A yw cofnodion eich fferm yn gyfredol? A ydynt yn bodloni gofynion cynlluniau a deddfwriaethau presennol?

Os nad ydych yn gwybod yr ateb i'r cwestiynau hyn, neu hyd yn oed os oes angen sicrwydd arnoch bod eich gwaith papur fferm yn gyfredol, mae'n bosib y gallech elwa o fynychu cymhorthfa cadw cofnodion Cyswllt Ffermio.

Cynhelir y cymorthfeydd ledled Cymru, a gallwch archebu apwyntiad awr o hyd sy’n gwbl gyfrinachol gydag aelod o’r tîm Gwasanaeth Cysylltwyr Fferm a fydd yn darparu cyngor ac arweiniad ynglŷn ag unrhyw fater yn ymwneud â chadw cofnodion gan gynnwys Glastir, cofnodion symudiadau da byw a chofnodion meddyginiaeth. 

Dywedodd Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig Menter a Busnes sy’n darparu Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru, bod y cymorthfeydd wedi cael eu trefnu mewn ymateb i adborth gan swyddogion datblygu, a oedd yn dweud bod nifer o ffermwyr wedi nodi pryderon nad ydynt yn bodloni'r gofynion diweddaraf ynglŷn â chadw cofnodion.

“Bydd mynychu un o'r cymorthfeydd yma sydd wedi'u hariannu'n llawn yn rhoi'r arweiniad a'r gefnogaeth sydd arnoch ei angen a bydd cyfle i chi drafod unrhyw bryderon posib," meddai Mrs Williams. 

Cynhelir y cymorthfeydd rhwng 10yb a 5yp, gyda’r apwyntiad olaf yn cymryd lle am 4yp. Mae'n rhaid archebu lle ymlaen llaw. Er mwyn archebu apwyntiad, cysylltwch â Catrin Lloyd ar 029 2046 7418 neu anfonwch e-bost at catrin.lloyd@menterabusnes.co.uk.

 

Dyddiadau a lleoliadau cymorthfeydd cadw cofnodion nesaf Cyswllt Ffermio:

  • 27/10/2016     Talybont ar Wysg
  • 1/11/2016       Penfro
  • 2/11/2016       Llanelwy
  • 3/11/2016       Rhaeadr Gwy 
  • 10/11/2016     Wrecsam
  • 10/11/2016     Rhydaman
  • 11/11/2016     Mynwy
  • 14/11/2016     Llanandras
  • 17/11/2016     Carno 

Related Newyddion a Digwyddiadau

Academi Amaeth 2025 yn dod i ben gydag enillwyr yr her yn derbyn gwobrau
24 Tachwedd 2025 Mae unigolion uchelgeisiol y mae eu dyfodol yn
Pam mae dwysedd porfeydd yn hanfodol ar gyfer tros-hau llwyddiannus
14 Tachwedd 2025 Mae tros-hau porfeydd gyda chymysgedd aml
Dechrau Ffermio: Cyfleoedd ar gyfer lleoliad gwaith ledled Cymru!
13 Tachwedd 2025 Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig cyfleoedd ar gyfer