Gall gwneud y defnydd gorau o’r glaswellt sydd ar gael yn ystod y gwanwyn hwn trwy droi gwartheg i’r borfa ynghynt gynorthwyo i arbed arian ar ddwysfwyd a chadw dan do, gan gynyddu proffidioldeb. Gyda chynllunio gofalus, gellir rheoli pori yn ystod y gwanwyn i sicrhau gwell defnydd o’r glaswellt trwy gydol y tymor. Gall isadeiledd effeithiol ar y fferm megis cafnau dŵr a llwybrau hefyd wella mynediad i’r borfa yn ystod y flwyddyn.

Yn dilyn gaeaf mwyn, mae cyflenwad da o laswellt ar nifer o ffermydd, sef y porthiant rhataf sydd ar gael i ffermwr, ar gost cyfartalog o £50-£60 y dunnell o ddeunydd sych (DM). Mae porthiant wedi’i silweirio ddwywaith a hanner yn ddrytach na glaswellt, ac mae dwysfwyd yn costio hyd at bedair gwaith yn fwy. Bydd cynllunio pori cylchdro ar gyfer y gwanwyn yn cynorthwyo ffermwyr i gyllidebu hyd at ganol mis Ebrill, pan fydd cyfraddau twf yn dechrau cynyddu’n sydyn.

noel gowan grasstec group

“Y sefyllfa ddelfrydol yw cael gorchudd cychwynol uchel ac i gyllidebu ar gyfer lleihau’n raddol i oddeutu 1,900kg DM/ha nes y cyfnod croesi pan fo’r twf yn fwy na’r galw. O’r pwynt hwnnw, bydd gwarged yn dechrau cronni,” meddai Noel Gowan o gwmni Grasstec Group, yn ystod digwyddiad ar fferm Prifysgol Aberystwyth, Trawscoed, un o Safleoedd Arloesedd Cyswllt Ffermio.

“Mae cyllidebu glaswellt yn eich cynorthwyo i benderfynu faint o wartheg allwch chi eu troi allan a phryd, ac mae hefyd angen i chi gymryd mesuriadau wythnosol i bennu lefel eich gorchudd. Unwaith y bydd gwartheg wedi cael eu troi allan, bydd defnydd glaswellt yn cynyddu, bydd costau porthiant yn lleihau a byddwch yn paratoi’r gwndwn yn dda ar gyfer yr ail gylchdro.”

Yn ystod y cylchdro cyntaf, dylai gwartheg bori am 12 awr, ond unwaith bydd y tywydd yn dechrau gwella ym mis Ebrill, gellir cynyddu’r cyfnod hwnnw i 24 neu 36 awr ar gyfer y prif dymor tyfu.

Ar fferm Trawscoed, mae cynlluniau ar y gweill i gynyddu maint y fuches 400 buwch sy’n lloea trwy gydol y flwyddyn a gwneud gwell defnydd o borthiant a dyfir gartref. Mae Grasstec wedi mapio’r fferm gan ddefnyddio technoleg GPS ac wedi ail ddylunio’r padogau i sicrhau bod pob un yr un maint, er mwyn ei gwneud yn haws i gyllidebu glaswellt. Mae system ddŵr newydd hefyd wedi cael ei argymell. Bydd gan y system ddolen gyfradd ail lenwi sydd 40-50% ynghynt er mwyn bodloni gofynion ar yr adegau prysuraf. Bydd cafnau dŵr presennol yn cael eu newid am gafnau mwy o faint, mewn gwell lleoliad sy’n gwasanaethau pob padog a bydd y llwybrau presennol hefyd yn cael eu huwchraddio.

“Wrth ail ddylunio platfform pori, treuliwch amser yn cynllunio, sicrhewch ei fod yn ddigon mawr i alluogi cynnydd ac mae’n rhaid deall capasiti eich fferm,” ychwanegodd Mr Gowan.

Er mwyn cynyddu’r elw o borfeydd a lleihau’r mewnbynnau a brynir i mewn, mae gwneud y defnydd gorau posib o’r glaswellt a dyfir ar y fferm yn allweddol.

“Y prif ffactor sy’n arwain elw yw’r defnydd o laswellt, ac mae’r data diweddaraf o Iwerddon a Seland Newydd yn dangos y potensial ar gyfer £220-£230 yn fwy o elw fesul hectar am bob tunnell DM o laswellt y byddwch yn ei ddefnyddio.”

Mae’r ffermydd mwyaf effeithlon yn defnyddio tua 85% o laswellt ac er mwyn gwella’r defnydd a wneir ohono, dylid cynyddu nifer y tunnelli o DM a dyfir trwy ddilyn rhai rheolau sylfaenol:

  • Porwch lawr at uchder weddilliol o 3.5cm-4.5cm i ffrwyno datblygiad pennau hadau a blagur coesog sy’n is o ran eu gwerth fel bwyd, gan arwain at leihad yn y DM a gymerir a dirywiad ym mherfformiad y fuwch.
  • Porwch y padogau’n sydyn cyn i’r da byw fwyta’r glaswellt sy’n aildyfu. Mae glaswellt yn defnyddio egni yn ei wreiddiau er mwyn tyfu dail newydd, ond os bydd y glaswellt eildwf yn cael ei bori, ni fydd egni wrth gefn a bydd tyfiant yn cael ei ddal yn ôl. Bydd maint padogau ac oriau pori’n helpu i reoli hynny.
  • Gorffwyswch y padogau rhwng pori er mwyn galluogi’r blagur i adnewyddu i’r cyfnod tair deilen. Dylai hyd y cylchdro fod rhwng 30-60 diwrnod yn y gwanwyn, 18-22 diwrnod yn yr haf a 30-45 diwrnod yn yr hydref.
  • Mesurwch orchudd y glaswellt. Os bydd y gorchudd yn rhy uchel - dros 3,500kg DM/ha ni fydd yn cyrraedd gwaelod y glaswellt, gan arwain at eildwf arafach a bydd yn anoddach i bori lawr hyd at 4cm. Os bydd gorchudd yn rhy isel - llai na 2,500kh DM/ha - bydd rhaid i wartheg weithio’n galetach i sicrhau cymeriant digonol.

“Porwch pan fo’r gorchudd rhwng 2700-3000kg DM/ha fel ei bod yn haws pori lawr hyd at 4cm. Mae hynny’n ddelfrydol i sicrhau’r cymeriant DM gorau a pherfformiad gwell gan y gwartheg.”

Oeddech chi yn gwybod bod modiwlau e-ddysgu ar y testun ‘Gwneud y Gorau o’ch Glaswellt’ i'w gael ar-lein? Mae’r modiwlau rhyngweithiol byr hyn yn cymryd tua 15 i 20 munud i’w cwblhau, a gallwch gael mynediad at y gyfres o fodiwlau ‘Gwneud y Gorau o’ch Glaswellt’ ynghyd a modiwlau yn trafod amryw o bynciau eraill ar y wefan BOSS https://businesswales.gov.wales/boss/lms/login.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites