Mae cydweithrediad a gweledigaeth wedi cynorthwyo i sicrhau dyfodol hyfyw ar gyfer pedair fferm deuluol Gymreig, sydd wedi buddsoddi cyfanswm o £3 miliwn yn arallgyfeirio i gynhyrchu wyau maes.

Mae’r ffermydd yn amrywio o ran maint o 40 erw, ac roedd cynhyrchu wyau maes yn cynnig opsiwn ymarferol i ddatblygu menter gyda’r gallu i greu incwm cynaliadwy o’r tir prin a oedd ar gael.

Roedd pob un ohonynt ar ddechrau’r broses o ddatblygu eu syniadau busnes pan gawsant gyfle i ymuno â grŵp Agrisgôp Cyswllt Ffermio dan arweiniad Elaine Rees Jones. Mae’r rhaglen datblygu arweinyddiaeth, sydd wedi’i ariannu’n llawn, yn annog ffermwyr a choedwigwyr cymwys i ddod ynghyd i ddatblygu eu busnes, yn ogystal â magu hyder a sgiliau trwy ddysgu gweithredol.

Gydag ambell un o’r unedau dofednod bellach yn weithredol, mae pob un o’r teuluoedd yn cyfaddef bod ymuno â’r grŵp wedi rhoi’r anogaeth yr oedd arnynt ei angen er mwyn rhoi eu syniadau ar waith.

picture 2 arwel and delyth jones tu allan ir uned dofednod newydd outside new poultry house 1
Mae Arwel a Delyth Jones (yn y llun ar y dde) yn ffermio fferm Parc, uned 56 erw yn Llangwm ger Cerrig y Drudion, Conwy.  Fe gymeron nhw awenau’r fferm gan rieni Arwel bedair blynedd yn ôl. Er bod ganddynt ddiadell o 100 o famogiaid Cheviot Gogledd Lloegr a mamogiaid Penfrith Beulah, roeddent yn awyddus i greu menter a fyddai’n galluogi un ohonynt i weithio ar y fferm ar sail llawn amser.

Penderfynodd y cwpwl, a fu’n cadw oddeutu 30 iâr ddodwy er mwyn cynhyrchu wyau ar gyfer teulu a ffrindiau, sefydlu uned wyau maes.

Aethant at Elaine Rees Jones er mwyn gweld pa gyngor a chefnogaeth all fod ar gael. Fel rhan o Agrisgôp, cyflwynodd Elaine y cwpwl at dri chwpwl arall gyda nod tebyg.

Mae’r uned 16,000 o ddofednod yn anelu at fod yn weithredol ym mis Tachwedd a dywed Arwel a Delyth bod ymuno â’r grŵp wedi rhoi gwybodaeth a hyder iddynt ddatblygu eu syniad. “Byddem wedi arallgyfeirio i gynhyrchu wyau beth bynnag, ond byddai wedi cymryd mwy o amser i ni os na fyddem wedi bod yn rhan o’r grŵp oherwydd y cyngor a’r wybodaeth bwysig yr ydym wedi’i dderbyn,” meddai Delyth, sydd wedi gadael ei swydd fel cynorthwyydd meithrin mewn ysgol leol er mwyn rhedeg y fenter.

Mae’r cwpwl wedi sicrhau cytundeb gyda chwmni Lloyd’s Animal Feeds, sy’n cyflenwi’r cywennod a’r bwyd ar gyfer eu system aml-haen ac yn prynu’r wyau.

Mae wedi bod yn stori debyg ar fferm Rhallt Ycha, Llanfair Caereinon, Powys, i Daniel a Trudi Bates. Mae Daniel wedi gadael ei swydd fel agronomegydd i weithio ar sail llawn amser gyda Trudi yn eu huned 32,000 o ddofednod.

Roeddem ni eisiau model busnes a fyddai’n gallu ein cefnogi ar y fferm ac i alluogi Dan i adael ei swydd,’’ eglurodd Trudi.

“Roeddem wedi bod yn edrych ar wahanol opsiynau pan glywodd Elaine si ein bod yn ystyried cynhyrchu wyau, ac fe gysylltodd â ni. Dyna’r neges destun orau i ni’i dderbyn erioed!’’

Deunaw mis yn ddiweddarach ac mae’r uned bron yn weithredol gyda chywennod yn cyrraedd ar ddechrau mis Tachwedd. Byddant yn cyflenwi wyau o’u hieir Hyline i gwmni Anglian Eggs.

Bydd y fenter hon yn ein galluogi i gynnal y fferm at y dyfodol,” meddai Daniel.Nid ydym yn ddibynnol ar gymorthdaliadau, felly er bod Brexit yn bryder oherwydd bod y diwydiant ddofednod yn ddibynnol iawn ar fwyd sy’n cael ei fewnforio, rydym yn hyderus y bydd dal gennym fferm deuluol ar ôl 2020 ac incwm sy’n ei wneud yn gynaliadwy.”

Bu’r grŵp yn cyfarfod ddwywaith y mis, ond gan fod rhai o’r prosiectau bellach wedi’u cwblhau neu’n agos at fod wedi cwblhau, maent yn cyfarfod unwaith bob deufis.

Bu’r grŵp yn gweithio ar bob agwedd o’u mentrau newydd gyda’i gilydd ac yn rhannu manylion megis ymdrin â banciau, sicrhau cytundebau, dewis o gyfarpar ac argaeledd contractwyr adeiladu.

Mae rhannu syniadau wedi bod yn rhan annatod i lwyddiant y grŵp. Dywedodd Elaine Jones, sydd wedi sefydlu uned o 32,000 o ddofednod ym Mron y Nant, Trefeglwys, Powys, gyda’i phartner, Robert Corfield, ei fod wedi gwneud y broses yn llawer haws ac yn fwy boddhaol. “Roedd pawb yn yr un sefyllfa ac fe roddodd hyder i ni ynglŷn â’r broses gyfan wrth symud ymlaen. Yn  hytrach na bod yr unig rai’n ymchwilio, byddai pawb yn cymryd rhan ac yn rhannu ein canfyddiadau a’n syniadau,’’  eglurodd Elaine.

Roedd Robert wedi bod yn cynhyrchu llaeth ym Mronynant pan gollodd ei gytundeb ac roedd angen menter arall arno er mwyn cynnal y fferm. Mae Elaine bellach wed gadael ei swydd fel cynorthwyydd gofal iechyd yn yr ysbyty er mwyn gweithio ar sail llawn amser ar yr uned.

Mae’r pedwerydd cwpwl yn y grŵp, sef Julian ac Emma Morris, yn aros am ganlyniad apêl cynllunio cyn y gallant symud ymlaen gyda’r gwaith adeiladu. 40 erw yn unig yw eu daliad yn Nyffryn Ceiriog ger Llangollen. “Cynhyrchu wyau yw’r unig fenter ymarferol y byddai’n bosib i ni ar gyn lleied o erwau, a dyma’n cyfle cyntaf ni i ddychwelyd i fferm weithredol,” meddai Julian.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn sefydlu grŵp Agrisgôp cysylltwch â Cyswllt Ffermio ar 08456 000813 am fanylion Arweinwyr Agrisgôp yn eich ardal. 

 

picture 1 cyfarfod cynhyrchwyr wyau agrisgop egg producers meeting

Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites