18 Ionawr 2019

 

 

chris moon 0

‘Bydd ‘Amser i Atgyfnerthu’, y brif thema yng Nghynhadledd Ffermio Cymru nesaf, yn cael ei adlewyrchu mewn anerchiad gan Chris Moon MBE, siaradwr byd-enwog a chyn swyddog ym myddin Prydain a gollodd fraich a choes mewn damwain ffrwydron tir yn Affrica yn 1995. Ef fydd y siaradwr cyntaf ac yna ceir anerchiad gan gwpl enwog o Winsonsin sy’n cael eu cydnabod fel ffermwyr llaeth arloesol yn yr UDA ynghyd ag un o arbenigwyr cig coch mwyaf blaengar y DU.

Cynhelir y gynhadledd o 10am (cofrestru am 9.30am) hyd at 4pm ar ddydd Iau, 7 Chwefror ym Mhafiliwn yr Aelodau ar Faes y Sioe Amaethyddol yn Llanelwedd. 

Mae Mr Moon, a ddisgrifir gan lawer fel unigolyn hynod o ddewr ond dirodres yr un pryd, ac a fu’n astudio amaethyddiaeth yn y coleg ac yn gweithio fel ffermwr llaeth cyn ymuno â’r fyddin, yn credu y gall ‘pob un ohonom fynd gam ymhellach’. Mae’r mantra personol hwn, y mae wedi dibynnu arni ers ei ddamwain drasig, yn neges sy’n sicr o daro deuddeg yn y diwydiant amaethyddol wrth i ffermwyr geisio gweithio allan sut i symud ymlaen wrth baratoi at yr oblygiadau ansicr oherwydd Brexit.

“Rwyf wedi goroesi profiadau anhygoel yn cynnwys cael fy chwythu i fyny mewn parth oedd i fod yn ddiogel tra oeddwn yn goruchwylio’r gwaith o glirio ffrwydron tir ym Mozambique ac rwy’n un o’r ychydig rai sy’n dal yn fyw ar ôl cael fy nghipio gan y Khmer Rouge.

“Nid yn unig llwyddais i oroesi hyn ond rhedais gymal olaf y fflam Olympaidd i Nagano i agor y 18fed Gemau Olympaidd yn 1998.” 

Yn sgil ei ddamwain, cyflawnodd bethau y tu hwnt i’r disgwyl a dim ond blwyddyn ar ôl gadael yr ysbyty, rhedodd yr arwr hynod benderfynol hwn Farathon Llundain, gan godi arian ar gyfer elusennau sy’n helpu pobl anabl. Ers hynny mae wedi cwblhau mwy na 50 marathon, yn cynnwys ras heriol Marathon des Sables, sy’n 156 milltir ar draws y Sahara a ras eithafol 135 milltir Badwater Death Valley.

“Fy nghenhadaeth yw dangos yr egwyddorion y gall pobl eu defnyddio mewn bywyd bob dydd i frwydro yn erbyn y ‘cysyniad o gyfyngiadau’ a wynebir gan nifer o bobl sy’n gweithio ym maes amaethyddiaeth a nifer o ddiwydiannau eraill wrth iddynt baratoi tuag at ddyfodol ansicr y tu allan i Ewrop.”

“Rwy’n gobeithio ysbrydoli cynrychiolwyr fel eu bod hwythau’n teimlo eu bod yn gallu ‘atgyfnerthu’ a chwilio am bethau cadarnhaol ym mha bynnag sefyllfaoedd y byddant yn eu hwynebu.”

Mae Lloyd a Daphne Holterman a’u buches o 1,000 o Rosy-Lane Holsteins yn ffermwyr llaeth cynaliadwy blaengar yn UDA. Mae’r pâr priod yma o Winsconsin yn credu’n gryf os yw eich gwerthoedd, eich nodau a’ch cynlluniau busnes yn gorgyffwrdd, y cewch y gorau o fywyd. Mae’r ddau wedi ymrwymo i’w cenhadaeth, ‘Pobl dda. Gwartheg da. Elw da,’ a ysgrifennwyd gan y ddau gyda’i gilydd bron i 40 mlynedd yn ôl. Bydd y pâr ysbrydoledig yma’n sôn wrth gynrychiolwyr y gynhadledd sut maent wedi creu busnes llaeth cynaliadwy, proffidiol trwy ddewisiadau genetig gofalus a sut maent wedi osgoi defnyddio gwrthfiotigau ers mwy na phum mlynedd. 

Mae’r ysgolor Nuffield a’r arbenigwr cig coch, Dr. Jonathan Birnie, a fu’n gweithio’n flaenorol ar lefel uwch gyda’r NFU, Sainsbury’s a Dunbia yn credu y gallai’r rhai sy’n gweithio yn y cymunedau gwyddonol a’r gadwyn fwyd cig coch fod yn anelu tuag at ‘oes aur’ newydd! Bydd Dr Birnie, sydd bellach yn arwain ei gwmni ymgynghorol llwyddiannus ei hun, yn annerch y gynhadledd gan sôn am hwyluso’r newid o fewn y gadwyn cig coch drwy rannu technoleg newydd, gwell cydweithrediad a chyd gynaliadwyedd.

Gwahoddir pob cynrychiolydd i fynd i un o’r gweithdai sector-benodol rhyngweithiol. Bydd Rhys Williams o Coed Coch Farms Cyf, Abergele sy’n fenter ffermio defaid ar y cyd, yn siarad am ei nodau ar gyfer system cynhyrchu defaid gynaliadwy nad yw’n dibynnu ar gymorthdaliadau. Bydd Ger Dineen o County Cork, a ddewiswyd yn ‘Ffermwr Bîff y Flwyddyn’ yn Iwerddon yn 2017 yn egluro sut mae rheolaeth o’r borfa wedi bod yn ffactor allweddol i lwyddiant y busnes trwy ymestyn bod y tymor tyfu; gan leihau costau porthiant a gwella perfformiad yr anifeiliaid. Ar hyn o bryd Tom Foot a Neil Grigg o ‘Open Air Dairy’ yw’r unig ffermwyr llaeth yn Ewrop sy’n godro allan yn y cae. Bydd cyfle i ffermwyr llaeth ddarganfod pam yn eu gweithdy!

Bydd y rhaglen hefyd yn cynnwys canfyddiadau a chanlyniadau o dreialon a phrosiectau diweddar Cyswllt Ffermio yn ogystal ag ‘Arddangosfa Nuffield’, pan fydd tri ysgolor o Swydd Perth, y Cotswolds a Chymru’n rhannu profiadau eu hastudiaethau.

Mae Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig gyda Menter a Busnes, sy’n darparu Cyswllt Amaeth ar ran Llywodraeth Cymru, yn annog pobl i gymryd seibiant o brysurdeb bywyd bob dydd, ac mae’n addo diwrnod fydd yn rhoi'r egni a'r grym i'ch galluogi i wynebu’r dyfodol yn hyderus! 

“Heb os bydd 2019 yn flwyddyn bwysig i’n diwydiant wrth i ni baratoi ar gyfer dyfodol sy’n ymddangos yn ansicr.

“Mae Cynhadledd Ffermio Cymru’n llwyfan cydnabyddedig i drafod materion, ac eleni rydym wedi denu siaradwyr arbenigol sy’n cael eu cydnabod yn fyd-eang, fydd yn cynnig eu persbectif eu hunain ar amaethyddiaeth yn y DU a thu hwnt.” 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y