10 Gorffennaf 2018

 

Mae ffermwr da byw sydd wedi mabwysiadu system bori cylchdro i besgi ŵyn gyda chefnogaeth gan Cyswllt Ffermio wedi llwyddo i besgi 8% yn fwy o ŵyn i fodloni safonau’r farchnad ac wedi ennill 1.5kg o bwysau byw ychwanegol fesul oen.

Mae Rhun Williams, sy’n cadw system dda byw cymysg ar 85 hectar ar Fferm Ochor ger Tregaron gyda’i wraig, Nerys, yn awyddus i wneud gwell defnydd o’i laswellt ar gyfer pesgi ŵyn er mwyn lleihau costau.

Aeth ati i sefydlu system bori cylchdro, ond gan fod y dull hwn yn anghyffredin yn yr ardal, nid oedd ganddo hyder y byddai’r padogau’n gallu cynhyrchu glaswellt o ansawdd digonol i gynnal ei ddiadell.

Camodd Cyswllt Ffermio i’r adwy trwy sefydlu prosiect Safle Ffocws ar y fferm i werthuso manteision ac anfanteision system bori cylchdro i rannu gyda ffermwyr eraill.

Derbyniodd Mr Williams gyngor arbenigol gan yr ymgynghorydd glaswellt, Gareth Davies, a bu’n defnyddio mesurydd plât a’r adnodd rheoli porfa Agrinet i fesur a rheoli’r borfa.

Defnyddiodd Mr Williams y mesurydd plât i fesur glaswellt bob wythnos rhwng Mai a diwedd Tachwedd. Yn ystod y cyfnod, tyfodd y padogau 3t/DM/ha ar gyfartaledd o 24kg/DM/ha/dydd gyda galw o oddeutu 22kg/DM/ha/dydd.

Bu’r ŵyn, cyfanswm o 620 ohonynt i gyd, yn pori ar gylchdro ac roedd 500 ohonynt wedi’u pesgi ar ddiwedd Tachwedd, a chafodd y gweddill naill ai eu cadw dan do neu eu bwydo gan ddefnyddio bwyd amgen.

Yn y gorffennol, roedd y teulu Williams yn gwerthu 74% i gwrdd â manyleb ddymunol y farchnad, ond mae pori cylchdro wedi cynyddu’r ffigwr hwnnw i 82%.

Un rheswm am hyn yw eu bod yn fwy gofalus wrth ddewis ŵyn gan fod ganddynt well dealltwriaeth o faint o laswellt fyddai’r padogau’n ei gynhyrchu at y dyfodol.

Dywedodd Mr Williams bod cael arbenigwr wrth law wedi rhoi hyder iddo ei fod yn gwneud y penderfyniadau iawn o ran pori.

Ac mae mabwysiadu’r system wedi cynyddu incwm o werthiannau ŵyn ac wedi ehangu’r cyfnod incwm, gan wella llif arian blynyddol.

Dywedodd Mr Williams ei fod wedi bod yn defnyddio rhagolygon y tywydd ac adeg y flwyddyn er mwyn cael syniad o gynhyrchiant glaswellt yn y gorffennol ond mae bellach wedi newid ei agwedd.

“Mae’r ffaith ein bod yn mesur glaswellt yn rhoi hyder i mi wybod y bydd y glaswellt yn aildyfu,” meddai.

“Os byddwn ni’n pwyso’r ŵyn ac yn meddwl efallai bod angen cilogram neu ddau ychwanegol arnynt, mae’r ffaith ein bod yn gwybod y bydd y glaswellt yn aildyfu o fewn un cylchdro neu ddau’n ein galluogi i droi’r ŵyn allan am bythefnos ychwanegol.”

Dywedodd Menna Williams, Swyddog Technegol Cig Coch Cyswllt Ffermio, a fu’n goruchwylio’r prosiect, ei fod wedi bod yn werthfawr i’r teulu Williams yn ogystal â ffermwyr eraill yn yr ardal.

Cynhaliwyd diwrnod agored ar fferm Ochor i rannu’r canlyniadau a’r wybodaeth dechnegol.

“Mae’r prosiect yma wedi dangos bod pori cylchdro yn arwain at gynhyrchu a defnyddio mwy o borthiant fesul hectar o’i gymharu â system stocio sefydlog,” meddai.

“Mae Rhun wedi gweld gwerth pori cylchdro, ac mae’n paratoi i wneud yr un peth eto eleni.”

Cafodd y prosiect ei gydlynu gan Cyswllt Ffermio a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites