bob stephenson and jodie roberts 1 0
4 Mehefin 2018

 

Mae darpar gynhyrchwyr porc yng Nghymru yn cael eu hannog i ystyried y farchnad y maent yn bwriadu ei chyflenwi cyn sefydlu eu cenfeintiau.

Gyda thri math penodol o foch i ddewis ohonynt, a phob un ohonynt â nodweddion dymunol ond gwahanol, dywed y milfeddyg moch, Bob Stevenson, y dylai marchnadoedd targed lywio p’un o’r rhain y dylai cynhyrchwyr moch eu cadw ar eu hunedau.

Yn ystod seminar Cyswllt Ffermio yn ystod Gŵyl Wanwyn Cyswllt Ffermio, dywedodd Mr Stevenson bod moch hybrid, croes a phedigri yn cynnig cyfleoedd gwahanol iawn i gynhyrchwyr.

“Peidiwch â dechrau cadw moch oni bai eich bod yn deall eich marchnad,” rhybuddiodd Mr Stevenson. “Canfyddwch eich marchnad a dewiswch frid i gyd-fynd â hynny.’’

Awgrymodd bod tri phrif gategori ym maes cynhyrchu moch - tyddynwyr, unedau masnachol ar raddfa fawr ac unigolion sy’n cadw moch fel diddordeb - gyda’r math o system yn llywio’r math o foch y dylid eu cadw.

Mae’r mochyn hybrid, sef yr un mwyaf cyffredin ar ffermydd moch yn y DU, yn fochyn wedi’i wella’n eneteg, sy’n tyfu ar gyfradd o 1kg y dydd. Mae bridiau’n cynnwys cyfuniad o foch Large White, Landrace a Duroc.

“Rhain yw’r prif foch ‘archfarchnad’,” meddai Mr Stevenson. “Rhain sy’n tyfu gyflymaf ac yn fwyaf effeithlon, ond nid y rhain yw’r mwyaf blasus o reidrwydd.’’

Mae’r croesfrid sy’n tyfu’n sydyn, sy’n cynnwys Pietrain, yn cael ei fridio am fywiogrwydd hybrid ac mae’r cig o ddiddordeb penodol i gigyddion annibynnol. Oherwydd eu cyhyrau dwbl, mae Mr Stevenson yn eu disgrifio fel y ‘Belgian Blue’ ym maes moch.

Mae poblogrwydd o fewn y bridiau hybrid a chroes, o ganlyniad i’w manteision o ran effeithlonrwydd twf a throsiant bwyd, wedi bod ar draul bridiau pur megis y Mochyn Cymreig.

Mae niferoedd wedi cwympo dros y blynyddoedd diweddar, ond mae’n dechrau cynyddu’r raddol unwaith eto, yn rhannol o ganlyniad i ddyfarnu statws TSG (Traditional Specialities Guaranteed) i’r brid y llynedd.

Dywedodd Mr Stevenson bod moch pur i’w gweld yn bennaf mewn cenfeintiau bychain heb fod yn rhy ddwys, ac yn werthfawr o ran eu hansawdd bwyta. O ganlyniad i’w twf arafach a llai o fywiogrwydd hybrid, mae’n hanfodol i nifer o gynhyrchwyr hybu rhinweddau unigryw’r brid i ychwanegu gwerth at eu cynnyrch.

“Yn ystod y 1950au, roedd yr Adran Amaeth bryd hynny yn gefnogol iawn o’r Mochyn Cymreig ynghyd â’r Large White a’r Landrace. Roedden nhw’n ei werthfawrogi bryd hynny ac maen nhw’n parhau i wneud hynny hyd heddiw,’’ meddai.

Mae’r Mochyn Cymreig, a ddefnyddiwyd yn y seminar fel enghraifft o fochyn pur, yn cynhyrchu torllwythi da o ran maint – 11 porchell ar gyfartaledd yn cael eu geni’n fyw. “Mae’r hychod yn gallu gofalu’n dda am berchyll gan fod ganddynt 14 teth,’’ meddai Mr Stevenson.

Yn ei farn ef, y Mochyn Cymreig yw’r gorau o ran blas, a’i addasrwydd i’w goginio, gan gynnig pwynt gwerthu unigryw wrth chwilio am farchnad.

“Mae’r Mochyn Cymreig yn tyfu’n dda ac mae’n ddefnyddiol iawn ar gyfer cynhyrchiant masnachol yn ogystal â chynnal y brid. Mae’n arwain at gyfuniad bendigedig o frid cynhenid y mae pobl eisiau ei gadw, ac mae defnydd masnachol i hynny.’’

Dywedodd Jodie Roberts,  Swyddog Technegol Moch a Dofednod Cyswllt Ffermio, bod neges y seminar yn glir – mae gan bob math o fochyn ei fanteision.

“Mae’r math y byddwch yn ei ddewis yn y pen draw yn ddibynnol ar yr hyn yr ydych yn bwriadu ei wneud gydag ef, felly nid oes un math yn addas i bawb,” meddai.

Mae’r prosiect yn cael ei gydlynu gan Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y