2 Rhagfyr 2019

 

Trwy olchi traed yn gyson a gwella’r rheolaeth ar slyri mae ffermwr bîff yn Sir Benfro wedi lleihau'r achosion o ddermatitis digidol yn ei fuches fagu yn sylweddol.

Sefydlodd Richard Dalton ei fuches Stabiliser bum mlynedd yn ôl ond roedd wedi cael trafferth wrth geisio rheoli cloffni yn deillio o ddermatitis digidol, afiechyd y deallir ei fod yn bresennol ar fwy na 95% o ffermydd y Deyrnas Unedig.

Roedd hyn yn rhwystr o ran effeithlonrwydd menter bîff 115 o fuchod Mr Dalton gan fod anifeiliaid yn cymryd mwy o amser i besgi - mae’r cynnydd pwysau mewn gwartheg cloff yn llai ac maent yn ychwanegu at gostau cynhyrchu oherwydd y cynnydd mewn gwaith, porthiant a’r gofod yn y corlannau.

“Roedd ein biliau milfeddygol yn uchel iawn ac roeddem yn defnyddio mwy o wrthfiotig nag y byddem yn hoffi. Roedd yn rhaid i ni gael gwared ar stoc oherwydd nad oeddem am fagu oddi wrth yr anifeiliaid oedd yn dioddef,” dywedodd Mr Dalton.

Trwy raglen Fferm Ffocws Cyswllt Ffermio, bu’n gweithio gyda’i filfeddyg a’r milfeddyg iechyd traed gwartheg arbenigol, Sara Pedersen, i greu cynllun iechyd buches integredig a chyflwyno cyfres o gamau i leihau’r afiechyd, i atal achosion rhag digwydd yn y dyfodol.

Dywedodd Sarah Hughes, o Cyswllt Ffermio, bod tri neges allweddol i’w dysgu o’r prosiect.

“Cliriwch yr afiechyd allan o’r fuches trwy drin yr heintiad, cadwch o allan trwy beidio â phrynu gwartheg wedi eu heintio i mewn a pheidiwch a gadael iddo gael gafael eto trwy arferion rheoli da,” dywedodd.

Mae gwartheg sydd yn dioddef yn heintus iawn ac yn gweithredu fel cronfeydd haint yn y fuches. Mae ffermwyr yn cael eu hannog i reoli’r afiechyd naill ai trwy waredu’r gwartheg neu trwy reoli briwiau yn ofalus iawn er mwyn rheoli ffynhonnell yr ail-heintiad. 

Mae Ms Pedersen yn argymell trin yr holl friwiau ar yr un pryd i leihau lefelau’r heintiad yn y fuches a’r amgylchedd.

 

Arfer gorau o ran trin dermatitis digidol gweithredol

  1. Codi’r droed yr effeithiwyd arni yn y crysh
  2. Golchi’r briw gyda dŵr glân (gan gynnwys rhwng y digidau)
  3. Sychu’r briw yn ofalus gan ddefnyddio papur/swab glân
  4. Chwistrellu gyda gwrthfiotig arwynebol trwyddedig
  5. Gadael i sychu am 30 eiliad
  6. Chwistrellu eto a gostwng y droed - dim angen rhwymyn
  7. Dychwelyd i iard lân, sych
  8. Cofnodi bod y fuwch wedi ei thrin a’i marcio yn weladwy i sicrhau ei bod yn cael triniaethau dilynol
  9. Trin am 3-4 diwrnod

 

Gosodwyd bath traed tri medr o hyd ar Fferm Trapps er mwyn i’r carnau gael eu trochi yn ddigonol yn yr hylif copr sylffad; roedd yr anifeiliaid yn mynd trwy’r bath yn ddyddiol i ymdrin â’r heintiad ar y dechrau ac erbyn hyn maent yn mynd trwyddo ddwywaith yr wythnos.

Dywedodd Ms Pedersen wrth ffermwyr mewn diwrnod agored Cyswllt Ffermio yn ddiweddar ar Fferm Trapps mai trin yr anifeiliaid sy’n dioddef yn unigol oedd y flaenoriaeth gyntaf.

“Dyma’r rhai sy’n gronfa i’r heintiad yn y fuches, felly trwy eu trin i gyd fe allem sicrhau ein bod yn lleihau’r risg i’r anifeiliaid heb eu heintio,” esboniodd.

“Mae golchi traed yn bwysig iawn oherwydd ei fod yn atal heintiadau newydd a hefyd yn atal hen friwiau rhag ail agor.”

Rhaid golchi’r traed yn gyson, nid dim ond pan fydd dermatitis digidol yn torri allan.

Ar ôl eu heintio mae’r anifeiliaid yn cael eu trin, rhaid i’r pwyslais fod ar atal achosion newydd rhag digwydd yn yr anifeiliaid hynny ac atal briwiau cronig sydd ynghwsg rhag ail agor.

Mae bioddiogelwch yn allweddol – mae hyn yn cynnwys peidio â dod â gwartheg newydd sy’n ei gario i’r fuches ac atal dermatitis digidol rhag ymledu ymhlith gwahanol grwpiau o wartheg ar y fferm.

Cynghorir ffermwyr i osgoi prynu gwartheg sydd â briwiau dermatitis digidol ac i olchi traed yr holl wartheg wrth iddynt gyrraedd y fferm.

Mae rheoli slyri yn bwysig oherwydd, nid yn unig mae slyri yn gallu ymledu dermatitis digidol o un anifail i’r llall, ond mae hefyd yn achosi niwed i’r croen ac mae hyn yn gadael i facteria gael gafael.

Mae asidrwydd y slyri yn llidio’r croen, gan ei wneud yn llai effeithiol fel rhwystr ffisegol ac felly yn gadael i heintiad fynd i’r droed.

“Nid oes gennym broblemau o ran dermatitis digidol pan fydd y gwartheg yn pori ond unwaith y byddan nhw’n dod i’r iard roeddem yn arfer cael problemau,” dywedodd Mr Dalton.

“Diolch i’n gwaith prosiect gyda Cyswllt Ffermio mae gennym gamau rheoli yn eu lle yn awr ac rydym yn gwybod pa gamau y mae’n rhaid i ni eu cymryd i atal heintio.”

Trwy wneud y newidiadau hyn, mae’n obeithiol y bydd yn bosibl iddo reoli dermatitis digidol yn y tymor hir.

 

Arfer gorau o ran trin dermatitis digidol gweithredol

  • Codi’r droed yr effeithiwyd arni yn y crysh
  • Golchi’r briw gyda dŵr glân, gan gynnwys rhwng y digidau
  • Sychu’r briw yn ofalus gan ddefnyddio papur/swab glân
  • Chwistrellu gyda gwrthfiotig arwynebol trwyddedig e.e. Engemycin
  • Gadael i sychu am 30 eiliad
  • Chwistrellu eto a gostwng y droed - dim angen rhwymyn
  • Dychwelyd i iard lân, sych
  • Cofnodi bod y fuwch wedi ei thrin a’i marcio yn weladwy i sicrhau ei bod yn cael triniaethau dilynol.  Trin am 3-4 diwrnod

Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint