Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn atgoffa menywod beichiog i osgoi cysylltiad agos gydag anifeiliaid sy’n rhoi genedigaeth.

Gall menywod beichiog sy'n dod i gysylltiad agos â defaid adeg wyna neu anifeiliaid fferm eraill sy'n rhoi genedigaeth fod yn peryglu eu hiechyd eu hunain, ac iechyd eu babanod, drwy heintiau y gall anifeiliaid o'r fath eu cario.

Felly, mae Iechyd Cyhoeddus Lloegr, yr Adran Iechyd, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion a’r Gyfarwyddiaeth Iechyd a Diogelwch, mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth yr Alban a Diogelwch Iechyd yr Alban a’r Adrannau Amaeth a Datblygiad Gwledig ac Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Diogelwch Cyhoeddus yng Ngogledd Iwerddon wedi cyhoeddi cyngor blynyddol dros sawl blwyddyn y dylai menywod sydd eisoes neu â phosibilrwydd o fod yn feichiog osgoi anifeiliaid sy’n rhoi genedigaeth, neu newydd wneud hynny.

Er bod nifer yr achosion o feichiogrwydd dynol a effeithiwyd gan gyswllt ag anifail a heintiwyd yn eithriadol o fach, mae'n bwysig fod merched beichiog yn ymwybodol o'r risgiau posibl ac yn cymryd pob gofal.

Nid yw'r risgiau'n gysylltiedig â defaid yn unig, nag wedi'u cyfyngu i'r gwanwyn (dyma pryd mae'r rhan fwyaf o ŵyn yn cael eu geni). Gall gwartheg a geifr sydd newydd roi genedigaeth gario heintiau tebyg hefyd.

I osgoi'r perygl posibl o gael eu heintio, dylai menywod beichiog:

  • beidio â helpu mamogiaid i ddod ag oen, na helpu gyda buwch sy'n bwrw llo neu afr fenyw sy'n bwrw myn;
  • osgoi cysylltiad ag ŵyn, lloi neu fynnod a erthylwyd neu rai newydd-anedig, neu â'r brych, hylifau neu ddeunyddiau geni (e.e. gwellt) a heintiwyd gan gynhyrchion o'r fath;
  • osgoi trin (gan gynnwys golchi) dillad, esgidiau neu unrhyw eitemau a all fod wedi bod mewn cysylltiad ag anifeiliaid sydd newydd roi genedigaeth, eu rhai bach neu'r brych. Bydd dillad a allai fod wedi'u heintio yn ddiogel i'w trin ar ôl iddynt gael eu golchi ar olchiad poeth
  • Sicrhau fod cysylltiadau neu bartneriaid sydd wedi bod yn wyna neu'n edrych ar ôl anifeiliaid eraill oedd yn rhoi genedigaeth yn cymryd y rhagofalon iechyd a glendid priodol, gan gynnwys gwisgo cyfarpar a dillad diogelwch personol ac yn ymolchi'n drwyadl er mwyn cael gwared ar unrhyw halogi posibl.

Dylai menywod beichiog gael cyngor meddygol os oes ganddynt wres neu symptomau ffliw, neu os ydynt yn poeni y gallent fod wedi dal haint mewn amgylchedd fferm.

Mae gan ffermwyr hefyd gyfrifoldeb i leihau'r risgiau i fenywod beichiog. Mae hyn yn cynnwys aelodau o'u teuluoedd, y cyhoedd a staff proffesiynol sy'n ymweld â ffermydd.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y