22 Chwefror 2021

 

Gall meillion coch berfformio’n dda mewn systemau pori celloedd ar ffermydd da byw Cymru os na chaiff y gwyndonnydd eu gorbori.

Cafodd ffermwyr gyfle i geisio cyngor gan yr agronomegydd Helen Mathieu yn ystod gweminar diweddar gan Cyswllt Ffermio i drafod meillion coch. Yn eu plith, roedd cynhyrchwyr ŵyn sy’n defnyddio systemau pori celloedd.

“Fel rhan o gylchdro 25 diwrnod mewn system pori celloedd, fe wnaiff meillion coch berfformio’n dda os na chânt eu pori’n is na 5cm, ac os gellir osgoi sefyllfaoedd lle bydd gormod o bwysau yn sgil da byw a defaid yn sathru’r meillion ac yn difrodi’r corun,” meddai Ms Mathieu, sy’n gweithio i gwmni Germinal.

Ond ychwanegodd Ms Mathieu fod angen gofal wrth ei ddefnyddio mewn systemau cynhyrchu defaid; ni ddylid gadael i famogiaid ei bori o fewn chwe wythnos cyn ac wedi gofyn hwrdd, hyd yn oed pan fydd canran isel o feillion coch mewn gwndwn cymysg, oherwydd gall hynny leihau ffrwythlondeb yn ddifrifol.

Ystyriaeth tymor byr yw hyn fel arfer, ond rhybuddiodd Ms Mathieu y gallai pori meillion coch yn ddi-dor effeithio ar ffrwythlondeb yn y tymor hir yn ogystal â’r tymor byr, a gallai’r effaith honno fod yn ddifrifol.

Gall cynnwys meillion coch sy’n llawn protein mewn porfa neu borthiant wedi’i silweirio helpu ffermwyr da byw a llaeth i leihau costau porthiant a gwrtaith a gwella perfformiad. 

Yn ôl Ms Mathieu, dyma’r protein cartref olrheiniadwy gorau, a dyfir naill ai’n ungnwd, yn gymysg â rhygwellt, neu’n rhan o wndwn sy’n cynnwys nifer o rywogaethau.

Dywedodd y bydd anifeiliaid yn perfformio’n well pan fydd meillion coch yn rhan o’u deiet, yn hytrach na dim ond glaswellt.

Y rheswm dros hyn yw’r ffaith y gellir colli 70% o’r protein sydd mewn glaswellt yn y rwmen, ond mae meillion yn cynnwys mwy o brotein sy'n anniraddiadwy yn y rwmen, sy’n golygu y gall da byw wneud defnydd gwell o’r protein hwnnw, oherwydd bydd ar gael i’r anifail ar ôl iddo fynd trwy’r rwmen.

Cynghorodd Ms Mathieu nad yw meillion coch yn anodd i’w tyfu, os cedwir at ychydig o reolau syml ynglŷn â sefydlu’r cnwd.

Rhaid i lefel pH y pridd fod yn 6 o leiaf – dylid calchu’r cae mewn da bryd os yw’n is na hynny.

Dylid sicrhau pridd â lefelau o ffosffad  (P) a photash (K) sy’n cyfateb i indecs 2; dylid chwalu gwrtaith ar gyfradd o 50kg/hectar (ha) ar adeg sefydlu’r cnwd.

Fel arfer, ni ddefnyddir nitrogen (N), ac eithrio yn achos priddoedd sydd â statws N isel iawn, er enghraifft, ar dir ysgafn a thywodlyd ble mae gwrtaith organig heb gael ei chwalu.

Os tyfir porfa i’w chynnwys mewn silwair, dylid sicrhau y caiff y borfa honno ei phori’n ysgafn yn unig yn yr hydref yn ystod blwyddyn hau’r borfa.

Ceisiwch gynaeafu’r toriad cyntaf rhwng 20 Mai a 10 Mehefin yn y flwyddyn ddilynol, gan dorri pan fydd dim ond 50% o flagur y blodau yn weladwy.

“Yn ddelfrydol, dylid torri’r borfa yn gynnar yn ystod datblygiad blagur y blodau, oherwydd fe wnaiff hynny sicrhau cydbwysedd da rhwng cyfanswm ac ansawdd,” meddai Ms Mathieu.

“Dylech osgoi torri’r cnwd ar adeg pan fydd fflurbennau i’w gweld ym mhobman ar hyd a lled y cae.”

Mae’n defnyddio llawer iawn o P and K – am bob tunnell fetrig o ddeunydd sych a gaiff ei gynaeafu, dylid chwalu 8kg o P a 27kg o K.

“Yn achos ffermwyr llaeth, mae’n gyfle da iawn i ddefnyddio slyri,” meddai Ms Mathieu.

Peidiwch â thorri’n is na 7cm a cheisiwch sicrhau y gwnaiff y cnwd wywo’n gyflym i osgoi malurio’r dail - defnyddiwch rholer-gyflyrwr rwber i helpu i atal hyn.

Gellir torri’r borfa hyd at bum gwaith mewn blwyddyn, gan sicrhau bylchau o 6-8 wythnos rhwng pob toriad.

Porwch aildyfiant yr hydref ond caniatewch i’r planhigyn flodeuo unwaith y flwyddyn. “Os byddwch chi’n torri’r borfa am y tro olaf ar ddechrau Awst neu yng nghanol Awst, bydd yn barod i’w phori ymhen 5-6 wythnos, pan fydd y borfa’n blodeuo,” meddai Ms Mathieu.

Mae hirhoedledd cnydau wedi gwella yn sgil datblygiadau ym maes bridio planhigion, ac mae rhai mathau, yn cynnwys AberClaret ac AberChianti o fridfa IBERS, yn ymestyn yr oes gynhyrchiol i bum mlynedd.  

Un o’r ychydig anawsterau sy’n gysylltiedig â thyfu meillion coch yw ymosodiadau gan blâu a chlefydau, ond gellir osgoi problemau trwy gylchdroi cnydau, meddai Ms Mathieu.

Mae hi’n argymell egwyl o bum mlynedd i gaeau ar ôl tyfu meillion coch ynddynt, a hyd yn oed mwy na hynny os yw plâu a chlefydau wedi bod yn broblem yn y gorffennol.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint