24 Hydref 2019
Mae ffermwr llaeth wedi lleihau ei fewnbwn blynyddol o nitrogen i 135kg/hectar (ha) o 400kg gan gadw tyfiant y glaswellt ar yr un lefel trwy gyfres o gamau i wella effeithlonrwydd a gynlluniwyd i leihau effaith ei fusnes fferm ar yr amgylchedd.
Wrth i Gymru ddadlau dros ddull dan arweiniad ffermwyr o reoli maetholion, sicrhaodd y ffermwr llaeth o’r Iseldiroedd, Rick de Vor, ffermwyr Cymru y gallai’r newidiadau arfaethedig fod yn fuddiol yn ariannol i’w busnesau yn ogystal ag i’r amgylchedd.
Yn ystod digwyddiad ar y cyd gan Cyswllt Ffermio ac AHDB Dairy ar fferm Coleg Gelli Aur, Llandeilo, soniodd Mr de Vor am y cynlluniau y mae ffermwyr yr Iseldiroedd yn eu cyflawni i fodloni disgwyliadau amgylcheddol gan sicrhau ffermwyr Cymru y gall newid fod yn dda i’w busnesau.
“Rwy’n gwneud iddo weithio i mi ac erbyn hyn mae gennyf well incwm o ganlyniad,” mynnodd.
Mae Mr de Vor yn godro 115 o fuchod sy’n cynhyrchu cyfartaledd o 9050 litr o laeth y fuwch yn flynyddol, ar 4.51% braster menyn a 3.63% protein.
Mae’n ffermio 45ha yn Utrecht ac mae 7ha o’r rheini yn ddŵr camlas. “Mae hynny’n creu problemau gyda nitrogen, os aiff y lefelau yn y dŵr yn rhy uchel rydym yn cael ein cosbi,” dywedodd.
Mae nifer o reoliadau gan y llywodraeth mewn grym yn yr Iseldiroedd hefyd yn rheoli’r defnydd o nitrogen ac allyriadau amonia, gan gynnwys cyfnod pan na ellir chwalu slyri rhwng 1 Medi a 14 Chwefror a gofyn i bob fferm laeth fod â lle i storio slyri am 10 mis.
Ond mae rhai cynlluniau yn cael eu harwain gan ffermwyr, mewn rhaglen dan yr enw y Newid Ffermydd Llaeth Cynaliadwy.
“Rydym wedi dewis bod yn rhagweithiol,” dywedodd Mr de Vor. “Os gwnewch chi geisio bod yn well na mae’r llywodraeth eisiau i chi fod, gallwch wneud eich cynlluniau eich hun i gael allyriadau nitrogen a CO2 is.”
Lansiwyd y cynllun y flwyddyn ddiwethaf ac mae’r canlyniadau yn obeithiol, dywedodd.
Mae ffermwyr wedi gosod nod o gynyddu oes buwch odro ar gyfartaledd o 4.5 mlynedd i 5.5 mlynedd i leihau’r nifer o stoc ifanc sydd angen cael eu magu fel stoc cyfnewid.
Mae wyth deg y cant o ffermwyr llaeth yn awr yn pori eu buchesi i leihau allyriadau amonia – cynnydd o 65%. “Mae llawer o ffermwyr wedi newid eu model cynhyrchu,” dywedodd Mr de Vor, sy’n pori buchod am fwy na 200 diwrnod y flwyddyn.
Trwy gynhyrchu mwy o ynni o gynlluniau ynni adnewyddol ar y fferm, mae’r amonia sy’n cael ei golli wedi gostwng o fwy na 20%.
Cam arall y mae ffermwyr yn ei gymryd i leihau amonia yn eu tail yw ychwanegu dŵr o’u systemau camlesi – mae hyn yn lleihau lefelau’r amonia o 50% gan hefyd gynyddu faint o nitrogen sydd ar gael yn y slyri y gellir ei ddefnyddio, dywedodd Mr de Vor.
Mae wedi mynd ymhellach na’r gofyn yn y rheoliadau, gan gynnwys chwalu slyri am y tro olaf ar ddechrau Gorffennaf, er nad yw’r cyfnod caeedig yn dechrau hyd 1 Medi. “Dim ond am chwech i wyth wythnos y gellir defnyddio’r nitrogen mewn slyri, ar ôl hynny ni ellir ei ddefnyddio felly does dim pwynt ei chwalu.”
Ac mae’n aros tan yr ail wythnos ym Mawrth cyn chwalu slyri, er y gallai wneud hynny o 15 Chwefror ymlaen. “Mae’n rhy wlyb i’w chwalu cyn hynny,” dywedodd.
Mae’n ofynnol i ffermwyr yn yr Iseldiroedd hysbysu’r awdurdodau pan fyddant yn bwriadu chwalu slyri a rhaid iddynt beidio â’i chwalu o fewn dau fetr i gwrs dŵr.
Dan y gyfraith mae’n rhaid iddynt brofi eu priddoedd bob pedair blynedd – mae Mr de Vor yn anelu at gael pob padog ar 5.6pH neu uwch ac mae’n tyfu digonedd o feillion coch yn ei wndwn glaswellt oherwydd ei allu i sefydlogi nitrogen.
Mae ffermwyr hefyd yn monitro lefelau wrea yn eu llaeth – os yw’n 22% neu uwch rhaid iddynt gymryd camau gan fod yr wrea yn cael ei ysgarthu fel amonia.
Er bod y cynlluniau amrywiol yma yn cynnig manteision amgylcheddol, mynegodd Mr de Vor bryder am reolau newydd a gynigir gan lywodraeth yr Iseldiroedd i leihau nifer y buchod, moch a dofednod o 40% erbyn 1 Ionawr 2020. Dywed y llywodraeth bod angen y camau hyn oherwydd bod gormod o nitrogen yn cael ei adael mewn gwarchodfeydd natur yn yr Iseldiroedd.
“Os bydd hyn yn digwydd ni fyddai’n bosibl cael incwm da o ffermio bellach,” dadleuodd Mr de Vor.
Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.