mhrifysgol Aberystwyth.