19 Mai 2020

 

Bydd ffermwyr llaeth sy’n llwyddo i wella ansawdd eu silwair o un gwerth egni metaboladwy (ME) yn unig, i 11.5ME, yn cynhyrchu 60,000 litr yn rhagor o laeth ar sail cnwd o 1,000 o dunellau.

Cafodd mantais ariannol cynhyrchu silwair o ansawdd dda ei dangos yn glir mewn gweminar yn ddiweddar ar ran Cyswllt Ffermio dan arweiniad yr arbenigwr silwair, Dr David Davies.

“Os torrwch chi ar 11.5 ME a bod gennych chi 1,000 o dunelli o silwair, mae hynny'n cyfateb i 300,000 MJ o egni ychwanegol, o'i gymharu â thorri ar 10.5 ME. Mae hynny’n cyfateb i 60,000 litr o laeth neu 7,500kg o gig eidion,” meddai Dr Davies wrth y ffermwyr a fu’n cymryd rhan yn y gweminar.

Mae llawer o ffermwyr yn methu’r targed hwnnw, yn ôl 1,000 o samplau silwair a ddadansoddwyd gan Cyswllt Ffermio dros gyfnod o bum mlynedd. Roedd gan rai ME mor isel ag 8, ond roedd y perfformwyr gorau wedi cyrraedd 12, gan ddangos yr hyn sy'n bosibl, meddai Dr Davies.

Mae’r silwair o'r ansawdd orau i’w gael drwy dorri'n gynnar, hyd yn oed os ydy hynny'n golygu llai o gnwd.

“Alla i ddim pwysleisio digon mor bwysig yw torri’r borfa'n ifanc, cyn i'r gwerthoedd ME neu’r gwerthoedd Treuliadwyedd (D) ddechrau cwympo,” meddai Dr Davies.

A hyd yn oed os yw cnwd y toriad cyntaf yn is, mae gadael iddo gynyddu o  ran ei swmp yn lleihau cyfanswm y cnwd blynyddol a hynny am fod yr adladd o gaeau sydd â chnydau aeddfed yn arafach, a bod yna risg ychwanegol o ddirywiad anerobig adeg bwydo.

Mewn cnwd aeddfed bydd deunydd marw ar y gwaelod, bydd ei werth fel porthiant yn is a  bydd mwy o furum a llwydni ynddo.
 
Yn yr ail doriad, mae modd sicrhau safon uchel drwy gyfrwng cyfnod aildyfu o bum wythnos ac, yn achos porthiant i fuchod godro sych neu fuchod sugno, 8-9 wythnos.

Gall colledion sylweddol o ran gwerth fel porthiant ddigwydd yn ystod y cyfnod gwywo, felly mae'n bwysig sicrhau bod y cyfnod hwnnw gystal ag y gall fod.

Dywedodd Dr Davies mai'r allwedd yw gwywo'n gyflym: mae'n argymell gwywo am ddim mwy na 24 awr, neu wywo nes cyrraedd y targed o 28-32% o ddeunydd sych (DM) cyn gynted â phosibl.

Yn y cyfnod clampio, gall llawer o golledion storio gael eu rheoli drwy gydgrynhoi’r silwair yn gyson a thrwy selio'r clamp yn iawn, gyda digon o bwysau arno i sicrhau bod cyn lleied â phosibl o aer yn mynd iddo.

O ran byrnau silwair, argymhellodd Dr Davies ddefnyddio chwe haen o ddeunydd lapio a pheidio â stacio mwy na dau fwrn o uchder os yw lefel y deunydd sych (DM) yn isel, neu fel arall bydd y byrnau’n colli eu siâp.

Dywedodd fod ychwanegion yn fwyaf cost-effeithiol pan fo ansawdd y silwair a rheolaeth y clamp yn dda.

“Os gwnewch chi bopeth yn iawn, fe fydd ychwanegion yn rhoi llawer gwell gwerth porthiant ichi ond ddylech chi mo’u defnyddio nhw i guddio camgymeriadau.’’

Pan fydd y silwair wedi'i storio yn y clamp, dylech ei gadw dan sêl am o leiaf chwe wythnos i roi amser iddo sefydlogi – llai na hynny ac mae perygl y bydd yn cynhesu adeg bwydo gan na fydd y cyfnod eplesu wedi bod yn ddigon hir i leihau’r burum a’r llwydni ynddo.

Os oes angen bwydo silwair yn gynt, awgrymodd Dr Davies fod modd gwneud ychydig o silwair mewn byrnau i’w ddefnyddio yn ystod y chwe wythnos hyn.
Dywedodd fod modd gwneud silwair o ansawdd dda o hen wndwn, ond dim ond os mai glaswellt sydd â llawer o faeth ynddo yw'r prif rywogaethau ynddo. Os yw'r gwndwn yn llawn glaswellt chwyn, fydd y treuliadwyedd byth cystal â threuliadwyedd gwndwn sy’n cynnwys y mathau o rygwellt sydd ar y rhestr sy’n cael ei hargymell ar hyn o bryd.

Anogodd Dr Davies y ffermwyr i fod yn ofalus wrth wneud silwair o wndwn llysieuol. Er bod gwndwn llysieuol yn troi’n silwair yn dda, mae’n cynnwys cymysgedd o rywogaethau a gall rhai ddominyddu mewn rhannau penodol o’r cae, sy’n arwain at amrywioldeb yn y silwair. Mae hyn yn broblem benodol mewn systemau llaeth.

“Os yw hyn yn rhan o ddogn manwl gywir i wartheg godro, gall yr amrywioldeb hwnnw amharu'n wirioneddol ar y cydbwysedd rhwng ME a DM,” rhybuddiodd y Dr Davies.

Ond ychwanegodd y bydd ymchwil sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd yn helpu i ateb y cwestiynau hyn.

O ran systemau gwartheg sugno a defaid cymysg, lle mae angen silwair o ansawdd uchel ar famogiaid a gwartheg sy'n tyfu ond bod ar fuchod sych angen 10 ME a 12% protein crai ar y mwyaf, mae'r duedd i wneud un math o silwair yn unig yn gostus, naill ai drwy golli swmp drwy wneud porthiant o ansawdd uchel neu am fod angen bwydo dwysfwyd pan fo'r ffocws ar gynhyrchu cnwd coesog o ansawdd is.

Dywedodd Dr Davies y dylai’r systemau hyn ganolbwyntio’n fwy ar anghenion maethol y gwahanol ddosbarthiadau stoc, a thargedu’r dyddiadau torri yn unol â hynny. 

Mae Dr Davies yn gweithio gyda Cyswllt Ffermio ar safle arddangos llaeth Nantglas ar brosiect sy'n canolbwyntio ar wella ansawdd glaswellt a silwair, gan roi ei gyngor ar waith.

Mae Cyswllt Ffermio wrthi'n cynnal gweminarau ar amryw o bynciau. I gael rhagor o wybodaeth neu i archebu lle ar un o'r rhain, cliciwch yma.

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Sut gwnaeth sicrhau mentor rymuso tyddynwyr gydag arweiniad a gwybodaeth
27 Mawrth 2024 Fel recriwtiaid newydd i amaeth-goedwigaeth a
Fferm Laeth Cwmcowddu yn Gwella Effeithlonrwydd Porthiant, gan Hybu Proffidioldeb a Chynaliadwyedd
25 Mawrth 2024 Mae Cwmcowddu, fferm gymysg yn Llangadog yng
Gall cyrsiau hyfforddiant Cyswllt Ffermio helpu i gyflawni datblygiad personol a chryfhau arferion fferm
21 Mawrth 2024 Enillodd Julie Davies, sy’n bartner gweithredol yn