17 Gorffennaf 2018

 

Mae ffermwyr trwy Gymru yn gweddïo am law yn fuan i ddod â’r cyfnod sych i ben ond efallai na fyddai chwalu gwrtaith cyn i’r tywydd droi y dull gorau o roi hwb i dyfiant y glaswellt yn syth.

Mae’r arbenigwr glaswelltir Andre van Barnevald yn cynghori na ddylid chwalu gwrtaith nitrogen (N) oni bai bod rhagolygon o law sylweddol.  Byddai cawodydd taranau yn golchi’r gwrtaith i ffwrdd cyn iddo gael ei ddefnyddio.

“Mae digon o N yn y pridd ar hyn o bryd oherwydd y chwalu sydd wedi digwydd yn barod,” meddai Mr van Barnevald, o Graise Consultancy o Iwerddon.

“Os yw’r glaw yn drwm, bydd y ganran o ddŵr sy’n cael ei gadw yn y pridd yn isel iawn a gall fod yn fwy diogel osgoi chwalu gwrtaith am rhwng wythnos a 10 diwrnod yn dilyn glaw,” awgrymodd Mr van Barnevald.

Mae’n rhybuddio ffermwyr i beidio ag ystyried bod y cyfnodau cyntaf o law yn ddiwedd ar y diffyg porthiant.

Ar y dechrau gall achosi problemau tymor byr oherwydd bydd glaswellt sych yn dechrau pydru a bydd angen i’r planhigyn dyfu o’r newydd i gynnig digon o borfa i dda byw.

“Bydd y glaw cyntaf yn glasu pethau, y glaw dilynol fydd yn gwneud iddo dyfu,” dywedodd Mr van Barnevald.

Os bydd yn bwrw erbyn 20 Gorffennaf, gall caeau silwair da, o bosibl, dyfu 4T DM/Ha erbyn canol Medi i gau’r bwlch porthiant gaeaf sydd wedi cael ei greu gan y silwair toriad cyntaf sydd yn cael ei borthi yn ystod y cyfnod sych.

Mae Chris Duller, arbenigwr glaswellt annibynnol yn awgrymu edrych ar ddewisiadau i dyfu cynnwys sych ychwanegol a hau cnwd porthiant hybrid neu gnydau Eidaliadd a Westerwold.  Dylai’r rhain dyfu’n dda yn y pridd cynnes gan gynnig porthiant gwerthfawr yn yr hydref.  Bydd amseru’r gweithrediadau trin yn allweddol gan fod cyflwr y ddaear yn anffafriol nes bydd yn bwrw. Gall trin y pridd pan fydd yn rhy sych arwain at broblemau strwythurol gan y gall gwelyau hadau gael eu gor-drin a gall gronynnau mân naill ai hel ar yr wyneb neu ffurfio haen dan y pridd.

Mae hefyd yn amser pwysig i ail-werthuso cyfraddau stocio at y gaeaf. “Mewn sawl achos mae llai na 50% o’r silwair gofynnol ar gael ac mae’n cael ei borthi ar hyn o bryd. Gwnewch eich syms o ran pa stoc o borthiant y bydd arnoch ei angen at y gaeaf sydd i ddod a pheidiwch â chadw unrhyw stoc diangen,” cynghorodd Mr Duller.

Bydd Cyswllt Ffermio yn trefnu cyfres o ddigwyddiadau yn ystod mis Awst i helpu ffermwyr i archwilio ffyrdd o gau’r bwlch porthiant, gan gynnwys y dewisiadau o ran cnydau i fyrhau’r gaeaf.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffermwr arobryn, Ynyr Pugh o Ganolbarth Cymru, yn trafod ei lwyddiant o ganlyniad i Ffermio Cyfran
16 Chwefror 2026 Mae Ynyr Pugh yn ffermwr ymroddedig, llawn
Sut mae cofnodi perfformiad yn llunio gwelliannau gwerthfawr mewn diadell fynydd yng Nghymru
10 Chwefror 2026 Mae enillion mamol a gyflawnwyd trwy gofnodi
Bwydo glaswellt trwy'r dail yn rhoi hwb i borthiant india-corn mewn cyfnod o sychder, yn ôl arbrawf fferm
Bu i ddefnyddio’r dull bwydo drwy’r dail ar india-corn a oedd yn