18 Ionawr 2019
Bydd dau o ffermwyr llaeth mwyaf blaengar America, sydd wedi datblygu drwy ddefnyddio strategaethau a luniwyd i sicrhau’r perfformiad gorau posibl o ran pobl a gwartheg, yn rhoi trosolwg o’u hegwyddorion busnes pan fyddant yn cwrdd â ffermwyr yng Nghymru ym mis Chwefror.
Mae Lloyd a Daphne Holterman yn cadw buches o dros 1,000 o wartheg llaeth, sef Rosy-Lane Holsteins, yn Wisconsin.
Ar 7 Chwefror, byddant ar Faes y Sioe Frenhinol, Llanelwedd, lle byddant yn cyflwyno i gynulleidfa o ffermwyr yng Nghynhadledd Ffermio Cymru. Prif thema’r gynhadledd fydd ‘amser i atgyfnerthu’ ac mae’r digwyddiad wedi’i lunio i annog agwedd bositif mewn cyfnod o ansicrwydd. Cynhelir y gynhadledd, a drefnir gan Cyswllt Ffermio, rhwng 9.30am a 4pm ddydd Iau, 7 Chwefror yn Hafod a Hendre, Maes y Sioe Frenhinol, Llanelwedd.
Sefydlwyd busnes Daphne a Lloyd Holterman 37 mlynedd yn ôl, ac maen nhw bellach yn arweinwyr o fewn y diwydiant ffermio llaeth cynaliadwy, a hynny’n rhannol oherwydd eu hagwedd tuag at leihau’r defnydd o wrthfiotigau.
Trwy fabwysiadu cyfres o brotocolau yn ymwneud â siediau, arferion godro a dethol geneteg, nid ydynt wedi defnyddio gwrthfiotigau yn eu buches ers dros bum mlynedd.
Fe wnaethon nhw sefydlu eu busnes ffermio llaeth gyda 75 o wartheg ar ôl graddio o Brifysgol Wisconsin - Daphne gyda gradd BSc mewn Gwyddor Bywyd a Chyfathrebu, a Lloyd gyda gradd mewn Gwyddor Llaeth.
Crëwyd eu cenhadaeth, sef “Pobl Dda. Gwartheg Da. Elw Da.” pan gafodd y busnes ei ffurfio’n wreiddiol. Ers hynny, mae wedi cynnig cyfeiriad clir ar gyfer y busnes, yn ôl Daphne, a fagwyd ar fferm bîff a moch.
Roedd y datganiad cenhadaeth yn nodi eu bwriad i gydbwyso proffidioldeb a chynhyrchiant gyda gofal am anifeiliaid a stiwardiaeth o’r tir.
“Rwy’n credu eich bod yn dysgu mwy drwy gyfnodau heriol na chyfnodau da,” meddai Daphne. “Rydym ni wedi dysgu llawer.”
Mae geneteg y fuches wedi chwarae rhan flaenllaw o ran datblygu’r fuches, gyda theirw’n cael eu dewis yn ôl rhinweddau net gydol oes (NM$), solidau llaeth, rhwyddineb lloia, cyfrif celloedd somatig, cyfradd cyfloi ac oes gynhyrchiol.
“Mae’r strategaeth hon wedi arwain at fuches fwy iach a phroffidiol. Un canlyniad o’r rhaglen geneteg yw peidio â defnyddio gwrthfiotigau o fewn y fuches laeth dros y 66 mis diwethaf,” meddai Lloyd.
Bydd y teulu Holterman, sydd bellach wedi croesawu dau bartner i ymuno â nhw yn y busnes, yn cyflwyno ymysg siaradwyr gwadd a fydd yn denu cynulleidfa lawn i Hafod a Hendre.
Mae’r siaradwyr gwadd eleni hefyd yn cynnwys y rhedwr marathonau estynedig, Chris Moon MBE a gollodd ran isaf ei fraich a’i goes mewn damwain gyda ffrwydryn tir yn Affrica. Bydd Chris yn galw ar ei brofiadau unigryw i ddangos egwyddorion y gall pobl eu defnyddio yn eu bywyd o ddydd i ddydd i’w cynorthwyo i herio’r hyn sy’n eu rhwystro - cysyniad sy’n berthnasol i nifer o fewn y diwydiant amaeth wrth baratoi ar gyfer dyfodol ansicr tu allan i’r UE.
Bydd y rhaglen yn cynnwys sesiynau grŵp gyda ffermwyr bîff, defaid a llaeth blaengar, sydd wedi cyflwyno newidiadau cadarnhaol i’w busnesau. Bydd cyfle hefyd i ddangos gwaith ymchwil gan yr ysgolheigion Nuffield diweddaraf a rhoi trosolwg o arbrofion a phrosiectau sy’n cael eu cynnal ar ffermydd arddangos Cyswllt Ffermio ledled Cymru.
Mae archebu lle yn hanfodol. Cliciwch yma i archebu lle arlein, neu ffoniwch Heledd George ar 01970 636282 neu anfonwch e-bost at: heledd.george@menterabusnes.co.uk