1 0
27 Mehefin 2018

 

Mae ffermwyr ledled Cymru’n cael eu hannog i roi cynllun ar waith i leihau effaith y tywydd sych ar dda byw a chyflenwad porthiant.

Mae’r amodau tywydd heriol ers yr hydref diwethaf wedi golygu bod rhai’n wynebu prinder porthiant wrth nesau at yr haf, a gyda chyn lleied o law dros yr wythnosau diwethaf, mae’r ffermydd hyn bellach yn bwydo stoc silwair y gaeaf neu’n prynu porthiant i mewn.

Dywed Abigail James, Swyddog Technegol gyda Cyswllt Ffermio, bod penderfyniadau cynnar yn hanfodol er mwyn cynnal cyflenwad porthiant a lles yr anifeiliaid. 

“Nid yw’n hawdd rhagweld pryd fydd hi’n glawio, ond mae angen i nifer ddechrau rhoi cynllun ar waith gan mai ychydig o law sydd yn y rhagolygon,” meddai.

Fel man cychwyn, mae’n cynghori y dylid asesu cyflenwad porthiant presennol. “Faint o’ch cyflenwad gaeaf allwch chi fforddio ei fwydo nawr ac am ba hyd?” Faint a beth allwch chi ei brynu i ategu at y cyflenwad bwyd presennol?”

Yn ôl Abi, un opsiwn yw bwydo naill ai silwair neu lefel uchel o ddwysfwyd.

Bydd y stoc yn parhau i fod angen rhwng 10 a 14 diwrnod o fwyd ategol ar ôl glawiad gan fod angen amser cyn i dwf y glaswellt gyrraedd lefel ddigonol.

Os fyddwch chi’n prynu porthiant, ystyriwch werth y deunydd sych - bydd cynnwys deunydd sych isel yn golygu bod angen i’r anifeiliaid fwyta mwy meddai Abigail.

“Os ydych chi’n bwydo stoc y gaeaf, cyfrwch y byrnau neu mesurwch y clamp yn rheolaidd i fonitro’r defnydd,” meddai.

Ni ddylid topio’r caeau - efallai bod y caeau’n edrych yn anniben, ond mae ganddyn nhw werth ychwanegol fel porthiant ac maent yn lleihau colledion lleithder o’r tir. 

I ffermydd sy’n defnyddio system bori cylchdro, peidiwch â gor-bori gan y bydd hynny’n cynyddu colledion lleithder o’r pridd.

Gall ffermwyr hefyd gymryd nifer o gamau o ran niferoedd da byw er mwyn lleihau’r pwysedd ar gyflenwad porthiant, gan gynnwys gwerthu stoc dros ben a difa mamogiaid a farciwyd yn ystod ŵyna unwaith y bydd yr ŵyn dros wyth wythnos oed.

“Os yn bosib, dylech leihau eich cyfradd stocio - peidiwch â chadw gwartheg neu heffrod llaeth neu sugno i’w difa er mwyn eu cadw nhw,” meddai Abi.

Dylid pwyso ŵyn yn rheolaidd ac ystyried diddyfnu pan fyddant yn ddeuddeg wythnos oed er mwyn lleihau’r galw ar y famog a sicrhau bod yr ŵyn yn gallu dethol o’r borfa sydd ar gael.

“Ychwanegwch ddwysfwyd ar gyfer ŵyn os nad yw’r cyflenwad yn ddigonol -

Defnyddiwch drelar silwair neu rywbeth tebyg i gysgodi anifeiliaid cloff neu ifanc nad ydynt yn gallu symud o’r haul.

Mewn buches laeth, bydd sychu gwartheg llai cynhyrchiol ynghynt yn lleihau eu gofynion egni.

3 2

Os bydd gwartheg yn cael eu cadw dan do mewn siediau gydag awyriad effeithiol am hanner diwrnod, ystyriwch bori dros nos i leihau straen oherwydd gwres.

Mae’n bwysig gwirio pwysedd dŵr yn ystod y dydd i sicrhau bod galw ar draws y fferm yn cael ei fodloni.

“Ystyriwch osod mwy o gafnau os nad yw’r galw’n cael ei fodloni,” meddai Abigail. “Chwiliwch am ddarnau o laswellt sy’n parhau i dyfu’n dda, gan y gallai hynny awgrymu bod dŵr yn gollwng.”


Related Newyddion a Digwyddiadau

Pam y dylai pob fferm yng Nghymru osod nod i gynyddu carbon organig pridd
30 Mai 2024 Bydd lleihau amharu ar y pridd, tyfu cnydau gorchudd
Merched mewn Amaeth Cyswllt Ffermio yn dychwelyd – ac eleni mae ar daith!
29 Mai 2024 Mae merched sy’n gweithio ym myd amaeth ledled Cymru
Mentora yn helpu fferm i newid o gynhyrchu da byw i dyfu grawnwin
28 Mai 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites